
Gall staff a myfyrwyr nawr ddefnyddio’r adran Ynganiad ar dudalen Proffil Blackboard i recordio eu henw. Gallant hefyd ddewis y rhagenwau maen nhw’n eu defnyddio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Cwestiwn Cyffredin
Gall staff a myfyrwyr nawr ddefnyddio’r adran Ynganiad ar dudalen Proffil Blackboard i recordio eu henw. Gallant hefyd ddewis y rhagenwau maen nhw’n eu defnyddio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Cwestiwn Cyffredin
Croeso cynnes i aelodau newydd o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth
Ein nod yn y blogbost hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am dechnoleg wrth ddysgu ac addysgu, ein darpariaeth o ran hyfforddiant, sianeli cymorth, a digwyddiadau rydyn ni’n eu cynnal.
Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein tudalennau gwe.
Rydyn ni’n ysgrifennu blog sy’n llawn o’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os oes arnoch angen cysylltu â ni, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio eddysgu@aber.ac.uk.
Mae gan bob modiwl ei gwrs pwrpasol ei hun yn Blackboard. Gall myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth am y modiwl, deunyddiau dysgu, a chanllawiau e-gyflwyno, yn ogystal â dolenni i restrau darllen a recordio darlithoedd.
Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard ar gyfer pob modiwl.
Gweler ein canllaw i staff i gael rhagor o wybodaeth.
Wrth addysgu wyneb yn wyneb, cofiwch y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo gan staff i fyfyrwyr) gan ddefnyddio Panopto, ein meddalwedd recordio darlithoedd.
Gweler manylion ein Polisi Cipio Darlithoedd
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr argymhellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol.
Ar gyfer hyn, rydym yn defnyddio ein hadnoddau e-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu nodwedd paru testun awtomatig. Rydym yn defnyddio Profion Blackboard i gynnal arholiadau ar-lein.
Vevox yw adnodd pleidleisio Prifysgol Aberystwyth.
Gellir defnyddio’r adnodd pleidleisio mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu yn ogystal â chyfarfodydd i wneud y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn gydweithredol. Mae sawl ffordd wahanol o’i ddefnyddio.
Mae gennym nifer o Ganllawiau a Chwestiynau Cyffredin i’ch helpu i ddefnyddio ein meddalwedd.
Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu rydym yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi ar draws y meysydd canlynol:
Ceir hyd i fanylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle i fynychu drwy’r dudalen Archebu Cwrs.
Rydyn ni’n rhedeg ystod o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a Chynadleddau Byr
Mae’r rhain oll yn gyfleoedd gwych i gwrdd â phobl ar draws y brifysgol a thrafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu
Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae Blackboard Ally yn parhau i fod yn rhan boblogaidd o Blackboard gyda mwy o staff a myfyrwyr yn ei ddefnyddio yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25.
Mae nifer y lawrlwythiadau i fformat amgen wedi mwy na dyblu y llynedd – lawrlwythwyd dros 62,000 o ddogfennau i fformatau amgen. A defnyddiodd dros 4000 o ddefnyddwyr yr opsiwn hwn.
Gwnaeth staff hefyd fwy o ddefnydd o’r offer i ddatrys problemau hygyrchedd yn eu cyrsiau – cafodd dros 800 o ffeiliau eu trwsio y llynedd (o’i gymharu â 295 yn 2024-25).
Am y tro cyntaf eleni, mae ein Hisafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard yn nodi y dylai’r holl gyrsiau Blackboard gael sgôr Ally o 70%. I wirio sgôr Ally eich cwrs, edrychwch ar y canllawiau ar ein blog. Gallwch hefyd archebu lle ar un o’r cyrsiau hyfforddi Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard Ally ym mis Medi.
Mae’r holl gyrsiau ar gyfer 2025-26 wedi cael eu creu ac maent ar gael i staff yn Blackboard.
