
Croeso cynnes i’r myfyrwyr newydd sy’n ymuno â ni a’r rhai sy’n dychwelyd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn y blogbost hwn, byddwn yn amlinellu’r newidiadau a wnaed i’ch amgylchedd dysgu digidol, Blackboard, yn barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2025-26
Os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio Blackboard, gweler ein Canllaw i Fyfyrwyr sy’n cynnwys pob math o wybodaeth ddefnyddiol.
Mae gennym hefyd gwestiynau cyffredin ar gael ar gyfer yr offer eraill yr ydym yn eu cefnogi, gan gynnwys Turnitin ar gyfer e-gyflwyno a Panopto ar gyfer recordio darlithoedd.
Templed wedi’i ddiweddaru
Mae’r holl gyrsiau wedi cael eu creu eleni gan ddefnyddio templed ychydig yn wahanol.
Gwybodaeth am y Modiwlau
- Eitem ynghylch Recordio Darlithoedd (Panopto) o dan ‘Gwybodaeth am y Modiwl’
- SgiliauAber
Asesu ac Adborth
- Mae’r Canllawiau Cyflwyno wedi’u diweddaru i gynnwys gwybodaeth am uniondeb academaidd ac ymddygiad annerbyniol a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol yn eich asesiadau.
Argaeledd Cynnwys
Mae Polisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard, sef y polisi sy’n amlinellu isafswm y cynnwys ar gwrs i staff a myfyrwyr, wedi’i ddiweddaru i ofyn bod deunyddiau addysgu yn cael eu huwchlwytho o leiaf un diwrnod cyn y sesiwn.
Capsiynau Awtomatig yn Panopto
Bydd capsiynau nawr yn cael eu hychwanegu at yr holl recordiadau o ddarlithoedd yn awtomatig yn 2025-26, gan eu gwneud hyd yn oed yn fwy hygyrch. Mae ansawdd a dibynadwyedd y capsiynau awtomatig yn amrywio yn ôl iaith a phwnc y recordiad.
Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol nad yw’r capsiynau yn gywir 100%. I gael eglurhad ar gapsiynau, dylai myfyrwyr siarad â’u darlithydd.
Gellir lawrlwytho trawsgrifiadau o gapsiynau adnabod llais awtomatig (gweler Cwestiynau Cyffredin: ’Sut ydw i’n gweld capsiynau Panopto?
Mae ynganiad enwau a rhagenwau ar gael yn Blackboard
Gallwch nawr ychwanegu ynganiad eich enw a’ch rhagenwau at eich proffil Blackboard. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Cwestiynau Cyffredin.
Cynnwys hygyrch
Rydym yn gweithio i wella hygyrchedd cynnwys yn eich cyrsiau Blackboard. Eleni mae’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol wedi nodi gofyniad ar gyfer isafswm sgôr hygyrchedd. Mae hyn yn golygu bod y cynnwys mor gydnaws â Blackboard Ally â phosibl.
Mudiadau Blackboard
Mae Mudiadau fel Cyrsiau yn Blackboard ond nid ydynt yn fodiwlau y mae myfyrwyr yn eu dilyn. Gellir dod o hyd i bethau fel hyfforddiant a gwybodaeth adrannol o dan Mudiadau. Am y tro cyntaf, mae gennym Isafswm Presenoldeb Gofynnol ar gyfer Mudiadau sy’n amlinellu’r isafswm i staff a myfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio Blackboard, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.