
Ni fydd Panopto ar gael i’w ddefnyddio rhwng 22:00 ddydd Gwener 11 Ebrill a 01:00 ddydd Sadwrn 12 Ebrill oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Ni fydd Panopto ar gael i’w ddefnyddio rhwng 22:00 ddydd Gwener 11 Ebrill a 01:00 ddydd Sadwrn 12 Ebrill oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr: Addasu, Ymroi, a Ffynnu ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 8 a dydd Iau 10 Gorffennaf 2025.
Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein.
Mae’n bleser gennym gadarnhau ein prif siaradwr ar gyfer ein cynhadledd fer a gynhelir ddydd Mawrth 8 Ebrill.
Bydd Dr Aranee Manoharan o Goleg y Brenin Llundain yn ymuno â ni.
Gweler isod drosolwg o anerchiad Aranee a bywgraffiad. Gallwch archebu eich lle ar gyfer y gynhadledd fer ar-lein a byddwn yn cyhoeddi’r rhaglen lawn maes o law.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r digwyddiad hwn, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk.
Yn yr anerchiad hwn, bydd Aranee yn cyflwyno dull o gynllunio cwricwlwm cynhwysol sy’n rhoi cymorth i bob myfyriwr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnynt i lywio’n llwyddiannus drwy anawsterau’r unfed ganrif ar hugain sy’n gyfnod cyfnewidiol, ansicr, cymhleth ac amwys. Bydd y cyflwyniad yn edrych ar ddatblygu cwricwlwm cynhwysol o ran yr egwyddorion allweddol sy’n cefnogi canlyniadau myfyrwyr a graddedigion, cyn rhannu sut y gellir integreiddio cyflogadwyedd yn effeithiol drwy addysgu pynciau a dysgu – gan gynnwys defnyddio dull rhaglennol o gynllunio’r cwricwlwm ac addysgeg ac asesiadau uchel eu heffaith. Bydd y sesiwn yn rhannu ystod o offer y mae Aranee wedi’u datblygu yn ei gwaith gyda thimau gwasanaethau academaidd a phroffesiynol yn y maes hwn; gellir hefyd ddod o hyd i bob un ohonynt yn y pecyn cymorth a ariennir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Datblygu Cyflogadwyedd Cynhwysol trwy’r Cwricwlwm a arweiniwyd ganddi hi â chydweithwyr ym Mhrifysgol Dinas Llundain a Phrifysgol Llundain.
Dr Aranee Manoharan, PhD, SFHEA, FRSA
Mae Aranee yn Uwch Gyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Gyrfaoedd a Cyflogadwyedd yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Gyda phrofiad ar draws meysydd addysgu, profiad myfyrwyr, a datblygiad addysgol, yn ogystal â Chydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant a llywodraethu, ei maes arbenigol yw gwella canlyniadau myfyrwyr trwy ystyried eu cylch bywyd cyfan fel myfyrwyr. Yn Uwch Gymrawd AU Ymlaen, mae’n arbenigo mewn dulliau cynhwysol o gynllunio’r cwricwlwm i gefnogi canlyniadau myfyrwyr a graddedigion ac mae ganddi brofiad sylweddol o weithio gyda thimau academaidd i hwyluso dysgu yn y byd go iawn, gan ddefnyddio addysgeg ac asesiadau uchel eu heffaith, a gyflwynir mewn cydweithrediad â phartneriaid cymunedol a diwydiant.
Yn eiriolwr ymroddedig dros degwch a chynhwysiant, mae Aranee yn gwasanaethu ar nifer o grwpiau cynghori, gan gynnwys y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr (ISE); Rhwydwaith Bwlch Dyfarnu HUBS y Gymdeithas Fioleg Frenhinol; Pwyllgor Llywodraethu Siarter Cydraddoldeb Hil AU Ymlaen; ac fel Cyfarwyddwr Bwrdd Cymdeithas Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd i Raddedigion, lle mae’n arwain y portffolio ar symudedd cymdeithasol, ehangu cyfranogiad, ac anghydraddoldeb rhanbarthol. Aranee hefyd yw Cyfarwyddwr y cwmni AM Coaching & Consulting, cwmni sy’n cynghori a rhoi cymorth i sefydliadau er mwyn iddynt sefydlu diwylliannau gweithio, dysgu ac ymchwil cynhwysol.