Bydd y templed cwrs eleni yn cynnwys ambell eitem newydd a gobeithiwn y byddant o gymorth i staff a myfyrwyr:
Mae rhoi’r wybodaeth hon yn y templed cwrs yn golygu bod pob myfyriwr yn gweld yr un wybodaeth. Mae hefyd yn golygu nad oes rhaid i staff gynnwys y wybodaeth wrth baratoi eu cyrsiau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
Mae holl safleoedd cyrsiau Blackboard PA yn defnyddio templed y cytunwyd arno, sy’n cynnwys meysydd ar gyfer gwybodaeth graidd ynghyd â chynnwys ynglŷn â pholisïau ar lefel y brifysgol. Mae Pwyllgor y Panel Ansawdd a Safonau yn cytuno ar y templed cwrs bob blwyddyn. Mae Cydlynwyr Modiwlau yn gyfrifol am sicrhau bod y deunyddiau yn eu cyrsiau wedi’u trefnu’n briodol. Ni ddylai staff ddileu unrhyw gynnwys sydd yn y templed.
Gweler yr Isafswm Presenoldeb Gofynnol i weld beth y dylid ei gynnwys yn y cwrs.
Os ydych chi angen unrhyw gymorth â chyrsiau Blackboard, gweler y Canllaw Blackboard i Staff.
Unwaith y bydd cyrsiau wedi’u creu, byddwn yn darparu llif wythnosol rhwng y System Rheoli Modiwlau a Blackboard i adlewyrchu unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau. Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r rolau cwrs eleni, ac mae mwy o fanylion ar gael ar ein blogbost.
Ni fydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyrsiau nes bod y cofrestru wedi’i gwblhau ym mis Medi.
Bob blwyddyn, rydym yn ailedrych ar yr holl bolisïau sy’n ymwneud ag offer e-ddysgu ac yn eu hadolygu. Mae’r holl newidiadau yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Mae’r polisïau newydd bellach ar gael, a dyma fanylion y prif newidiadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisïau newydd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost elearning@aber.ac.uk
Mae’r IPG yn rhoi amlinelliad i staff a myfyrwyr o’r safonau gofynnol ar gyfer Cwrs Blackboard.
Mae dau o’r newidiadau i’r IPG wedi’u cynllunio i wella hygyrchedd deunyddiau cwrs:
I helpu staff i reoli cyrsiau:
Amlinellir yn y Polisi E-gyflwyno fod pob darn o waith testun a baratowyd ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno, ei farcio, a’r adborth yn cael ei ryddhau’n electronig.
Er mwyn gwella sut mae myfyrwyr yn cael gafael ar eu marciau a’u hadborth:
Er mwyn gwella cysondeb e-gyflwyno ar draws y brifysgol:
Ar gyfer staff sydd am ddefnyddio SafeAssign fel rhan o’u Haseiniadau Blackboard:
Amlinellir yn y Polisi Cipio Darlithoedd fod pob cyflwyniad yn y dull trosglwyddo yn cael ei recordio’n electronig i’w ddefnyddio gan fyfyrwyr.
Mae’r newid mwyaf arwyddocaol yn y Polisi Cipio Darlithoedd wedi’i gynllunio i wella hygyrchedd recordiadau:
I helpu staff i reoli cyrsiau:
Mae pob adran yn defnyddio eu Mudiadau i ddarparu gwybodaeth weinyddol allweddol. Er mwyn sicrhau bod deunyddiau’n hygyrch ac yn gyfredol, rydym wedi datblygu IPG Mudiadau, yn seiliedig ar IPG Blackboard. Nid yw hyn yn berthnasol i Gyrsiau Ymarfer staff.
Dylai pob Mudiad arall gynnwys:
Am y tro cyntaf, mae ein Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard yn cynnwys sgôr Ally. Mae hyn yn cydnabod ac yn adeiladu ar sail y gwaith y mae staff eisoes wedi’i wneud i sicrhau bod deunyddiau dysgu mor hygyrch â phosibl.
70% yw’r sgôr Ally a osodir gan yr IPG – y newyddion da i staff a myfyrwyr yw bod 87% o holl gyrsiau 2024-25 yn cyrraedd sgôr o 70%. Ac yn gyffredinol, 72.5% yw sgôr Ally ar gyfer 2024-25, sydd 3% yn uwch na’r llynedd.
Mae sicrhau bod cynnwys Blackboard mor hygyrch â phosibl o fudd i’n holl fyfyrwyr. Mae cael deunyddiau mewn fformat hawdd ei ddefnyddio yn golygu y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar eu dysgu yn hytrach na cheisio ymdopi â fformatau anhygyrch. Mae’r dewisiadau y mae staff yn eu gwneud i ddylunio deunyddiau hygyrch, yn ogystal ag offer Fformatau Amgen Ally, yn ein helpu i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cymryd rhan yn eu hastudiaethau.
