Sut i weithio o gwmpas gwall 404 yn Blackboard wrth gyrchu ffeiliau gan ddefnyddio porwr gwe Microsoft Edge.

Mae’r porwr we Microsoft Edge yn ceisio agor ffeiliau Microsoft Office yn uniongyrchol yn y porwr. Wrth gyrchu ffeiliau yn Blackboard mae hyn yn achosi gwall gyda’r neges; “404 – File or directory not found.”

neges 404 - file or directory not found

Er mwyn osgoi hwn, rydym yn awgrymu defnyddio naill ai porwyr gwe Google Chrome neu Firefox.

Fel arall gallwch newid y gosodiad canlynol yn Microsoft Edge:

Agorwch y ddewislen Edge trwy glicio ar y tri dot a chlicio Gosodiadau / Settings

Gosodiadau Edge

Cliciwch Eitemau wedi’u llwytho i lawr / Downloads

Diffoddwch y gosodiad Agor ffeiliau Office yn y porwr / Open Office files in the browser

llun o clicio "Eitemau wedi'u llwytho i lawr" ac wedyn diffodd  "Agor ffeiliau Office yn y porwr"

Os oes angen cymorth pellach, cysylltwch â eddysgu@aber.ac.uk

Modiwlau 2021-2022 bellach ar gael i Staff

Mae modiwlau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 bellach ar gael ar gyfer staff sy’n dysgu ar fodiwlau. Mae hwn er mwyn cynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau ar gyfer Mis Medi.   Efallai eich bod wedi sylwi bod tab newydd wedi ymddangos ar y ddewislen ar frig eich sgrin Blackboard: 

Os ydych wedi cofrestru fel aelod o staff ar y modiwl yn Astra dylech allu gweld eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad oes modd i chi weld modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yna cysylltwch â’ch Swyddog Gweinyddol Adrannol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu cofrestru ar eich modiwl nes y bydd y cofrestriad wedi’i gwblhau. 

Fe sylwch fod y codau ar gyfer modiwlau wedi newid ychydig oherwydd y ffurflen MAF newydd. Mae AB1 yn dynodi modiwlau sy’n rhedeg yn semester 1, mae AB2 yn dynodi modiwlau sy’n rhedeg yn semester 2, ac mae AB3 yn dynodi modiwlau sy’n rhedeg yn Semester 3 a Semester S. 

Mae’r cymorth canlynol ar gael i’ch helpu: 

Darllenwch ein Cwestynau Cyffredin

Os oes arnoch angen rhagor o gymorth, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk

Copïo Cwrs 2021-2022

Bob blwyddyn, mae’r Grŵp E-ddysgu’n creu modiwlau newydd yn Blackboard yn barod ar gyfer addysgu’r flwyddyn nesaf. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 penderfynodd yr adrannau’n fewnol a fyddai’r modiwlau’n cael eu gadael yn wag neu a fyddai’r cynnwys yn cael ei gopïo. Bydd modiwlau ar gyfer 2021-2022 ar gael o ddechrau mis Awst. 

Bydd modiwlau staff yn yr adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac IBERS yn cael eu creu’n wag. Rydym wedi paratoi’r Cwestiynau Cyffredin hyn gyda chanllawiau manwl ar gopïo gwahanol elfennau o un modiwl i’r llall yn Blackboard.

Bydd modiwlau pob adran arall yn cael eu copïo. Fel rhan o’r broses copïo cwrs, ni chaiff yr offer a’r cynnwys canlynol eu copïo:

  • Cyflwyniadau Turnitin  
  • Aseiniadau Blackboard  
  • Cyhoeddiadau
  • Blogiau
  • Cyfnodolion  
  • Wicis
  • Recordiadau a dolenni Panopto
  • Cyfarfodydd Teams. 

Hoffem gynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau gymaint ag y gallwn. Rydym yn hapus i drefnu ymgynghoriad dros Teams. I wneud hynny, anfonwch e-bost at elearning@aber.ac.uk

Baneri a’r Panel ‘Insight’ yn Stiwdio Adborth Turnitin

Bydd y staff sydd wedi marcio asesiadau a gyflwynir drwy Turnitin yn gyfarwydd â’r Adroddiad ar Debygrwydd a’r Stiwdio Adborth. Mae’r rhyngwyneb yn y Stiwdio Adborth yn amlygu mannau lle mae’r testun yn debyg i ffynonellau ar-lein.

Mae Turnitin wedi diweddaru rhyngwyneb y Stiwdio Adborth er mwyn tynnu sylw at anghysonderau testunol mewn cyflwyniadau fel y gellir rhoi sylw manwl iddynt. Baneri y gelwir y darnau hyn a amlygir.

Mae’r baneri yn codi materion a allai fod yn arwydd o broblemau, megis:
•Nodau testun sydd wedi’u hailosod; mae’n bosib y gallai’r rhain fod wedi’u mewnosod er mwyn cuddio tebygrwydd.
•Testun cudd fel dyfynodau a allai effeithio ar y ganran o ddeunydd a ddyfynnwyd a allai olygu bod y deunydd hwnnw yn cael ei gamddehongli fel deunydd gwreiddiol.

Read More