Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol mewn Dysgu ac Addysgu: Cyfres Astudiaethau Achos

Rydym ni’n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos i rannu arferion defnyddio AI Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu.
Yn y gyfres hon o flogiau, bydd cydweithwyr sy’n defnyddio AI Cynhyrchiol yn eu haddysgu’n rhannu sut yr aethon nhw ati i gynllunio’r gweithgareddau.
Rydym ni’n hapus iawn i groesawu Dr Megan Talbot (met32@aber.ac.uk) o Adran y Gyfraith a Throseddeg gyda’r blog hwn.

Astudiaeth Achos #2: Traethawd y Gyfraith a Throseddeg

Beth yw’r gweithgaredd?

Aethon ni ati i gynllunio asesiad i wella sgiliau llythrennedd AI yn y modiwl cyfraith teulu.

Rhoddwyd cwestiwn traethawd normal i’r myfyrwyr: “I ba raddau y dylai cyfraith Prydain gydnabod cytundebau cynbriodasol?”. 

Cyflwynwyd ymateb ChatGPTo1 i’r un cwestiwn iddyn nhw hefyd.

Hysbyswyd y myfyrwyr mai’r amcan oedd ysgrifennu traethawd yn ymateb i’r cwestiwn. Roedd croeso iddyn nhw ddefnyddio’r ymateb AI mewn unrhyw ffordd roedden nhw’n ei dewis, gallen nhw adeiladu arno, ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer ymchwil neu ei anwybyddu’n llwyr, beth bynnag oedd orau ganddyn nhw. Dywedwyd wrthyn nhw na fyddem ni’n dweud sut y byddai’r traethawd AI yn sgorio pe baen nhw’n ei gyflwyno heb unrhyw addasiad, ond roedd croeso iddyn nhw wneud hynny os mai dyna eu dymuniad (ni wnaeth neb).

Yn wyneb y defnydd cynyddol o declynnau AI esboniwyd nid yn unig y byddai angen iddyn nhw allu defnyddio allbynnau AI yn fedrus ac yn gyfrifol, ond hefyd y byddai angen dangos eu bod yn gallu ychwanegu gwerth na allai AI ei wneud. Felly dylen nhw ystyried y dasg fel un sy’n dangos eu bod yn gallu perfformio’n well nag AI.

Sut cafodd y gweithgaredd ei gyflwyno i’r myfyrwyr?

Cyflwynwyd taflen briffio aseiniad arferol, yn ogystal â sesiwn ddarlith ar sut i ymdrin â’r asesiad. Roedd y ddogfen briffio’n cynnwys mwy o arweiniad nag arfer i’w helpu i oresgyn unrhyw ansicrwydd ynglŷn â’r aseiniad. Roedd hyn yn cynnwys arweiniad penodol ar bethau y gallen nhw eu gwneud i ragori ar yr ateb AI, megis mwy o ddefnydd o gyfraith achosion, tystiolaeth eu bod yn deall cyfraith yr achos, edrych ar fwy o ddadleuon beirniadol a gyflwynwyd gan academyddion ac ar lenyddiaeth a adolygwyd gan gymheiriaid ac ysgrifennu gan weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith. Cafodd y myfyrwyr eu rhybuddio’n benodol hefyd am rithwelediadau (tueddiad AI i ddarparu gwybodaeth ffug mewn ffordd sy’n ymddangos yn “hyderus”) a’r gallu i wirio ffeithiau’r AI os oedden nhw’n bwriadu dibynnu arno.

Pa heriau a gafodd eu goresgyn?

Cafwyd nifer o gwestiynau gan y myfyrwyr oedd yn perfformio’n uwch yn holi “oes rhaid i mi ddefnyddio’r ymateb AI”, ac atebon ni “nac oes”. Yn gyffredinol roedd y myfyrwyr yn ymddangos yn ansicr ynghylch yr hyn roedden nhw’n cael ei wneud er gwaethaf yr arweiniad helaeth a roddwyd yn y ddogfen briffio gychwynnol a’r ddarlith ategol.