Mae hyn yn arbennig o bwysig yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan fod data diweddaraf HERA yn dangos bod dros 28% o’n myfyrwyr wedi datgan bod ganddynt anabledd (o’i gymharu â 16.7% yn genedlaethol).
I wirio sgôr Ally eich cwrs, edrychwch ar y canllawiau ar y tudalen we Blackboard. A gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddylunio deunyddiau hygyrch trwy edrych ar ein deunyddiau hyfforddi ar-lein.
Bydd Ally yn rhoi help ac arweiniad i chi fynd i’r afael â phroblemau cyffredin. Un o’r problemau mwyaf cyffredin ym Mhrifysgol Aberystwyth yw dogfennau wedi’u hysgrifennu â llaw sydd wedi’u sganio. Rydym wedi ysgrifennu rhai canllawiau i helpu staff sy’n defnyddio’r math hwn o ddeunyddiau.
Ac os ydych chi eisiau defnyddio erthyglau wedi’u sganio yn eich cwrs, cysylltwch â’r Gwasanaeth Digideiddio.
Mae darparu deunyddiau dysgu cyn y sesiwn yn eu gwneud yn fwy hygyrch i fyfyrwyr. Mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr baratoi o flaen llaw er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar gynnwys y ddarlith pan fyddant yn bresennol yn y sesiwn. Ar gyfer sesiynau sy’n cynnwys trafodaeth neu waith grŵp, gall roi cyfle i fyfyrwyr ystyried sut y gallant gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. Mae papur ymchwil gan Oxford Brookes yn rhoi gwybodaeth am y budd a geir o sicrhau bod deunyddiau ar gael ymlaen llaw.
Mae’r adborth gan fyfyrwyr dros y blynyddoedd diwethaf wedi gofyn am y newid hwn, a thrafodwyd y mater yn y Bwrdd Academaidd yn yr haf 2024. Ac mae’n safonol mewn nifer o brifysgolion eraill, er enghraifft ym Mhrifysgol Caeredin ac Oxford Brookes.
Mae PA wedi penderfynu y dylid rhyddhau deunyddiau dysgu o leiaf un diwrnod gwaith cyn y digwyddiad:
Gallwch ddefnyddio Amodau rhyddhau cynnwys Blackboard i wneud yn siŵr bod deunyddiau ar gael ar yr adeg iawn. Os ydych eisoes yn darparu eich holl ddeunyddiau ar ddechrau’r tymor, mae croeso i chi barhau â hyn.
Mae darparu deunyddiau dysgu hygyrch yn helpu pawb i ddysgu. Gall defnyddio rhai offer sylfaenol a gwneud rhai newidiadau bach i’ch dogfennau wneud gwahaniaeth mawr i fyfyrwyr sydd ag anableddau.
Heddiw (15 Mai) yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang, felly mae’n ddiwrnod da i weld beth allwch chi ei wneud i wella hygyrchedd deunyddiau yn Blackboard.
Gallwch gael gafael ar offer yn Blackboard a Microsoft Office i’ch helpu i greu dogfennau hygyrch:
Os oes gennych 5 munud heddiw, edrychwch ar Adroddiad Hygyrchedd Cwrs Ally yn un o’ch cyrsiau Blackboard. Mae’r adran ar y cynnwys sydd â’r problemau hawsaf i’w datrys yn lle da i ddechrau. Cewch eich tywys trwy rai newidiadau cyflym y gallwch eu gwneud ar unwaith.
Neu efallai y byddwch chi’n dod o hyd i rai pethau rydych chi am eu gwella dros yr haf, fel rhan o’r broses flynyddol o greu cyrsiau. Un o’r problemau mwyaf a welwn mewn cyrsiau Blackboard yw dogfennau wedi eu sganio heb adnabyddiaeth nodau gweledol (OCR). Ffordd dda o sicrhau hygyrchedd dogfennau wedi’u sganio yw siarad â’n Tîm Digideiddio sy’n gallu cynghori ar sganio penodau llyfrau ac erthyglau cyfnodolion.
Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth mae bron i 30% o boblogaeth ein myfyrwyr wedi datgan bod ganddynt anabledd, felly bydd gwella hygyrchedd eich deunyddiau mewn unrhyw ffordd yn cael effaith fawr ar sut mae myfyrwyr yn eu defnyddio.
