Gan fod modiwlau 2022-23 bellach ar gael i staff, gallwn eu cysylltu gyda’i gilydd ar gais cydgysylltydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel trefn rhiant a phlentyn. Mae cysylltu modiwlau gyda’i gilydd yn ffordd effeithiol o drafod modiwlau ar wahân a chanddynt yr un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau ar gyfer dau neu ragor o wahanol fodiwlau.
Yn ôl y drefn hon, bydd un modiwl yn rhiant, a’r modiwl(au) arall/eraill yn blentyn. Ni chyfyngir ar nifer y modiwlau plentyn ond ni ellir cael mwy nag un rhiant.
Os ydych yn gydgysylltydd modiwlau ac os hoffech gysylltu eich modiwlau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan roi’r codau modiwl ar gyfer y modiwlau rhiant a phlentyn.
Enghreifftiau o Aberystwyth
Mae llawer o aelodau staff eisoes yn defnyddio modiwlau rhiant a phlentyn ar draws y sefydliad. Dyma rai enghreifftiau:
Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol
Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig
Yn y bôn, mae pob modiwl sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer modiwlau rhiant a phlentyn.
Eleni yw’r 10fed flwyddyn y trefnir cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Er mwyn dathlu, rydym wedi rhoi ein holl ddeunydd o’r cynadleddau blaenorol ar we-ddalennau’r gynhadledd.
Rydym hefyd wedi cymryd golwg ar ein hystadegau ac wedi crynhoi nifer o ffeithiau i chi.
Ers y gynhadledd gyntaf yn 2013:
Bu dros 400 o wahanol aelodau o staff a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn bresennol yn y gynhadledd
Daeth mwy na 1000 o bobl i’r cynadleddau
Nifer y sesiynau yn ôl Adran:
Ein 10 prif adran academaidd a gyflwynodd yn y gynhadledd yw:
IBERS gyda 41 sesiwn
Addysg gyda 28 sesiwn
Dysgu Gydol Oes gyda 26 sesiwn
Seicoleg gyda 21 sesiwn
Cyfrifiadureg gyda 18 sesiwn
Ysgol Fusnes Aberystwyth gyda 17 sesiwn
Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyda 14 sesiwn
Ffiseg gyda 13 sesiwn
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear gyda 12 sesiwn
Y Gyfraith a Throseddeg gydag 11 sesiwn
Y rhan fwyaf o sesiynau gan gyflwynydd
Mae 3 unigolyn yn gydradd gyntaf am y nifer fwyaf o sesiynau a gyflwynwyd gan aelod o staff academaidd. Â chyfanswm o 8 sesiwn, mae Steve Atherton, Addysg, Antonia Ivaldi a Gareth Norris, Seicoleg. Yn gydradd yn y pedwerydd safle, gyda 7 sesiwn, mae Basil Wolf, IBERS a Maire Gorman o Ysgol Graddedigion a Ffiseg. Llongyfarchion a diolch iddyn nhw.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y ddegawd nesaf o gynadleddau. Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn y gynhadledd rhwng 12 a 14 Medi eleni, lle bydd cymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Archebwch eich lle ar-lein.
Mae modiwlau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23 bellach ar gael ar gyfer staff sy’n dysgu ar fodiwlau. Mae hwn er mwyn cynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau ar gyfer Mis Medi. Efallai eich bod wedi sylwi bod tab newydd wedi ymddangos ar y ddewislen ar frig eich sgrin Blackboard:
Os ydych wedi cofrestru fel aelod o staff ar y modiwl yn Astra dylech allu gweld eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad oes modd i chi weld modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yna cysylltwch â’ch Swyddog Gweinyddol Adrannol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu cofrestru ar eich modiwl nes y bydd y cofrestriad wedi’i gwblhau. Os oes arnoch angen rhagor o gymorth, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r prif siaradwyr gwadd i’r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol eleni (12-14 Medi 2022).