Wrth i Ramadan ddechrau, roeddem am dynnu sylw at ganllaw i addysgwyr o dan arweiniad yr Athro Louise Taylor o Oxford Brookes (ynghyd â sawl cydweithiwr arall).
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y rhai sy’n cadw Ramadan yn ymwrthod â bwyd a diod yn ystod oriau golau dydd.
Gellir cael gafael ar y canllaw llawn a’i lawrlwytho o’r dudalen we yma.
Mae’r canllaw yn amlinellu’r effaith bosibl y gall Ramadan ei gael ar waith dysgu’r myfyrwyr ac mae’n cynnig rhai addasiadau a fydd efallai am gael eu hystyried. Mae Oxford Brookes wedi cynhyrchu fideo 7 munud o fyfyrwyr yn rhannu eu profiad o Ramadan. Mae’r canllaw yn defnyddio arolygon gan weithwyr proffesiynol AU i ddarparu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac mae’n cynnig 6 ffordd y gallem fabwysiadu dysgu mwy cynhwysol:
Daw’r canllaw i’r casgliad mai ei neges allweddol yw pwysigrwydd cychwyn trafodaethau gyda myfyrwyr Mwslimaidd.
Fel cymuned, rydym yn gobeithio adeiladu ar sail y gwaith hwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan ddefnyddio’r canllawiau hyn fel man cychwyn.
Rydym yn frwd ynghylch arferion addysg gynhwysol a byddem wrth ein bodd yn eu cyflwyno yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol sydd ar ddod. Os ydych chi’n dilyn arferion cynhwysol yn eich addysgu, yna ystyriwch gyflwyno cynnig ar gyfer y gynhadledd.
Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 13eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Mawrth 8 – Dydd Iau 10 Gorffennaf 2025.
Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.
Dyma’r thema ar gyfer y gynhadledd eleni:
Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr: Addasu, Ymroi, a Ffynnu
Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.
Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.
Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 8 Ebrill 2025. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r eddygsu@aber.ac.uk.
Rydym yn falch o gyhoeddi thema’r 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a gynhelir rhwng 8 a 10 Gorffennaf 2025.
Y thema yw: “Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr: Addasu, Ymroi, a Ffynnu”.
Bydd y gynhadledd yn cynnwys y meysydd canlynol:
Bob blwyddyn, rydym yn siarad â’n grŵp rhanddeiliaid ac aelodau eraill o’r Brifysgol i benderfynu ar bynciau a fydd yn ddefnyddiol i’n cydweithwyr.
Mae’r maes cyntaf, sef dylunio asesiadau y gellir eu haddasu, yn dwyn ynghyd ddarn o waith gan gydweithwyr yn y Gwasanaethau i Fyfyrwyr, sy’n amlygu dulliau hyblyg o ddylunio asesiadau, asesiadau â sawl fformat, a dylunio asesu dilys.
Mae ymroddiad myfyrwyr a meithrin dysgu annibynnol yn parhau i fod yn her allweddol i gydweithwyr. Yn y maes hwn, mae gennym ddiddordeb mewn strategaethau ar gyfer meithrin annibyniaeth wrth ddysgu, ffyrdd y gellir sgaffaldio dysgu, ac ymgorffori sgiliau ar gyfer dysgu a’r gweithle i raddedigion.
