
Ar Dachwedd 18, bydd Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â sefydliadau ledled y byd i gymryd rhan yn Niwrnod Trwsio’ch Cynnwys 2025, a gynhelir gan Anthology. Mae’r gystadleuaeth 24 awr hon yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i addysg gynhwysol.
Byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio ar 18 Tachwedd rhwng 2pm a 4pm yn B23 Llandinam. Bydd staff e-ddysgu ar gael i ateb cwestiynau a’ch helpu i ddefnyddio Ally (bydd te a bisgedi ar gael hefyd).
Gyda’n gilydd, fe geisiwn ddatrys cynifer o broblemau hygyrchedd a gwella cynifer o ffeiliau cyrsiau â phosib gan ddefnyddio Anthology® Ally. Mae pob peth sy’n cael ei atgyweirio – boed yn fawr neu’n fach – yn cyfrannu at amgylchedd dysgu mwy cynhwysol i’r holl fyfyrwyr.
Sut y gallwch chi helpu:
- Gwirio’ch cyrsiau am ddangosyddion coch ac oren
- Canolbwyntio ar y pethau y gallwch yn ymdrin â nhw’n gyflym fel ychwanegu disgrifiadau delweddau neu wella dogfennau Microsoft Word
- Dechrau’r gwaith ‘trwsio’ ar 18 Tachwedd, a dal ati trwy gydol y dydd
- Anelwch at 100%, ond gwneud gwelliannau yw’r peth pwysicaf!
Am ragor o wybodaeth am sut i drwsio ffeiliau gan ddefnyddio Anthology Ally, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin am Ally.