Gweminar Vevox: Sut i ddefnyddio Vevox yn eich ystafell ddosbarth hybrid

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld nifer ohonoch yn ein cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol – yr eilwaith i ni ei chynnal ar-lein.

Rydym wedi gwneud newid bach i’r trefniadau. Ar 30 Mehefin, 2yp – 2.45yp, byddwn yn cysylltu â gweminar Vevox ar sut i ddefnyddio meddalwedd pleidleisio Vevox mewn ystafell ddosbarth hybrid:

Yn y weminar ryngweithiol hon, byddwn yn trafod sut y gellir defnyddio Vevox mewn dosbarthiadau hybrid i gynorthwyo dysgu gweithredol beth bynnag fo lleoliad eich myfyrwyr. Yn ymuno â ni ar y panel mae Carol Chatten, Swyddog Datblygu Technoleg Dysgu ym Mhrifysgol Edge Hill, Dr. Robert O’Toole, Cyfarwyddwr Cynnydd a Phrofiad Myfyrwyr NTF, Cyfadran Celf Prifysgol Warwick a Carl Sykes SFHEA, Uwch Dechnolegydd Dysgu CMALT ym Mhrifysgol De Cymru.

Byddwn yn ceisio rhannu storiâu llwyddiant cwsmeriaid ac enghreifftiau i ddangos sut y gall Vevox gefnogi amgylchedd dysgu cymysg a sut y gallwch amlhau ymgysylltiad, rhyngweithiad ac adborth myfyrwyr mewn lleoliad hybrid. Fe edrychwn ar y thema o amlbwrpasedd a pha mor bwysig yw hyn i allu darparu gwir brofiad dysgu cynhwysol.

Gallwch archebu lle ar-lein i fynychu’r gynhadledd: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/pagda2021

Mae ein rhaglen lawn ar-gael ar-lein.

Gallwch ddarllen mwy am Vevox, ein meddalwedd pleidleisio a brynwyd yn ddiweddar: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/elearning/offerpleidleisio/

Symud eich Darlithoedd (PowerPoint) Ar-lein: Gweithdy Kate Exley

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi gweithdy ar-lein arbennig a gynhelir gan Dr Kate Exley ddydd Mercher 7 Gorffennaf am 10yb.

Bydd y gweithdy yn ddefnyddiol i gydweithwyr sy’n addasu a throsglwyddo eu darlithoedd traddodiadol ar gyfer dysgu ar-lein.

Archebwch eich lle ar-lein [link]:

https://stafftraining.aber.ac.uk/sd/list_courses.php

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch cyn gynted â phosibl.

Trosolwg o’r Sesiwn:

Mae nifer o gydweithwyr wedi bod yn addysgu’n gyfunol neu ar-lein ers nifer o flynyddoedd ond mae pandemig Covid wedi golygu ei bod yn rhaid i ni gyd ddarparu llawer o’n dysgu ac addysgu o bell. Mae hyn wedi golygu symud ein darlithoedd, a draddodwyd o’r blaen mewn darlithfeydd ac ystafelloedd dosbarth mawr, i lwyfannau ar-lein. Mae’r cyflymder y mae’r newid mawr hwn wedi digwydd yn ei hun wedi achosi heriau sylweddol i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae’r gweithdy cyfunol hwn yn bwriadu darparu cyfarwyddyd, enghreifftiau a fforwm i gydweithwyr rannu eu profiadau a’u syniadau ar gyfer gwella’r ddarpariaeth hon.

Cyflwynir y gweithdy mewn dwy ran:

  • Bydd cyfres o 3 fideo byr ar gael ar neu cyn 30 Mehefin 2021 a dylid eu gwylio’n annibynnol cyn ymuno â’r fforwm drafod – oddeutu 45 munud o astudio annibynnol.
  • Fforwm drafod a gynhelir ar Teams ar 7 Gorffennaf, ble bydd gan gyfranogwyr gyfle i ofyn cwestiynau, rhannu profiadau a thrafod y pwnc – 1 awr o hyd.

