
Rydym yn falch iawn o gadarnhau ein rhaglen ar gyfer digwyddiad olaf y flwyddyn ddydd Iau 18 Rhagfyr.
Cynhelir ein Cynhadledd Fer ar DA Cynhyrchiol rhwng 09:30 a 15:30. Rydyn ni’n cynnal hwn fel digwyddiad hybrid. I’r rhai sydd eisiau ymuno wyneb yn wyneb, fe’i cynhelir yn Adeilad y Ganolfan Ddelweddu, VC, 0.06.
Rydym yn falch iawn o gadarnhau ein siaradwyr allanol:
Bydd James Fern a Richard Mason yn ymuno â ni i rannu’r dull 2-lôn o Gynllunio Asesiad DA Cynhyrchiol sydd wedi’i fabwysiadu ym Mhrifysgol Caerfaddon.
Gallwch ddarllen mwy am hyn ar eu tudalennau gwe: The Two-Lane Approach to GenAI Assessment Categorisation – Learning and Teaching Hub
Yn ogystal â James a Richard, mae gennym ni raglen gyffrous hefyd:
- Bydd Hannah Dee, Amanda Clare a Clive King o’r Adran Gyfrifiadureg yn cyflwyno.
- Bydd Emma Butler-Way, Tom Holt, Rhys Dafydd Jones, Jayesh Mukherjee, a Stephen Tooth yn ymuno â ni o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
- Bydd Jennifer Wood ac Alex Mangold o Ieithoedd Modern hefyd yn cyflwyno.
- Bydd Joy Cadwallader a chydweithwyr o Cysylltiadau Academaidd hefyd yn ymuno.
I weld y rhaglen lawn a’r crynodebau, gweler ein tudalen we.
Gallwch archebu eich lle trwy glicio ar y ddolen hon.