Mae ein trydydd maes, sef meithrin cymuned, yn ceisio tynnu sylw at les yn y cwricwlwm gan ystyried dulliau o weithio sydd yn fwy ystyriol o drawma, sut mae cymunedau dysgu ar-lein yn cael eu creu, a defnyddio dadansoddeg dysgu. Mae addysgeg gynhwysol yn ganolog i’r holl themâu hyn.
Yn y maes technolegau i wella dysgu, bydd gennym ddiddordeb i glywed am astudiaethau achos cadarnhaol ac am ffyrdd o ymgorffori DA yn yr ystafell ddosbarth, am ffyrdd uwch a rhagorol o ddefnyddio Blackboard Ultra, ac am arferion da mewn addysgu yn yr oes ddigidol.
Mae ein maes olaf, sef dysgu ar-lein, yn cyfeirio at waith Prosiect Dysgu Aber Ar-lein mewn partneriaeth â HEP, yn pontio dysgu ar y campws i ddysgu ar-lein, a strategaethau i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu ar-lein.
Bydd yr Alwad am Gynigion yn agor yn fuan a chyfle i archebu eich lle ar gyfer y gynhadledd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk.
Mae gan Vevox, sef dewis y Brifysgol o ddull pleidleisio, nodweddion newydd gwych o’r diweddariadau ym mis Medi 2024 a mis Rhagfyr 2024.
I gydweithwyr sy’n anghyfarwydd â Vevox, gellir ei ddefnyddio i wneud eich addysgu yn fwy rhyngweithiol, ac i helpu i wneud penderfyniadau mewn cyfarfodydd. Mae cyfranogwyr yn defnyddio dyfeisiau symudol i gymryd rhan mewn pleidleisio amser real, ond mae yna opsiynau hefyd ar gyfer arolygon anghydamserol a byrddau cwestiwn ac ateb.
Mae’r holl ddiweddariadau hyn ar gael ar y Recordiad YouTube hwn a thrwy’r nodiadau datganiad hyn:
Gall gwesteion sesiwn ddiffinio labeli y gellir bellach eu gweld a’u defnyddio gan gyfranogwyr. Mae hyn yn golygu y gall cyfranogwyr dagio eu negeseuon cwestiwn ac ateb gyda label wedi’i ddiffinio ymlaen llaw. Er enghraifft, efallai yr hoffech gael label ar gyfer Asesu i ganiatáu i fyfyrwyr gysylltu eu cwestiynau â thag.
Mae hwn yn weithgaredd defnyddiol i fesur effaith sesiwn addysgu. Gofynnwch un cwestiwn i fyfyrwyr ar ddechrau’r sesiwn i fesur lefel eu dealltwriaeth ac yna gofynnwch yr un cwestiwn iddyn nhw ar ddiwedd y sesiwn i weld a yw eu dealltwriaeth wedi newid. Gweler y Diweddariad Vevox am gyfarwyddiadau ar sut i gyflawni hyn.
Yn ddiofyn, mae’r bwrdd C ac A yn caniatáu i gyfranogwyr uwchbleidleisio cwestiynau. Mae hyn yn golygu y gallwch drefnu cwestiynau yn ôl y rhai y mae’r rhan fwyaf o gyfranogwyr eisiau eu gofyn. Mae Vevox wedi cyflwyno gosodiad tanbleidleisio y gallwch ei ddefnyddio i ganiatáu i’ch cyfranogwyr danbleidleisio cwestiynau. Gallwch newid y gosodiadau hyn yn y rhyngwyneb gosodiadau C ac A.
Bellach gellir arddangos ymatebion i gwestiynau arolwg MCQ mewn gwahanol ffyrdd. Gallwch ddefnyddio’r graff bar traddodiadol ond nawr gallwch ddewis arddangos eich allbwn fel siart cylch. Gallwch newid y wedd mewn amser real trwy gael panel gweinyddol Vevox ar agor ar un sgrin yn y ddarlith a chael y ffenestr cyflwynydd wedi’i thaflunio.
