Diolch yn fawr iawn i’r holl staff a gymerodd ran yn Niwrnod Trwsio’ch Cynnwys ar 18 a’r 19 Tachwedd. Dyma’r tro cyntaf i Brifysgol Aberystwyth gofrestru i ymuno â’r Diwrnod, ac rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi ein gosod yn y 60fed safle ar y bwrdd arweinwyr swyddogol.
Cymerwyd rhan gan 120 o sefydliadau o bob cwr o’r byd. Roedd 13 sefydliad o’r DU ac Aberystwyth yn 3ydd yn y DU.
Gwnaeth staff PA 125 o newidiadau i’r cynnwys trwy Blackboard Ally yn ystod 24 awr y gystadleuaeth. Yn ystod y prynhawn galw heibio, cawsom gyfle i roi arweiniad ar benawdau ac arddulliau, lliwiau ffont a chyferbyniad, yn ogystal â dogfennau mewn llawysgrif a dogfennau PDF. Mae pob un o’r 125 newid hwn yn ei gwneud hi’n haws i fyfyrwyr ddefnyddio eu deunyddiau dysgu.
Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi mai 74.9% oedd sgôr cyffredinol Ally ar gyfer cyrsiau 2025-26 ar 19 Tachwedd – 5.3% o gynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Y newyddion da yw nad oes rhaid i chi aros tan y Diwrnod Trwsio’ch Cynnwys nesaf i ddefnyddio Ally. Gallwch ddefnyddio Ally unrhyw bryd y dymunwch – mae’n gyflym ac yn hawdd i’w ddefnyddio ar gyfer cynnwys sydd eisoes yn bodoli a chynnwys newydd.
Diolch yn fawr i’r holl staff sydd wedi rhoi o’u hamser i wirio hygyrchedd eu deunyddiau cwrs a gwneud newidiadau iddynt.
