Croeso, Daniel Bryant – Cydlynydd Addysg Ddigidol

Helo! Mae’n braf cael cyflwyno fy hun yn fy nghyhoeddiad blog cyntaf yn fy rôl newydd. Dan ydw i, ac ymunais â’r Tîm Addysg Ddigidol ar ôl y Pasg fel Cydlynydd Addysg Ddigidol ran-amser. Rwy’n gwneud y rôl ochr yn ochr â fy ngradd PhD gyda’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Symudais i Aberystwyth yn 2022 i ddechrau fy nghwrs ymchwil 1+3 yn y brifysgol. Ar ôl gorffen y rhan hyfforddiant ymchwil o’r cwrs, dechreuais fy PhD yn 2023 ar y pwnc ‘llywodraethiant aml-lefel y maes polisi ail gartrefi’. Yn fy nghyfnod fel myfyriwr ymchwil yma, rydw i hefyd wedi cael profiad defnyddiol iawn fel tiwtor seminar yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac fel Tiwtor Sgiliau Astudio gyda Gwasanaethau Myfyrwyr.

Wrth i mi nesáu at ran olaf fy PhD, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y rôl newydd gyffrous hon. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl gyfleoedd mae’r brifysgol wedi’u rhoi imi hyd yn hyn, ac rwy’n frwdfrydig i gael cyfrannu at waith gwych y Tîm Addysg Ddigidol.

Cyn symud i Aberystwyth, astudiais fy ngraddau blaenorol ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn gweithio mewn ambell i rol yn y sector gwleidyddiaeth ym Mae Caerdydd. Rydw i o hyd yn talu sylw at wleidyddiaeth, felly byddaf yn cadw llygad barcud ar ymgyrch etholiad Senedd Cymru dros y mis nesaf!

Y tu allan i wleidyddiaeth, mae gen i ddiddordeb mawr yn chwaraeon. Yn wreiddiol o Borth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin, rwy’n gefnogwr brwd o’r Scarlets a chlwb pêl-droed Abertawe. Rydw i hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon fy hun, a dros yr haf byddaf yn defnyddio tirwedd hyfryd Ceredigion i helpu fi hyfforddi ar gyfer y nifer o driathlons rydw i wedi cofrestru amdano fel rhan o’r Gyfres Triathlon Cymru. Y llynedd, gwnes i hefyd penderfynu dychwelyd o ymddeoliad fy ngyrfa rygbi i ymuno â chlwb rygbi Tregaron, lle rwy’n chwarae fel cefnwr.

Pan fydda i eisiau cymryd hoe fwy hamddenol o’r gwaith, rydw i’n mwynhau mynd am dro gyda fy mhartner i weld yr anifeiliaid fferm ger ein fflat yng Ngelli Angharad, neu fynd am dro ar hyd y prom yn Aberystwyth i fwyta hufen iâ.

Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddod i nabod mwy o staff a myfyrwyr ar draws y brifysgol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf!