
Ddydd Iau 8 Ionawr, bydd mân ddiweddariad i’r rhyngwyneb Blackboard.
Nid oes unrhyw amser segur yn gysylltiedig â’r diweddariad hwn, a bydd Blackboard yn parhau i weithredu fel arfer yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r newidiadau’n cynnwys:
- Newid yn nhrefn yr eitemau ar y ddewislen ar y brif ddewislen llywio:

- Botwm cartref newydd mewn cwrs i fynd â chi yn ôl i’r dudalen lanio:

- Dolen gyflym i lywio i’ch cyrsiau diweddar

Yn ogystal â hyn, er mwyn gwneud y mwyaf o le ar y sgrin, bydd Blackboard yn tynnu’r wedd ffolder nythol.
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau, cysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol ar (eddysgu@aber.ac.uk).