Erbyn diwedd y ddwy awr, dylech allu:

  • Ystyried diben y ddarlith ar-lein yn ystod pandemig Covid
  • Trafod amrywiaeth o faterion dylunio ymarferol wrth symud darlithoedd ar-lein
  • Rhannu profiadau a syniadau gyda chydweithwyr ‘yn yr un cwch’
  • Dechrau cynllunio eich camau nesaf a beth y gallwch ei roi ar waith o ganlyniad i’r gweithdy

Mae’r gweithdy hwn wedi’i fapio’n bennaf i A2, A5, K2, K3 ar yr UKPSF. 

Read More

Gwahoddiad: Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2021

Keynote announcement banner

Rydym yn edrych ymlaen ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni sydd lai na mis i ffwrdd, 29 Mehefin – 2 Gorffennaf 2021.

Fel yr ydych wedi darllen o bosibl, cynhelir y Gynhadledd eleni ar-lein drwy Teams felly gallwch ymuno am gymaint neu chyn lleied o’r gynhadledd ag y dymunwch.

Gallwch lawrlwytho’r rhaglen lawn ac archebu eich lle ar-lein .

Rydym yn ddiolchgar o gael nifer o siaradwyr allanol eleni.

Bydd ein prif siaradwr, Dr Chrissi Nerantzi, yn siarad am addysgeg agored a hyblyg. Ym Met Manceinion, datblygodd Chrissi’r rhaglen datblygu proffesiynol FLEX, rhaglen seiliedig ar ymarfer a drwyddedir yn agored sy’n ymgorffori llwybrau ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol.  Hi yw sylfaenydd y gymuned traws-sefydliadol Creativity for Learning in Higher Education, y gweminarau Teaching and Learning Conversations (TLC), yn ogystal â nifer o fentrau eraill. Gallwch ddarllen mwy am Chrissi ar ein blog

Read More

Adnoddau Sally Brown a Kay Sambell

Banner for Audio Feedback

Yn rhan o’n Gŵyl Fach Asesu, estynnodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wahoddiad i’r Athro Kay Sambell a’r Athro Sally Brown gynnal gweithdy i ystyried sut y gallai gwaith asesu esblygu oherwydd y newid yn ein harferion yn sgil y pandemig.

Drwy gydol y pandemig, daeth Kay a Sally yn ffigurau annatod yn y gwaith i ddatblygu arferion asesu Addysgu Uwch yn sgil cyhoeddi’u papur: The changing landscape of assessment: some possible replacements for unseen, time-constrained, face-to-face invigilated exams.

Yn rhan o’r gweithdy, recordiodd Sally a Kay y rhannau hyn: Gwella prosesau asesu a chynnig adborth ar ôl y pandemig: dulliau go iawn o wella sut mae myfyrwyr yn dysgu ac yn ymroi i’w hastudiaethau.

Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, gallwch weld y recordiadau drwy glicio yma:

Yn ogystal â’r recordiadau, gallwch weld cyhoeddiadau eraill gan Kay a Sally sy’n canolbwyntio’n benodol ar newid arferion ar eu tudalennau gwe.

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol – wedi’i hestyn am ddiwrnod ychwanegol

Keynote announcement banner

Rydyn ni’n dechrau edrych ymlaen at ein nawfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu. Mae’r alwad am gynigion bellach wedi cau – diolch i bawb a gyflwynodd gynnig.

Oherwydd nifer y cynigion a ddaeth i law, byddwn nawr yn dechrau’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu amser cinio dydd Mawrth 29 Mehefin a bydd yn rhedeg tan brynhawn dydd Gwener 2 Gorffennaf.

Mae gennym nifer o siaradwyr allanol ar draws y pedwar diwrnod a byddwn yn parhau i bostio diweddariadau drwy ein blog o siaradwyr arfaethedig. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod yn cynnal ein sesiwn Gymraeg gyntaf a fydd yn cael ei chyfieithu ar y pryd.

Rydym hefyd wedi trefnu panel arbennig ar y prynhawn dydd Mawrth ar arferion Dysgu o Bell, a bydd myfyrwyr o’r Ysgol Addysg a’r Adran Seicoleg yn cynnal sesiynau yn seiliedig ar eu profiadau o ddysgu drwy gydol y pandemig.

Cyhoeddir y rhaglen lawn yn fuan.

Cynhelir y gynhadledd ar-lein drwy Teams (a defnyddir Zoom ar gyfer y sesiynau yn Gymraeg).

Gallwch archebu eich lle ar-lein nawr drwy’r ffurflen hon.