Bydd Kyra Araneta, Jennifer Fraser, a Moonisah Usman o Brifysgol San Steffan yn ymuno â ni’n rhithiol ar gyfer y prif anerchiad, Navigating power lines: Developing principles and practices to support socially just student : staff partnerships.
Yn yr anerchiad hwn, bydd Kyra, Jennifer, a Moonisah yn trafod eu prosiectau am bartneriaethau llwyddiannus rhwng staff a myfyrwyr.
Crynodeb o’r Sesiwn
I lawer ohonom mae prifysgolion ac ystafelloedd dosbarth yn safleoedd llawn posibiliadau (hooks, 1994) a buddsoddwn ni ynddynt ein gobeithion ar gyfer mathau gwahanol o ddyfodol i’r myfyrwyr ac i ninnau. Maent hefyd yn safleoedd o densiwn wrth i ni symud drwy gydberthnasau a dynameg grym sy’n gallu bod yn gymhleth. Mae’r ffordd yr ydym yn ‘byw’ addysg ar gyfer rhyddid wedi dod yn bwysicach byth yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda’r gwrthdystiadau Mae Bywydau Du o Bwys, a’r galwadau am ddad-drefedigaethu prifysgolion. Yn Power Lines: On the Subject of Feminist Alliances mae Aimee Carrillo Rowe yn gofyn ‘Sut ydym yn adeiladu llinellau grym a fydd yn ein cysylltu ni ag eraill mewn cyfiawnder, drwy gyfiawnder, ac ar gyfer cyfiawnder?’ (2008), t. 2). Mae ein hanerchiad yn ymdrin â’r cwestiwn hwn, gan ystyried sut rydym yn datblygu egwyddorion ac arferion i gynnal cydberthnasau partneriaethol rhwng myfyrwyr a staff sydd yn gymdeithasol gyfiawn. Rydym yn dadlau bod perthynas, os yw wedi’i dylunio ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, yn gallu creu awyrgylchoedd gwrth-hiliol a dad-drefedigaethol (Bell, 2018) sy’n dod yn safleoedd llawn posibiliadau. Gan ddefnyddio enghreifftiau o’n gwaith ym Mhrifysgol San Steffan, ymdriniwn â’r mannau lle y mae grym, cynghreiriaeth, cyfiawnder cymdeithasol a phartneriaeth yn dod ynghyd er mwyn ystyried strategaethau ar gyfer llunio rhaglenni lle mae cydberthnasau trawsnewidiol yn greiddiol. Rydym yn rhannu enghreifftiau o sut rydym wedi meithrin cydberthnasau, cyd-greu gwerthoedd rhaglenni, a’u rhoi ar waith mewn prosiectau partneriaethol. Er mwyn dangos sut y gallwn feithrin partneriaethau gyda llinellau grym sy’n ein cysylltu â chyfiawnder cymdeithasol, byddwn yn defnyddio enghraifft y Prosiect Pedagogies for Social Justice (https://blog.westminster.ac.uk/psj/). Mae’r prosiect hwn wedi ymrwymo i roi lle canolog i leisiau myfyrwyr o safbwynt ei werthoedd, ei gredoau a’i brofiadau, ac i ddefnyddio’r rhain i ddatgymalu mathau cyfoes o wladychiaeth mewn cwricwla, cydberthnasau ac ymchwil. Dadleuwn fod partneriaethau’n hanfodol i’r gwaith hwn wrth iddynt gyd-gynhyrchu gwybodaeth; datblygu ffyrdd newydd a beirniadol o ddeall disgyblaethau; ac ymgymryd â chydweithredu, arbrofi a deialog dros gyfnod estynedig. Gan ddeall mai prosesau heriol a chymhleth yw’r rhain, rydym yn cynnig y prif anerchiad hwn fel cam ymlaen yn eich teithiau’ch hun a thaith eich Prifysgol tuag at greu mannau dysgu cymdeithasol gyfiawn i fyfyrwyr a staff.