Yn anffodus, maglwyd nifer sylweddol o fyfyrwyr am iddyn nhw beidio â gwirio ffeithiau un o’r disgrifiadau achos a ddefnyddiwyd gan ChatGPT, oedd yn anghywir. Gadawyd adborth ar y traethodau hynny i’w hatgoffa bod angen gwirio ffeithiau adnoddau AI.

Sut helpodd hyn gyda’u dysgu?

Ni holwyd y myfyrwyr am yr aseiniad hwn yn benodol, ond yn yr SES nododd nifer o’u plith eu bod wedi’i gael yn ddefnyddiol iawn er mwyn deall cyfyngiadau AI. Mewn sgwrs, nododd nifer o fyfyrwyr ei fod wedi’u helpu i oresgyn gohirio’r gwaith, gan fod man cychwyn wedi’i roi iddyn nhw i adeiladu ohono. Nododd myfyrwyr oedd yn sgorio’n uwch eu bod wedi darllen yr allbwn AI, ond gwneud eu hymchwil eu hunain ac ysgrifennu fel arfer, gan gyfeirio at yr AI dim ond i sicrhau nad oedden nhw’n hepgor unrhyw bwyntiau craidd ar ddamwain.

Sut fyddwch chi’n datblygu’r gweithgaredd hwn yn y dyfodol?

Rydym ni’n ystyried cwtogi hyd y traethawd a chynnwys myfyrdod cryno ar y defnydd o AI fel rhan o’r aseiniad. Yn ogystal, byddwn yn ehangu’r rhybudd i wirio ffeithiau allbynnau AI gan nodi’n benodol y gallai fod achosion real yn cael eu dyfynnu ond y gellid cael disgrifiadau camarweiniol neu ffug i gefnogi pwyntiau na ystyriwyd yn yr achos.
Cadwch olwg am y blog nesaf ar AI Cynhyrchiol mewn astudiaethau achos Dysgu ac Addysgu.

Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol mewn Dysgu ac Addysgu: Cyfres Astudiaethau Achos

Rydym ni’n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos i rannu arferion defnyddio AI Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu.

Yn y gyfres hon o flogiau, bydd cydweithwyr sy’n defnyddio AI Cynhyrchiol yn eu haddysgu’n rhannu sut yr aethon nhw ati i gynllunio’r gweithgareddau.

Rydym ni’n hapus iawn i groesawu Dr Panna Karlinger (pzk@aber.ac.uk) o’r Ysgol Addysg gyda’r blog hwn.

Astudiaeth Achos # 1 – y Gwningen Ymchwil

Beth yw’r gweithgaredd?

Diben y gweithgaredd yw dod o hyd i ffynonellau academaidd dibynadwy i fyfyrwyr eu defnyddio yn eu gwaith cwrs. Gwahoddir y myfyrwyr i ddefnyddio ‘papur hadau’ ar gyfer aseiniad arfaethedig i’w fwydo i’r Gwningen Ymchwil, sy’n defnyddio dysgu peiriant i fapio llenyddiaeth gysylltiedig yn seiliedig ar awduron, cyfeiriadau, pynciau neu gysyniadau cysylltiedig. Yna ysgogir y myfyrwyr i ddewis ffynonellau ar gyfer eu haseiniadau, a gwerthuso’r rhain yn feirniadol yn defnyddio’r prawf CRAAP sy’n gwirio a yw’r ffynhonnell yn gyfredol, yn berthnasol, yn gywir, ynghyd â’r awduron a’r pwrpas er mwyn dod i farn ar ddibynadwyedd cyffredinol cyn mynd ati i’w defnyddio.

Beth oedd canlyniadau’r gweithgaredd?