Cewch ragor o wybodaeth yma am Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang (gwefan allanol yw hon ac nid yw ar gael yn y Gymraeg).
Gwyddom fod rhai staff yn defnyddio dogfennau wedi’u hysgrifennu â llaw mewn darlithoedd – efallai fod hyn ar gyfer gweithio drwy gyfrifiadau, neu i ddangos proses, neu i lunio graff. Pan fyddwch chi’n uwchlwytho’r rhain i Blackboard, maen nhw’n tueddu i gael sgôr Ally isel gan nad ydyn nhw’n hygyrch i rai defnyddwyr. Dyma rai ffyrdd y gallwch wneud y mathau hyn o ddogfennau yn fwy hygyrch.
Pan fyddwch chi’n ysgrifennu mewn darlithoedd gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio llawysgrifen glir a chyson – ceisiwch beidio â defnyddio ysgrifennu sownd, a gwnewch yn siŵr bod maint eich llawysgrifen yn iawn. Bydd defnyddio pen blaen ffelt fel Sharpie hefyd yn helpu gyda chyferbyniad.
Os gallwch ddarparu fersiwn wedi’i deipio, ychwanegwch hwn at Blackboard ynghyd â’r fersiwn wedi’i ysgrifennu â llaw. Os nad yw hyn yn bosibl, efallai yr hoffech gyfeirio myfyrwyr at ffynhonnell arall i gael y deunydd cyfatebol (er enghraifft gwerslyfr, recordiad Panopto gyda chapsiynau, fideo YouTube ac ati).
Pan fyddwch chi’n sganio deunyddiau, gallwch ddefnyddio argraffyddion y brifysgol, gan fod gan bob un ohonynt osodiad OCR (Optical Character Recognition). Golyga hyn y gall y testun a’r delweddau ar eich sgan gael eu dewis gan fyfyriwr. Mae hyn yn helpu gyda darllenwyr sgrin, yn ogystal â Blackboard Ally – ni fydd Ally yn creu ffeil MP3 o ddogfen nad oedd ganddi OCR (er y bydd yn ceisio creu fersiwn OCR, ond nid yw hyn bob amser yn gweithio’n dda). Gwnewch yn siŵr eich bod yn sganio’r cyfeiriad cywir. Ar ôl i chi wneud sgan, rhowch gynnig ar gopïo a gludo eich testun i Word fel y gallwch weld beth mae’r myfyrwyr yn ei weld neu’i glywed.
Gall yr adnodd PDF24 (sydd ar gael drwy Company Portal PA) hefyd drosi dogfen nad yw’n OCR yn fersiwn OCR. Bydd pa mor llwyddiannus yw hyn yn dibynnu’n fawr ar gynnwys eich dogfen wreiddiol.
Gall myfyrwyr ddefnyddio Google Lens i ddarllen dogfennau yn Blackboard ac mae’n ymddangos bod y lens yn gwneud gwaith da wrth ddarllen testun wedi’i ysgrifennu â llaw. Edrychwch ar y canllaw gan Guide Dogs am fwy o wybodaeth. Mae yna hefyd fwy o syniadau ar gyfer myfyrwyr ar wefan Perkins. Os ydych chi’n defnyddio Google Lens:
Byddwn yn creu’r cyrsiau Blackboard gwag newydd ar gyfer 2025-26 ddydd Llun 2 Mehefin 2025.
Unwaith y bydd cyrsiau wedi’u creu, byddwn yn darparu llif wythnosol rhwng y System Rheoli Modiwlau a Blackboard i adlewyrchu unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau. Ni fydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyrsiau nes bod y cofrestru wedi’i gwblhau ym mis Medi.
Os hoffech wybod mwy ynglŷn â pham rydyn ni’n creu cyrsiau gwag ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, gweler ein blog ar Greu Cwrs o 2024.
Ers mis Medi 2024, mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) wedi bod yn cynnal cynllun peilot o Blackboard Assignment a SafeAssign i werthuso’r defnydd o SafeAssign. Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn defnyddio’r offer gorau sydd ar gael. Diben y blogbost hwn yw crynhoi canlyniadau ein peilot.
