Ni fydd Turnitin ar gael i’w ddefnyddio rhwng 16:00 a 20:00 ddydd Sadwrn 18 Ionawr 2025 oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Yn ystod y cyfnod, ni fydd modd i chi gyflwyno na graddio asesiadau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Ni fydd Turnitin ar gael i’w ddefnyddio rhwng 16:00 a 20:00 ddydd Sadwrn 18 Ionawr 2025 oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Yn ystod y cyfnod, ni fydd modd i chi gyflwyno na graddio asesiadau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Ni fydd Blackboard ar gael i’w ddefnyddio rhwng 10:00-16:00 ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr 2024 oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Cwblhawyd y trosglwyddiad Blackboard SaaS. Nid yw Blackboard yn adnodd darllen-yn-unig bellach.
Mae tudalen mewngofnodi Blackboard wedi newid. Pan ewch i blackboard.aber.ac.uk byddwch yn mewngofnodi trwy ddefnyddio sgrîn Login@Aber.
Os oes gennych ymholiadau o unrhyw fath am y broses cysylltwch ag eddsygu@aber.ac.uk / 01970 62 2472.
Diolch am eich amynedd.
Nid yw amser segur ar y systemau yr ydym yn dibynnu arnynt yn beth poblogaidd. Penderfynu pryd i drefnu amser segur ar gyfer Blackboard yw un o benderfyniadau mwyaf anodd y swydd. Mae jyglo’r meysydd gwaith gwahanol yn y Brifysgol yn ogystal â gwneud yn siŵr ein bod yn ymgynghori â’r holl bobl berthnasol yn cymryd llawer o amser. Rydym yn ceisio osgoi gorffen y gwaith cynnal a chadw ar ddydd Gwener – mae’n well sicrhau nad oes problemau’n codi dros y penwythnos pan nad yw’r staff cymorth yma. Yn yr un modd, nid ydym yn gwneud gwaith yn ystod cyfnodau pan fo’r Brifysgol ar gau (mae’n anodd cael cymorth gan gwmnïau meddalwedd oherwydd yn aml iawn maen nhw ar wyliau hefyd).
Rydym yn ceisio trefnu dyddiad – rydym yn gweld pa ymrwymiadau eraill sydd gan bobl, ar lefel y tîm, lefel yr adran a lefel y Brifysgol. Mae yna amseroedd y mae’n rhaid i ni eu hosgoi – ni ellir cael amser segur yn ystod amser dysgu (gan gynnwys y myfyrwyr TAR sy’n dechrau’n gynt ac yn gorffen yn hwyrach nag eraill, yn ogystal â’r rhai sy’n Ddysgwyr o Bell neu sy’n astudio Cyrsiau Dysgu Gydol Oes). Hefyd, mae unrhyw amser pan fo myfyrwyr angen adolygu neu pan fyddant angen defnyddio Blackboard ar gyfer arholiadau allan ohoni. Pan fyddwn ni’n meddwl bod gennym ddyddiad addas, rydym yn gofyn i grŵp llai o unigolion am eu barn – Rheolwyr Athrofeydd, Uwch Reolwyr, AQRO a chysylltiadau allweddol eraill. Os ydyn nhw’n dod o hyd i broblem, rhaid cychwyn o’r cychwyn.
Pan fyddwn wedi cadarnhau dyddiad, byddwn yn dechrau hysbysebu. Rydym bob amser yn rhoi neges ar faner yn Blackboard, yn defnyddio’r E-bost Wythnosol a chyfrifon Twitter a Facebook y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Felly nid ydym yn trefnu amser segur Blackboard ar chwarae bach. Rydym yn gofyn i bobl, yn dweud wrth bobl, yn ei drefnu ac yn gwneud ein gorau i leihau ei effaith. Nid ydym bob amser yn cael pethau’n iawn i bawb, ond rydym yn gwneud ein gorau i gydbwyso holl ofynion cystadleuol sefydliad cymhlyg.