Nododd y myfyrwyr gynnydd o ran hyder a gallu i ddod o hyd i ffynonellau academaidd a dangos beirniadaeth yn eu gwaith. Er gwaethaf yr adnoddau helaeth a’r arweiniad manwl a ddarparwyd gan y staff addysgu a llyfrgell, yn aml mae myfyrwyr yn ei chael yn anodd dod o hyd i ffynonellau perthnasol i gefnogi eu gwaith, a datryswyd hyn yn llwyddiannus wrth i’r myfyrwyr ymgysylltu â’r gweithgaredd.

Sut cafodd y gweithgaredd ei gyflwyno i’r myfyrwyr?

Roedd y gweithgaredd yn rhan o fodiwl sgiliau allweddol, ac roedd gan y myfyrwyr wybodaeth flaenorol am y prawf CRAAP, dod o hyd i ffynonellau a chafwyd trafodaeth a chyflwyniad i AI Cynhyrchiol, y cyfleoedd a’r risgiau dan sylw yn ogystal â defnydd effeithlon a moesegol. Gan gyfuno eu gwybodaeth flaenorol, cyflwynwyd y teclyn fel arddangosiad, ac yna defnyddiodd y myfyrwyr eu dyfeisiau eu hunain i ddod o hyd i ffynonellau ar gyfer aseiniad arfaethedig a ddewiswyd mewn modiwl gwahanol.

Pa heriau a gafodd eu goresgyn?

Mae rhai myfyrwyr yn dal i fod yn wyliadwrus neu’n amheus ynghylch defnyddio AI, neu’n ofni cael eu cyhuddo o arfer annheg, felly roedd yn bwysig dangos achosion ble gallent ddefnyddio AI yn hyderus i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau hyn. Nid oedd gan rai myfyrwyr ddyfeisiau â sgrin fawr ac roedd cyflawni’r gweithgaredd ar ffôn yn heriol. Bydd rhaid ystyried hyn yn y dyfodol, ac mae angen arweiniad a chymorth mwy ymarferol ar rai myfyrwyr gyda’r gweithgaredd. Mae hyn yn bennaf yn gysylltiedig â sgiliau a gallu digidol.

Sut helpodd hyn gyda’u dysgu?

Atgyfnerthodd rai negeseuon am lythrennedd AI beirniadol, gwerthuso allbwn a ffynonellau’n gyffredinol, gan eu hatgoffa am bwysigrwydd beirniadaeth yn eu gwaith, ac roedd dod o hyd i wybodaeth ac adnoddau ychwanegol a mwy diweddar yn aml yn helpu i lywio’r cynnwys a’r gwerthuso yn eu haseiniadau pan oedd y myfyrwyr yn ymgysylltu’n ôl y disgwyl.

Sut fyddwch chi’n datblygu’r gweithgaredd yn y dyfodol?

Gan nad ydym bellach yn dysgu’r modiwl sgiliau allweddol, mae cyfle i wreiddio hwn mewn modiwlau eraill, er enghraifft mewn sesiynau cymorth aseiniadau neu sesiynau galw heibio dewisol. Mae hyn yn hwyluso grwpiau llai o fyfyrwyr a mwy o amser un i un fel bo’r angen, a allai wneud y gweithgaredd yn fwy llwyddiannus; a chymryd bod y myfyrwyr wedi derbyn yr arweiniad angenrheidiol gan yr adran ar ddefnyddio AI. Gallai hefyd fod yn rhan o’r modiwlau neu’r arweiniad ar ddulliau ymchwil rydyn ni’n eu rhoi i ymchwilwyr uwchraddedig, gan fod yr adnodd nid yn unig am ddim, ond fod ganddo hefyd fedrau uwch o’u cymharu â theclynnau mapio llenyddiaeth tebyg, oedd yn werthfawr i unrhyw un wrth weithio ar draethawd hir neu draethawd ymchwil.

Cadwch olwg am y blog nesaf ar AI Cynhyrchiol mewn astudiaethau achos Dysgu ac Addysgu. Os ydych chi’n defnyddio AI Cynhyrchiol yn eich ymarfer addysgu ac yn awyddus i gyflwyno blog, cysylltwch â eddysgu@aber.ac.uk.

