
Bydd rhai aelodau o staff wedi gwneud recordiadau Panopto all-lein oherwydd effaith tarfiad gwasanaeth Gwasanaethau Gwe Amazon ar Panopto ddydd Llun 20 Hydref.
Bydd angen uwchlwytho pob recordiad all-lein i weinyddion Panopto cyn y gallant fod ar gael i fyfyrwyr. Mae cyfarwyddiadau ar gael yn ein Cwestiwn Cyffredin Sut mae uwchlwytho recordiadau Panopto â llaw trwy’r rhaglen Panopto Recorder? Gallwch wirio argaeledd ystafelloedd addysgu o myadmin.aber.ac.uk > AAA/ATO (Amserlen Aberystwyth Ar-lein)
Rydym yn argymell eich bod yn uwchlwytho unrhyw recordiadau all-lein o fewn 7 diwrnod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.