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Ail siaradwr gwadd: Andy McGregor, JISC

Keynote announcement banner

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hail siaradwr allanol ar gyfer Cynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni: Andy McGregor, Andy yw Cyfarwyddwr Technoleg Addysg ar gyfer JISC. 

Bydd gweithdy Andy’n canolbwyntio ar ddyfodol asesu ac mae’n seiliedig ar bapur JISC: The future of assessment: five principles, five targets for 2025, sy’n gosod pum targed ar gyfer y pum mlynedd nesaf i ddatblygu asesu i fod yn fwy dilys, hygyrch, wedi’i awtomeiddio’n briodol ac yn ddiogel.

Mae Andy yn gyfrifol am reoli portffolio JISC o brosiectau datblygu ac ymchwil sy’n datblygu gwasanaethau newydd i helpu prifysgolion a cholegau i wella addysg ac ymchwil.

Yn ogystal ag Andy, y siaradwr gwadd eleni yw Dr Chrissi Nerantzi o Brifysgol Fetropolitan Manceinion.

Cynhelir y nawfed gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol ar-lein rhwng dydd Mercher 30 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf. Gallwch archebu lle drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

Dilynwch y blog hwn i gael rhagor o gyhoeddiadau.

Cyhoeddi’r Prif Siaradwr: Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Keynote announcement banner

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn falch o gyhoeddi mai Dr Chrissi Nerantzi fydd y prif siaradwr eleni.

Cynhelir y gynhadledd ar-lein trwy Teams rhwng 30 Mehefin a’r 2il o Orffennaf. Mae archebu bellach ar agor ar gyfer y gynhadledd eleni, ac mae dal modd i chi gyflwyno cynnig drwy ein ffurflen ar-lein.   

Dr Chrissi Nerantzi (@chrissinerantzi), Prif Ddarlithydd – DPP Academaidd, Academi Addysgu’r Brifysgol (UTA), Prifysgol Fetropolitan Manceinion

Ym Met Manceinion, datblygodd Chrissi’r rhaglen datblygu proffesiynol FLEX, rhaglen seiliedig ar ymarfer a drwyddedir yn agored sy’n ymgorffori llwybrau ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol trwy ddefnyddio portffolios proffesiynol digidol a chyfleoedd datblygu agored, gan gynnwys mentrau cydweithredol ar draws mwy nag un sefydliad. Mae FLEX wedi ysbrydoli mentrau pellach yn fewnol ac yn allanol gyda staff a myfyrwyr. Hi yw sylfaenydd y gymuned traws-sefydliadol Creativity for Learning in Higher Education (#creativeHE), y gweminarau Teaching and Learning Conversations (TLC) a chyd-sylfaenydd y cyrsiau agored Flexible, Distance and Online (FDOL), y cwrs Bring Your Own Devices for Learning (BYOD4L) a’r sgwrs trydar Learning and Teaching in Higher Education (#LTHEchat). Mae Chrissi yn dysgu ar yr MA mewn Addysg Uwch yn ei sefydliad ac mae’n arwain y cynllun Recognising and Rewarding Teaching Excellene a’r Good Practice Exchange. Mae hefyd yn cydlynu cyflwyniadau i’r NTF a CATE ac mae’n mentora cydweithwyr yn rheolaidd. Mae Chrissi yn cyfrannu at weithgareddau datblygu academaidd pellach yn Academi Addysgu’r Brifysgol (UTA), gan gynnwys cynllun Fframwaith Safonau Proffesiynol y sefydliad; mae’n cynorthwyo cydweithwyr i gynllunio’r cwricwlwm creadigol ac mae’n un o’r Cysylltiadau Cyfadrannol ar gyfer y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Mae ymagwedd Chrissi tuag at ddysgu ac addysgu yn arbrofol, yn chwareus ac yn gydweithredol. Mae ei diddordebau ymchwil ym meysydd creadigrwydd, dysgu agored a chydweithredol ac mae wedi cyhoeddi’n eang ac yn agored, yn aml ar y cyd ag eraill.

Read More

Galwad am Gynigion yn cau dydd Gwener

Save the date banner - 30.06.2021-02.07.2021

Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein. Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 30 Ebrill 2021.

Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer y nawfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Byrfyfyrio â Chyfyngiadau: Ail-lunio Cymuned Ddysgu mewn Cyfnod o Newid o Gyda’r ffrydiau canlynol ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mercher 30 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf 2021.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Gweithdy Kay Sambell a Sally Brown (Gŵyl Fach)

Distance Learner Banner

Gwella prosesau asesu ac adborth wedi’r pandemig: dulliau gwreiddiol o wella’r modd y mae myfyrwyr yn dysgu ac yn ymgysylltu: Gweithdy Yr Athro Kay Sambell ac Y Athro Sally Brown

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi gweithdy ar-lein arbennig a gynhelir gan Kay Sambell & Sally Brown ddydd Mercher 17 Mai, 10:30-12:30.

Archebwch eich lle ar-lein [link].

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch cyn gynted â phosibl.

Trosolwg o’r Sesiwn:

Nod y gweithdy hwn yw adeiladu ar sail y gwersi a ddysgwyd yn ystod y newidiadau cymhleth y bu’n rhaid i academyddion eu gwneud y llynedd pan ddaeth yn amhosibl asesu wyneb yn wyneb ar y campws. Bu academyddion ledled y byd yn defnyddio ystod eang o ddulliau nid yn unig i ymdopi â’r sefyllfa annisgwyl ond hefyd i symleiddio’r gwaith asesu a sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn fwy trylwyr â’r dysgu.  

Mae gennym yn awr gyfle pwysig i newid arferion asesu ac adborth yn barhaol trwy wella dilysrwydd y dulliau yr aethom ati i’w dylunio er mwyn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol. Gan ddefnyddio’r gwaith a wnaethant trwy gydol 2020, https://sally-brown.net/kay-sambell-and-sally-brown-covid-19-assessment-collection/, bydd hwyluswyr y gweithdy hwn, yr Athro Kay Sambell a’r Athro Sally Brown, yn dadlau na allwn fyth ddychwelyd at yr hen ffyrdd o asesu, a byddant yn cynnig dulliau ymarferol, hylaw sy’n integreiddio’r asesu a’r adborth yn llwyr â’r dysgu, gan arwain at well canlyniadau a dysgu mwy hirdymor i’r myfyrwyr.

Mae’r gweithdy hwn wedi’i fapio’n bennaf i A2, A5, K2, K3 ar yr UKPSF. 

Read More

Gwobr Cwrs Eithriadol 2020-21

Gwobr ECA

Mae Hanna Binks, o Adran Seicoleg, wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol am fodiwl PS11320: Introduction to Research Methods in Psychology. Cymeradwyodd y panel y modiwl hwn oherwydd cynllun arloesol ei ddull asesu a’r gefnogaeth, y deunyddiau dysgu clir a drefnwyd yn rhesymegol, a chynnig amryw ffyrdd i fyfyrwyr gael bod yn rhan o’r gweithgareddau dysgu.

Yn ogystal, cafodd y modiwl canlynol statws Canmoliaeth Uchel:

  • Martine Garland o Ysgol Fusnes Aberystwyth am fodiwl AB27120: Marketing Maangement
  • Rhianedd Jewell o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd am fodiwl CY10920: Trafod y Byd Cyfoes twy’r Gymraeg
  • Prysor Mason Davies o Ysgol Addysg am fodiwl ED30620: Children’s Rights
  • Mary Jacob o’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu am fodiwl PDM0530: Action Research and Reflective Practice in HE

Mae’r amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a welir yng ngheisiadau eleni yn adlewyrchiad o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sefydliad.

Nod y Wobr Cwrs Eithriadol, a sefydlwyd saith mlynedd yn ôl, yw rhoi cydnabyddiaeth i’r arferion dysgu gorau. Mae’n rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu gwaith gyda’u cydweithwyr, gwella eu modiwlau presennol ar Blackboard, a chael adborth er mwyn gwella.

Caiff modiwlau eu hasesu ar draws 4 maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesiad, yn rhoi cyfle i’r aelodau staff ystyried eu cyrsiau a gwella agweddau ar eu modiwlau cyn i banel asesu bob cais yn erbyn y cyfarwyddyd.

Hoffai’r panel a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch i’r holl  ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’r ceisiadau ac i’r modiwlau eleni.

Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o geisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf a llongyfarchiadau mawr i enillwyr gwobr eleni.