Tua diwedd mis Gorffennaf byddwn yn dechrau creu modiwlau Blackboard ar gyfer 2022-23.
Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ni fydd fersiynau gwag o unrhyw gyrsiau presennol yn cael eu creu. Gwnaed y penderfyniad hwn yng nghyfarfod y Bwrdd Academaidd yn ddiweddar.
Bydd cynnwys a ffeiliau’r cyrsiau yn cael eu copïo o’r fersiwn o’r modiwl yn y flwyddyn academaidd flaenorol. Ni fydd mannau cyflwyno Turnitin, recordiadau Panopto na gweithgareddau rhyngweithiol Blackboard yn cael eu cynnwys wrth gopïo; bydd angen ail-greu’r rhain. Mae gennym lawer o Gwestiynau Cyffredini gynorthwyo’r staff gyda hyn.
Os ydych chi’n cynnal modiwl newydd yna bydd y rhain yn cael eu creu gan ddefnyddio’r Templedi Adrannol y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Yn yr un modd, os ydych chi’n cynnal modiwl na chafodd ei gynnal yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yna bydd y rhain hefyd yn cael eu creu’n wag.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon (eddysgu@aber.ac.uk). Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y modiwlau wedi’u creu.
Ar 20 Mai, ymunodd Dr Mary Davies, Stephen Bunbury, Anna Krajewska, a Dr Matthew Jones â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ar gyfer eu gweithdy ar-lein: Contract Cheating Detection for Markers (Red Flags).
Gyda chydweithwyr eraill, maent yn ffurfio Gweithgor Twyllo ar Gontract Rhwydwaith Uniondeb Academaidd De Ddwyrain Llundain ac maent wedi bod yn gwneud gwaith ac ymchwil hanfodol i’r defnydd cynyddol o felinau traethodau a thwyllo ar gontract.
Roedd y sesiwn yn cynnwys llawer o awgrymiadau ymarferol i gydweithwyr i’w helpu i ganfod y defnydd o Dwyllo ar Gontract wrth farcio.
Mae rhagor o wybodaeth am Ymddygiad Academaidd Annheg ar gael yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd (gweler adran 10).
Diolch yn fawr i’r cyflwynwyr. Rydym wedi cael sesiynau arbennig gan siaradwyr allanol y flwyddyn academaidd hon; edrychwch ar ein blogiau Siaradwyr Allanol i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enw ein siaradwr gwadd cyntaf i’r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol am eleni (12-14 Medi 2022).
Bydd Dr Alex Hope yn ymuno â ni i sôn am wreiddio cynaliadwyedd yn ystyrlon yn y cwricwlwm.
Mae Dr Alex Hope yn Ddirprwy i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg) ac yn Athro Cyswllt Moeseg Busnes yn Ysgol Fusnes Newcastle, Prifysgol Northumbria. Mae’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol addysg ledled y gyfadran ac mae’n addysgu, ymchwilio ac ymgynghori mewn meysydd megis addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy, busnes cyfrifol, moeseg busnes, a’r nodau datblygu cynaliadwy. Ochr yn ochr â’i waith yn Ysgol Fusnes Newcastle, mae Dr Hope yn Gyd-Gadeirydd Gweithgor Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar Addysg Rheolaeth Gyfrifol (UN PRME) ac yn gyn Is-Gadeirydd UN PRME y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon. Mae’n aelod o Bwyllgor Dysgu ac Addysgu Cymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes (CABS) ac yn aelod o fwrdd Busnes yn y Gymuned y gogledd ddwyrain, rhwydwaith busnes cyfrifol Tywysog Cymru. Mae ganddo PhD mewn Datblygu Cynaliadwy, MA mewn Ymarfer Academaidd, a BSc (Anrh) mewn Rheoli Amgylcheddol.