Mae’r pôl rhif yn rhoi’r opsiwn i hyfforddwyr arddangos sut mae’r allbwn yn cael ei ddangos gyda rhyngwyneb newydd ar ffurf Cwmwl Geiriau. Gallwch ddewis cael hyn fel allbwn o’r rhyngwyneb cwestiwn pleidleisio.
Mae canlyniadau ar gyfer y cwestiwn arddull ateb bellach yn ymddangos mewn modd symlach wrth gyhoeddi’r canlyniadau. Yn hytrach na dangos yr allbwn yn llawn, dangosir y brawddegau cyntaf yn unig. Gall yr hyfforddwr glicio ar y sylwadau yr hoffent dynnu sylw atynt a bydd yn dangos yr ymateb llawn.
Mae’r integreiddiad PowerPoint wedi’i ddiweddaru i allu dangos canlyniadau Cwmwl Geiriau, Siart Cylch a Chwmwl Rhif yn fyw. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio integreiddiad PowerPoint Vevox ar gael ar eu tudalen we.
Mae testun trwm, italig a thanlinellu bellach yn opsiynau wrth fformatio cwestiynau.
Ar gyfer polau a nodwyd, gallwch redeg gwybodaeth am bresenoldeb o’r adroddiadau data. Yna gallwch weld pryd ymunodd cyfranogwyr â’r sesiwn a phryd y gwnaethant adael y sesiwn.
Fel gweinyddwyr cyfrif, gallwn ychwanegu geiriau at yr hidlydd cabledd addasadwy. Bydd hyn yn cael ei gymhwyso i arolygon barn, arolygon, a nodweddion C ac A. Os oes gennych air yr hoffech ei gynnwys yn yr hidlydd cabledd, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.
Mae rhagor o wybodaeth a chyngor i’w gweld ar ein tudalennau gwe: Adnodd Pleidleisio: Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth.
Mae diweddariadau ac astudiaethau achos blaenorol ar gael ar ein blog.
Mae’r Grŵp Addysg Ddigidol mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn falch o gyhoeddi’r thema ar gyfer ein Cynhadledd Fer nesaf.
Gan adeiladu ar lwyddiant Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol y llynedd, byddwn yn ailedrych ar y pwnc cyflogadwyedd gyda’r thema Cyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol.
Bydd y gynhadledd fer yn cael ei chynnal ar-lein fore Mawrth 8 Ebrill.
Bydd y rhestr lawn yn cael ei chadarnhau maes o law ond rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn lansio eu pecyn cymorth newydd ar gyfer ymgorffori cyflogadwyedd yn y cwricwlwm.
Mae modd archebu ar gyfer y digwyddiad nawr. Gallwch archebu’ch lle ar-lein.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.
Yn y blogbost hwn, rydyn ni’n mynd i gyflwyno cofnod Gweithgaredd Blackboard sydd ar gael ar bob Cwrs Blackboard Ultra.
O’r cofnod gweithgaredd hwn, gallwch edrych ar fyfyrwyr penodol a gweld pa eitemau y maent wedi ymgysylltu â hwy ar y cwrs. Mae’r cofnod yn dangos yr holl weithgarwch ar y cwrs – o ddeunyddiau dysgu, hyd at fannau cyflwyno Turnitin, a Rhestrau Darllen Talis Aspire.
Mae hyn hefyd yn cynnwys y dyddiad a’r amser y gwnaeth y myfyrwyr edrych ar y deunyddiau hynny.
I weld gweithgaredd y myfyrwyr ar y cwrs:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cofnod Gweithgaredd neu os oes arnoch angen cymorth i’w ddehongli, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.
Bellach mae gennym dudalen gymorth a gwybodaeth newydd ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/ai/
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd bolisïau a chyngor ar ddiogelwch yn ogystal â chanllawiau ar gyfer defnyddio DA yn eich astudiaethau, eich addysgu, eich ymchwil a’ch gwaith gweinyddol.