
Yn y 13fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, cyhoeddodd yr Athro Anwen Jones gronfa o £10,000 i gydweithwyr anfon cynigion i gael uchafswm o £2,000 ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig â thema’r gynhadledd:
- Meithrin cyswllt ac asesu tosturiol
- Iechyd a lles mewn cyd-destun dysgu ac addysgu
- Hygyrchedd a chynhwysiant (dysgu cynhwysol a dylunio addysgu)
Mae’r Brifysgol yn darparu hanner cyfanswm y cyllid, a’r gweddill yn dod oddi wrth Medr, rheoleiddiwr prifysgolion Cymru.
Rydym yn chwilio am ystod eang o brosiectau ar draws pob maes o’n cymuned a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’n haddysg a phrofiad y myfyrwyr.
I gyflwyno cais:
- Llenwch y ffurflen gais hon
- Cyflwynwch i eddysgu@aber.ac.uk cyn y dyddiad cau o hanner dydd ar 10 Hydref 2025.
Gweler y dudalen we hon am ragor o wybodaeth, sy’n cynnwys cyfres o gwestiynau cyffredin. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â eddysgu@aber.ac.uk.
