Mae rhai nodweddion newydd ar gael yn y diweddariad Vevox (Adnodd Pleidleisio) yr hoffem dynnu eich sylw atynt.
I’r rhai sy’n anghyfarwydd â Vevox, gellir defnyddio’r feddalwedd bleidleisio i ofyn cwestiynau i fyfyrwyr ac er mwyn iddynt ymateb ar y pryd gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio Vevox, gweler ein tudalen we.
Mae’r diweddariad yn cynnwys:
- Arolygon a Chwisiau wedi’u hamserlennu. Gallwch sicrhau bod arolygon a chwisiau ar gael y tu allan i’r darlithfeydd gydag amseroedd dechrau a gorffen awtomatig (noder bod angen dechrau’r sesiwn yn Vevox er mwyn i hyn weithio).
- Adborth ar gyfer Cwisiau ac Arolygon. Gallwch ddarparu adborth i gyfranogwyr sy’n cymryd rhan mewn cwisiau ac arolygon.
- Cynorthwyydd Cwestiynau DA. Bydd yr offer DA nawr yn awgrymu opsiynau ateb yn seiliedig ar eich cwestiynau yn ogystal â chreu ystod ehangach o gwestiynau.
- Troelli’r olwyn. Ffordd hwyliog o ddewis opsiwn ar hap o restr, er enghraifft rhestr o bynciau adolygu, neu enwau grwpiau ar gyfer rhoi cyflwyniadau. Noder bod mai’r unigolyn sy’n cynnal y bleidlais sy’n rheoli’r olwyn (nid y cyfranogwyr).
Edrychwch ar ddiweddariad cynnyrch diweddaraf Vevox: Hydref 2025 am y diweddariad llawn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio Vevox, cysylltwch â ni ar (eddysgu@aber.ac.uk).