Canllawiau a chyngor ynghylch DA Cynhyrchiol: Diweddariad

Accessibility icons showing 3 images: a checklist, a computer workstation, an image

Mae’r Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu, y Gofrestrfa Academaidd ac UndebAber yn cydweithio ar greu canllawiau a chyngor ynghylch DA Cynhyrchiol.

Ar ôl cymeradwyaeth yn y Pwyllgor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr diweddar, rydym yn falch o rannu’r adnoddau hyn gyda chi yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. 

  1. Datganiad ar y defnydd o DA Cynhyrchiol

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu’r egwyddorion a’r dull y mae PA yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer DA Cynhyrchiol ar draws ei holl weithrediadau. 

  1. Canllawiau i fyfyrwyr ar ddefnyddio DA Cynhyrchiol

Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau a chyngor i fyfyrwyr ar sut y gallent ddefnyddio DA Cynhyrchiol fel adnodd astudio. Mae’r ddogfen hon yn defnyddio dull system goleuadau traffig i rybuddio myfyrwyr am faint o ofal sydd ei angen wrth ei ddefnyddio.

  1. Datganiad templed e-gyflwyno DA Cynhyrchiol

Mae datganiad wedi’i ychwanegu at dempled cwrs Blackboard ar gyfer Cyrsiau 2025-26 sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr ar ddefnydd derbyniol o DA Cynhyrchiol a ble i gael cefnogaeth a chymorth.

  1. Datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol yng Nghadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard

Gallwch gopïo datganiadau asesu DA Cynhyrchiol i’ch cwrs Blackboard i roi gwybod i fyfyrwyr beth yw’r defnydd derbyniol o DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad. Gweler ein blogbost i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud hyn. 

  1. Datganiad ar y defnydd o Offer DA Cynhyrchiol

Wedi’i ddatblygu gan yr Adran y Gyfraith a Throseddeg, ac eisoes yn cael ei ddefnyddio gan rai adrannau, mae’r datganiad ar y defnydd o’r Offer yn galluogi myfyrwyr i amlinellu sut maent wedi defnyddio DA Cynhyrchiol yn eu hasesiadau. Mae myfyrwyr yn llenwi’r ffurflen ac yn mewnosod y datganiad ar y defnydd o’r offer yn eu dogfen word cyn cyflwyno.

Gellir lawrlwytho’r datganiad ar y defnydd o’r offer o’n tudalen we a’i uwchlwytho i Blackboard.

Mae tudalen we bwrpasol i roi cyngor a chyfarwyddyd ar gyfer DA Cynhyrchiol ar gael lle rydym yn gosod ein deunyddiau cymorth a’n cyngor.

Rydym wedi ymgynghori’n eang â chydweithwyr a myfyrwyr ar y mater hwn, a hoffem ddiolch i’r rhai sydd wedi helpu i lunio’r canllawiau hyn.

Cyfeiriwch ymholiadau staff at eddysgu@aber.ac.uk neu cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc.

Datganiadau asesu DA Cynhyrchiol ar gael yng Nghadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol bellach ar gael yng Nghadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard.

Mae hyn yn rhan o’r gwaith y mae’r Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu yn ei wneud mewn cydweithrediad ag UndebAber a’r Gofrestrfa Academaidd.

Nod y gwaith hwn yw ei gwneud yn glir i fyfyrwyr beth yw’r disgwyliadau o ran eu hymgysylltiad a’u defnydd o DA Cynhyrchiol mewn dysgu ac addysgu.

Mae tri datganiad ar gael yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu:

  • Dim defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
  • Rhywfaint o ddefnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
  • Disgwylir defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn

Mae pob un o’r datganiadau yn rhoi cyngor ac yn cyfeirio myfyrwyr at gymorth ychwanegol.

Gall cydweithwyr gopïo’r datganiadau hyn i faes perthnasol y cwrs. Gan fod lefelau derbyniol o ddefnydd DA Cynhyrchiol yn amrywio rhwng asesiadau unigol, argymhellir bod y datganiadau yn cael eu copïo i’r ffolder asesu perthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth gweler: Sut mae ychwanegu eitem o Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard at fy nghwrs?

