Cyfres Hyfforddiant E-ddysgu: Semester 1, 2025-26

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein cyfres o sesiynau hyfforddi ar gyfer y semester sydd i ddod.

Gellir archebu pob sesiwn hyfforddi ar-lein gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aberystwyth.  Mae ein system archebu hyfforddiant bellach yn awtomataidd, felly byddwch yn derbyn eich gwahoddiad calendr o fewn yr awr a bydd yn ymddangos yn eich calendr.  Ymunwch â’r sesiynau hyn o’ch calendr Outlook.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.  

Yn ôl yr arfer, mae ein sesiynau hyfforddi wedi’u grwpio i 3 cyfres:

  • Hanfodion E-ddysgu: wedi’i gynllunio ar gyfer cydweithwyr sy’n newydd i’r brifysgol, sy’n addysgu, neu a hoffai gael sesiwn loywi.   Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu bodloni polisïau dysgu ac addysgu digidol y brifysgol.
  • E-ddysgu Uwch: wedi’i gynllunio i adeiladu ar sail y sgiliau a gafwyd yn ein cyfres hanfodion e-ddysgu, bydd cydweithwyr yn creu gweithgaredd neu asesiad sy’n unigryw i’w cyd-destunau dysgu ac addysgu. 
  • Rhagoriaeth E-ddysgu: wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i gydweithwyr greu cyfleoedd dysgu ac addysgu eithriadol – yn aml rhai unigryw ac yn arwain y sector. 

Yn ogystal â’r cynigion arferol, roeddem hefyd am dynnu sylw at y sesiynau newydd yr ydym wedi’u cyflwyno ar gyfer 2025-26:

Sesiynau newydd ar gyfer 2025

Hanfodion E-Ddysgu

Using Microsoft Copilot for Learning and Teaching Activities  

Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno cydweithwyr i DA Cynhyrchiol ac yn rhoi cyfle i chi feddwl am ffyrdd i ymgorffori DA Cynhyrchiol yn eich ymarfer dysgu ac addysgu.  

Gallwch archebu eich lle ar bob sesiwn arall yn y gyfres E-ddysgu hon drwy ddefnyddio’r ddolen hon.  

Nodyn i’ch atgoffa bod pob sesiwn yn y gyfres Hanfodion yn cael ei argymell yn gryf i unrhyw aelodau newydd o staff yn eich adran. 

E-ddysgu Uwch:   

Become a Blackboard Document Pro

Mae dogfennau Blackboard Documents wedi cael eu hailwampio’n llwyr yn Ultra.  Mae’r sesiwn hon, sy’n 30 munud o hyd, yn rhoi trosolwg o’r nodweddion newydd ac yn eich galluogi i roi cynnig arni yn eich cwrs.  

Blackboard Interactive Tools

Rydym wedi cyfuno ein sesiwn ar drafodaethau a chyfnodolion, Discussions and Journals.  Byddwn yn rhoi arweiniad ar ddylunio gweithgareddau ar gyfer ein hoffer rhyngweithiol er mwyn helpu hyrwyddo ymroddiad myfyrwyr.

Measuring and Increasing student engagement using Blackboard Tools 

Byddwn yn edrych ar yr offer dadansoddol sydd ar gael yn eich cwrs Blackboard i helpu monitro ymroddiad myfyrwyr.  Byddwn yn defnyddio hyn i deilwra negeseuon yn ogystal â chreu gweithgareddau eraill fel gwiriadau gwybodaeth a dilyniant modiwlau dysgu i helpu cynnal ymroddiad myfyrwyr wrth iddynt ddysgu. 

Peer Assessment with Turnitin

Un o nodweddion Turnitin yw PeerMark sy’n eich galluogi i greu cyfleoedd asesu gan gyd-fyfyrwyr.  Mae hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddarparu adborth ffurfiannol ar waith ei gilydd.  

Using the advanced features of Panopto

Eisiau tacluso eich recordiadau?  Bydd y sesiwn hon yn arddangos gwahanol ffyrdd y gallwch ddefnyddio Panopto: o fewnosod cwisiau yng nghanol recordiad, i roi cyfle i’r myfyrwyr fod yn greadigol a defnyddio Panopto eu hunain.  Mae’r sesiwn hon yn wych i’r rhai sy’n mabwysiadu dull ystafell ddosbarth ‘wrthdro’ neu sydd eisiau defnyddio Panopto y tu hwnt i Recordio Darlithoedd. 

Mae sesiynau eraill yn cynnwys y Cynorthwyydd Dylunio DA Blackboard a dylunio meddalwedd pleidleisio Advanced Vevox.

Gallwch archebu eich lle ar bob sesiwn arall yn y gyfres E-ddysgu Uwch drwy ddefnyddio’r ddolen hon. 

Rhagoriaeth E-Ddysgu:

Rydym wedi dylunio 4 gweithdy newydd ar gyfer cydweithwyr yn seiliedig ar 4 maes y Wobr Cwrs Eithriadol.  Wrth edrych ar bob agwedd, bydd cydweithwyr yn ystyried sut y gellir datblygu eu cyrsiau eu hunain.

Dyma’r 4 sesiwn:

Exemplary Course Design

Exemplary Assessment Design

Exemplary Interaction and Collaboration

Exemplary Learner Support

Gallwch archebu eich lle ar bob sesiwn arall yn y gyfres Rhagoriaeth E-ddysgu drwy ddefnyddio’r ddolen hon.  Ymhlith y sesiynau eraill mae cyfle i wneud cais ar gyfer Gwobr Cwrs Eithriadol, Submitting an Exemplary Course Award

Os oes unrhyw bynciau hyfforddi eraill yr hoffech i ni eu hystyried ar gyfer Semester 2, cysylltwch â ni.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*