Gwirfoddolodd 18 aelod o staff i ddefnyddio Blackboard Assignment ar gyfer cyflwyno a’i farcio, a SafeAssign ar gyfer cyfateb testunau. Roedd y staff hyn wedi’u lleoli mewn saith adran wahanol ac yn dysgu ystod o fodiwlau israddedig ac uwchraddedig. Cynigiwyd hyfforddiant i’r holl staff a rhoddwyd canllaw ysgrifenedig iddynt ar sut i ddefnyddio Blackboard Assignment a SafeAssign. Roedd y sesiynau hyfforddi yn gyfle i staff drafod gwahanol senarios asesu gyda staff E-ddysgu a chanfod pa mor addas yw Blackboard Assignment a SafeAssign. Gwnaethom hefyd anfon arolygon at staff ar eu defnydd o e-farcio ac adnoddau adborth.
Diolch yn fawr iawn i’r holl staff a myfyrwyr a gymerodd ran yn y cynllun peilot ac i bawb a gwblhaodd yr arolygon.
Bydd PA yn parhau i ddefnyddio ein cyfres gyfredol o offer e-asesu:
Roedd y peilot yn caniatáu i ni fyfyrio ar y gofynion ar gyfer datrysiad e-asesu. Roedd hi’n amlwg o hyn bod angen cyfuniad o wahanol ddatrysiadau ar gyfer gwahanol ofynion asesu.
Byddem yn argymell defnyddio Blackboard Assignment ar gyfer:
Un o brif ddibenion y peilot oedd pwyso a mesur effeithiolrwydd SafeAssign a’i ymarferoldeb fel datrysiad cyfateb testun. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, gyda mewnbwn gan randdeiliaid, byddwn yn penderfynu a ydym am adael SafeAssign wedi’i droi ymlaen a byddwn yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad hwn ar ôl y Pasg.
Yn ogystal â chymryd rhan mewn hyfforddiant, gofynnwyd i staff yn y cynllun peilot gwblhau arolwg cyn ac ar ôl defnyddio Blackboard Assignment a SafeAssign. Roedd yr arolwg cyntaf yn ymwneud â’u defnydd o Turnitin, ac roedd yr ail un yn ymwneud â’u profiadau o ddefnyddio Blackboard Assignment a SafeAssign.
Gwnaethom hefyd anfon yr arolwg cyntaf at yr holl staff yn gofyn iddynt am eu hadborth ar Turnitin, a’r defnydd o adnoddau yn Turnitin nad ydynt ar gael yn SafeAssign. Lluniwyd yr arolwg hwn i’n helpu i ddeall a oes unrhyw rai o’r nodweddion yn Turnitin yn hanfodol i’r broses farcio ac adborth yn PA ai peidio. Ar y cyfan, cymerodd 71 o staff ran yn yr arolygon cyntaf hyn.
Nid yw rhai o’r nodweddion mwyaf cyffredin a phwysig yn Turnitin ar gael ar hyn o bryd yn Blackboard a SafeAssign. Roedd dau o’r rhain yn cael eu hystyried yn rhai a ddefnyddiwyd yn rheolaidd:
Ystyriwyd bod tair nodwedd yn hanfodol ar gyfer datrysiad e-asesu:
Y canfyddiad allweddol o’r arolwg oedd bod rhyddhau marciau’n amserol yn cael ei ystyried yn bwysig ac yn cael ei ddefnyddio’n aml gan staff, gan ei wneud yn ofyniad hanfodol ar gyfer unrhyw system farcio ac adborth yn PA.