Yn ogystal â’r Datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol, mae Datganiad Defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gael hefyd. Mae’r datganiad hwn wedi’i ddatblygu gan gydweithwyr yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr amlinellu sut maent wedi defnyddio DA Cynhyrchiol yn eu haseiniadau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â defnyddio’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 18/3/2025

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein

Mawrth

Ebrill

Mai

Mehefin

Gorffennaf

Adnoddau a chyhoeddiadau

Arall

  • Call for proposals (open dates) Unfiltered by EmpowerED: A Podcast Series where educators share unedited stories of inspiration and challenge
  • Call for proposals (open dates) Future Teacher Webinars
  • Monthly series European Network for Academic Integrity, ENAI monthly webinars free open webinars on various topics related to academic integrity

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Cyfryngau cymdeithasol: X.com, BSky.

Gwasanaethau Gwybodaeth: Canllawiau DA i chi

Bellach mae gennym dudalen gymorth a gwybodaeth newydd ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/ai/

Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd bolisïau a chyngor ar ddiogelwch yn ogystal â chanllawiau ar gyfer defnyddio DA yn eich astudiaethau, eich addysgu, eich ymchwil a’ch gwaith gweinyddol.

Newydd: Sgwrs ag AI yn Blackboard

Mae’r adnodd Cynorthwyydd Dylunio DA ddiweddaraf wedi’i alluogi yn Blackboard.

Mae AI Conversations yn darparu bot sgwrsio i fyfyrwyr ryngweithio ag ef fel rhan o weithgaredd dysgu.

Mae dau opsiwn o fewn AI Conversations:

  • Cwestiynau Socrataidd
    • Mae hyn yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol trwy gyfrwng anogwyr holi parhaus
  • Chwarae rôl
    • Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr actio senario gyda’r persona DA a ddyluniwyd ac a grëwyd gan yr hyfforddwr

Ar ôl ei osod, gall myfyrwyr gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r pwnc ymhellach.

Mae myfyrwyr yn teipio ymateb i’r cwestiynau a ofynnir gan y bot sgwrsio DA. Ar ddiwedd y gweithgaredd, mae myfyrwyr yn ymateb i gwestiwn myfyriol i amlinellu sut y gwnaeth y sgwrs helpu gyda’u dealltwriaeth o’r pwnc.

Byddwn yn arddangos AI Conversations yn ein Cynhadledd Fer ar-lein ddydd Mercher 18 Rhagfyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein blog.

E-ddysgu Uwch:  Mae cyflwyniad i hyfforddiant Cynorthwyydd Dylunio DA hefyd wedi’i ddiweddaru i gynnwys AI Conversations. Gallwch archebu lle ar y cwrs ar y system archebu Digwyddiadau a Hyfforddiant.

Gweler Sgwrs ag AI am ragor o wybodaeth.

Read More

Gweithdy i Staff ar Ddeallusrwydd Artiffisial

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn falch o gyhoeddi digwyddiad hanner diwrnod arbennig sy’n edrych ar ffyrdd y gellir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) mewn cyd-destunau academaidd.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau 11 Ebrill rhwng 09:00 a 13:00 ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Gallwch archebu lle ar gyfer y digwyddiad drwy dudalen Archebu’r Cwrs.

Nod y digwyddiad yw edrych ar draws y 3 swyddogaeth academaidd:

  • ⁠Ymchwil
  • Dysgu ac Addysgu

Ac i fyfyrio ar ffyrdd y gellir defnyddio DA i wella’r gweithgareddau hyn, cynyddu cynhyrchiant, ac arbed amser.

Hoffem hefyd ystyried yr heriau a’r rhwystrau sy’n eich wynebu wrth ddefnyddio DA yn y cyd-destunau hyn a sefydlu ffyrdd y gall y Brifysgol eich cefnogi orau.

Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol, gyda’r cyfranogwyr yn cael eu hannog i rannu eu profiadau eu hunain ac enghreifftiau o arfer da. Mae croeso i bob cydweithiwr fod yn bresennol – o’r rhai sydd wedi bod yn defnyddio DA ers tro i’r rhai sydd heb ei ddefnyddio o’r blaen.

Mae croeso i fynychwyr ymuno â’r sesiwn drwy gydol y bore a bydd amserlen ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru yn cael ei chylchredeg yn nes at y digwyddiad.

Fforwm Trafod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyr

decorative

Rydym newydd greu cyfres newydd o sesiynau sy’n agored i’r holl staff a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn trafod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ym maes addysg.

Ers mis Ionawr 2023, mae Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wedi ysgwyd byd addysg uwch. Mae’n fyd sy’n dal i newid yn gyflym ac sy’n creu heriau i bob un ohonom.

Er mwyn ymateb i’r her hon, rydym wedi sefydlu Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol. Mae’r gweithgor wedi cyhoeddi  canllawiau i staff ym mis Mawrth ac wedi diweddau’r Rheoliadau ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd er mwyn rhoi arweiniad i staff. Ar hyn o bryd mae’r Gweithgor wrthi’n paratoi canllawiau i fyfyrwyr ar gyfer dechrau’r tymor nesaf.

Mae arnom eisiau cynnwys mwy o leisiau yn y drafodaeth, felly rydym wedi sefydlu cyfres newydd o fforymau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, sy’n agored i’r holl staff a myfyrwyr sydd â diddordeb. Rydym yn annog myfyrwyr yn arbennig i ddod i’r fforymau hyn. Gall staff gofrestru gan ddefnyddio ein System Archebu DPP. Gall myfyrwyr ymuno drwy e-bostio’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Bydd y ddwy sesiwn nesaf yn cael eu cynnal ar-lein:

  • 21-08-2023 14:00-15:00
  • 15-09-2023 10:00-11:00

Nod y Fforwm Trafod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yw cyfnewid profiadau am yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad yn ein meysydd ein hunain, casglu awgrymiadau i’r Gweithgor eu hystyried, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Sylwch nad sesiwn hyfforddi yw hon ond trafodaeth mewn grŵp, wedi’i hwyluso, lle gall pawb gyfnewid syniadau. Yn ystod y cyfarfod, byddwn yn gofyn i chi rannu eich profiadau, eich cwestiynau a’ch awgrymiadau. Edrychwn ymlaen at drafod yn eich cwmni!

Cwestiynau wedi’u Cynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial yn awr ar gael yn Vevox Polls

Mae Cynhyrchydd Cwestiynau Deallusrwydd Artiffisial wedi cael ei ychwanegu at ein meddalwedd pleidleisio, Vevox, yn y fersiwn ddiweddaraf. Gall cyd-weithwyr yn awr greu cwestiynau gan ddefnyddio’r Cynhyrchydd Cwestiynau DA.

Mae rhagor o wybodaeth (gan gynnwys sut i’w ddefnyddio) ar gael ar wefan Vevox.

Fel gyda’r holl ddeunydd a gynhyrchir gan Ddeallusrwydd Artiffisial, mae’n holl bwysig eich bod yn gwirio cywirdeb y cynnwys ac yn ei olygu cyn ei ryddhau i fyfyrwyr. Darllenwch ddeunyddiau cymorth yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ar Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r adnodd hwn. 

Mae yna hefyd nifer o bostiadau blog y gallwch edrych arnynt sy’n canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial.

Mae newid arall ar y gweill yn Vevox hefyd. Mae’r ychwanegiad PowerPoint wedi cael ei ddiweddaru. Byddwn yn cysylltu â’r holl gyd-weithwyr sy’n defnyddio’r ychwanegyn PowerPoint trwy e-bost cyn dechrau mis Medi.

Os nad ydych wedi defnyddio Vevox o’r blaen, mae gennym lu o ddeunyddiau cymorth ar ein tudalen we Vevox.