Anfonwyd yr ail arolwg at y grŵp peilot yn unig a gofynnodd iddynt am eu defnydd o’r offer yn Blackboard Assignment a SafeAssign, yn ogystal â’u hargymhellion ar gyfer newid offer cyflwyno a marcio. Ymatebodd 6 aelod o’r staff i’r arolwg hwn. Yn gyffredinol, roeddent yn teimlo ei bod hi’n hawdd defnyddio Blackboard a SafeAssign ac nid oeddent yn adrodd am lawer o broblemau iddyn nhw na’u myfyrwyr. Fodd bynnag, fe wnaethant amlygu’r cyfyngiadau mewn ymarferoldeb, a oedd yn golygu nad oedd rhai o’r grŵp peilot yn defnyddio Blackboard a SafeAssign o gwbl:
Mae’r Gyfnewidfa Syniadau Antholeg yn caniatáu i bob mudiad yn Blackboard wneud cais a phleidleisio ar welliannau o ran ymarferoldeb i’r cynnyrch. O ganlyniad i sesiynau hyfforddi ac adborth gan staff, gwnaethom 21 awgrym drwy’r Gyfnewidfa Syniadau Antholeg. Roedd y rhain yn gymysgedd o nodweddion yn Turnitin nad oes ganddynt adnodd cyfwerth yn SafeAssign, yn ogystal â newidiadau i nodweddion SafeAssign presennol. Dyma enghreifftiau:
Cais Gwella | Cyfnewid Syniadau | Statws |
Amserlennu postio graddau | 3052 | Ystyried yn y dyfodol |
Gweld a yw’r myfyrwyr wedi gweld adborth | 1612 | Bwriadu rhoi ar waith yn y 6+ mis nesaf |
Diffoddodd marcio dienw cyn i raddau gael eu rhyddhau | 1685 | Camau Dilynol |
Anodi allforio / mewnforio llyfrgell sylwadau | 1751 | Ystyried yn y dyfodol |
Cyflwyno ar ran myfyrwyr | 164 | Bwriadu rhoi ar waith, ond dim ond i gyflwyno drafft a wnaed gan y myfyrwyr yn y lle cyntaf. |
Amserlennu postio graddau | 3052 | Ystyried yn y dyfodol |
Cynyddu’r cyfyngiad ar faint y ffeil ar gyfer SafeAssign | 5711 136 | Ystyried yn y dyfodol |
Os oes gennych awgrymiadau neu newidiadau ar gyfer unrhyw ran o Blackboard yr hoffech i ni eu hychwanegu at y Gyfnewidfa Syniadau, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk. Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn yr adran newydd yn ein blog diweddariad misol sy’n tynnu sylw at unrhyw syniadau yn y Gyfnewidfa Syniadau yr ydym wedi ychwanegu neu bleidleisio drostynt ac sydd wedi’u hychwanegu at Blackboard.
Mae gan Blackboard rai opsiynau y gallwch eu defnyddio i sicrhau bod myfyrwyr yn cael unrhyw drefniadau asesu unigol sydd eu hangen arnynt.
Caiff cymwysiadau eu cymhwyso i fyfyriwr ar lefel cwrs a byddant yn berthnasol i unrhyw Aseiniad neu Brawf Blackboard yn y cwrs. Fodd bynnag, nid yw’n berthnasol i aseiniadau Turnitin. Mae cymwysiadau’n dda i fyfyrwyr sydd â threfniant parhaus nad yw’n amrywio rhwng aseiniadau ar yr un cwrs.
Gall myfyrwyr gael addasiad Dyddiad Cyflwyno neu cymwysiadau Terfyn Amser.
Gyda cymwysiadau Dyddiad Cyflwyno, ni fydd gwaith yn cael ei farcio’n hwyr mewn llyfr graddau, er y bydd modd i chi weld pryd y cafodd ei gyflwyno. Mae cymwysiadau Terfyn Amser yn rhoi amser ychwanegol i’r myfyriwr ar unrhyw asesiad gydag amserydd.
Mae gan fyfyrwyr sydd ag cymwysiadau faner sy’n weladwy’n unig i staff yn y Llyfr Graddau, y Gofrestr, ac ar yr Asesiad. Os yw myfyriwr ag addasiad yn rhan o aseiniad grŵp, cymhwysir y cymwysiad i bob myfyriwr yn y grŵp ar gyfer yr aseiniad hwnnw.
Gwneir eithriadau ar gyfer myfyrwyr ar lefel cwrs ar gyfer aseiniadau unigol. Eto, nid ydynt yn berthnasol i aseiniadau Turnitin. Mae eithriadau’n dda i fyfyrwyr a allai fod ag estyniad i ddyddiad cyflwyno ar gyfer darn unigol o waith. Gellir defnyddio eithriadau ar gyfer ymdrechion ychwanegol, dyddiadau cyflwyno wedi’u haildrefnu, neu fynediad estynedig. Dim ond i gyflwyniadau di-enw y gellir cymhwyso eithriadau – mae hyn yn golygu eu bod yn ddefnyddiol ar gyfer profion amlddewis nad oes angen eu marcio â llaw. Maent yn weladwy’n unig i staff drwy’r Llyfr Graddau neu’r dudalen Cyflwyniad Prawf.
Mae’r holl wybodaeth am Cymwysiadau ac Eithriadau ar gael ar safle Cymorth Blackboard.