
Ni fydd Turnitin ar gael i’w ddefnyddio rhwng 16:00 a 22:00 ddydd Sadwrn 9 Awst 2025 oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Yn ystod y cyfnod, ni fydd modd i chi gyflwyno na graddio asesiadau.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Ni fydd Turnitin ar gael i’w ddefnyddio rhwng 16:00 a 22:00 ddydd Sadwrn 9 Awst 2025 oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Yn ystod y cyfnod, ni fydd modd i chi gyflwyno na graddio asesiadau.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Rydyn ni wrthi’n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos er mwyn rhannu arferion wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu.
Yn y gyfres yma o flogiadau, bydd cydweithwyr sy’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wrth addysgu yn rhannu sut yr aethon nhw ati i ddylunio’r gweithgareddau hyn.
Mae’n bleser croesawu Dr Gareth Hoskins (tgh@aber.ac.uk) o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn y blogiad yma.
Gwerthusiad yn y dosbarth oedd hwn, o grynodeb a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) o’r cysyniad gwyddonol ‘cof bylb fflachio’ fel rhan o ddarlith ar ‘gof unigol’ yn y modiwl daearyddiaeth ddynol/cymdeithaseg yn y drydedd flwyddyn GS37920 Diwylliannau’r Cof: treftadaeth, hunaniaeth a phŵer.
Ysgoges i ChatGPT gyda’r cyfarwyddyd: “Create 200 word summary of the concept flashbulb memory”, creu sgrinlun o’r testun a ddeilliodd o hynny a’i ymgorffori yn fy sleidiau darlith gan roi tair munud i’r dosbarth ei ddarllen a’i drafod wrth eu byrddau gan ofyn yn benodol am ymatebion i’r cwestiynau hyn:
Wnaeth y drafodaeth ddim cyffwrdd yn ormodol â’r cwestiynau ofynnes i ond canolbwyntio’n fwy ar gynnwys ChatGPT lle roedd y myfyrwyr yn llawer mwy beirniadol o’r cynnwys nag roeddwn i wedi’i ddisgwyl. Nodwyd y dôn ddiflas, yr ailadrodd, yr ansicrwydd ynghylch ffeithiau, yr ymagwedd amwys a’r diffyg pendantrwydd yn gyffredinol. Dangosodd y myfyrwyr hynny fesur annisgwyl o lythrennedd AI cynhyrchiol a gafodd ei gyfleu i’r dosbarth yn ei gyfanrwydd. Yn ystod y trafod, daeth y myfyrwyr yn fwy ymwybodol o ddefnyddioldeb offer AI cynhyrchiol, yn fwy cyffyrddus yn siarad am sut maen nhw’n ei ddefnyddio a sut y gallen nhw o bosibl fynd ymlaen i’w ddefnyddio, a sut y gallai ei gyfyngiadau a’i wendidau effeithio ar y cynnwys y mae’n ei gynhyrchu.
Datblyges i’r ymarfer drwy ddefnyddio tudalen gwe canllawiau UCL ‘Designing Assessments for an AI-enabled world’ https://www.ucl.ac.uk/teaching-learning/generative-ai-hub/designing-assessments-ai-enabled-world ac ail-lunies i fy nghwestiynau arholiad ar y modiwl i gael gwared ar arfarniadau generig o gyfraniadau academyddion enwog at wahanol drafodaethau yn y ddisgyblaeth gan eu disodli â chwestiynau damcaniaethol wedi’u seilio ar senarios oedd yn llawer mwy cymhwysol.
Y bwriad oedd cydnabod ein bod yn bodoli mewn byd sydd wedi’i alluogi gan AI sy’n creu cyfleoedd ond hefyd problemau ar gyfer dysgu. Defnyddies i’r ymarfer i gyflwyno’r risgiau sy’n ymwneud ag asesu, ac amlinellu fy strategaeth fy hun ar gyfer asesu ar y modiwl yma drwy ddefnyddio cwestiynau arholiad sydd wedi’i seilio ar broblemau mewn bywyd go iawn ac sy’n gofyn am ddefnyddio sgiliau lefel uwch mewn gwerthuso a meddwl yn feirniadol wedi’u cymhwyso at gynnwys “modiwl-yn-unig” a chyhoeddiadau academaidd diweddar y mae offer ysgrifennu traethodau AI cynhyrchiol yn ei chael yn anodd i’w cyrchu.
Helpodd y gweithgaredd y myfyrwyr i ddod yn fwy cyfarwydd â defnyddio AI cynhyrchiol fel “cynorthwyydd ymchwil” (at greu amlinelliadau a dod o hyd i ffynonellau) a chreodd amgylchedd ar gyfer trafodaeth agored am gyfyngiadau cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan AI o ran amwysedd, rhithwelediadau, diffyg dealltwriaeth, a diffyg mynediad at gynnwys modiwlau mewnol ar Blackboard neu ymchwil gyfredol (erthyglau a gyhoeddwyd yn y ddwy flynedd diwethaf).
Byddwn i’n cyfeirio at systemau eraill gan gynnwys DeepSeek, Gemini, Microsoft Co-Pilot a Claude AI yn ogystal â thrafod eu tarddiad, eu manteision a’u hanfanteision, ac yn hanfodol ddigon fe fyddwn i’n rhybuddio am y canlyniadau amgylcheddol a’r canlyniadau o ran eiddo deallusol.
Cadwch lygad am ein blogiad nesaf ar AI cynhyrchiol mewn astudiaethau achos Dysgu ac Addysgu.
Rhwng 8 a 10 Gorffennaf, cynhaliodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yr 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol.
Mae deunyddiau’r gynhadledd bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.
Hoffem ddiolch i’n holl gyfranwyr a’r rhai oedd yn bresennol. Roedd y sesiynau o ansawdd mor uchel.
Rydym eisoes yn cynllunio ein 14eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a gynhelir ym mis Medi 2026 (dyddiad i’w gadarnhau).
Gobeithiwn eich gweld mewn digwyddiad sydd i ddod.
Yn y diweddariad ym mis Gorffennaf, rydym yn arbennig o gyffrous am welliant i nodiant mathemategol gyda MathJax a ffordd o fesur ymgysylltiad myfyrwyr â Chyhoeddiadau Blackboard.
Gwelliannau yw’r rhain i’r llywio mewn Aseiniadau Grŵp, ychwanegu capsiynau at ddelweddau mewn dogfennau, a gwella effeithlonrwydd hyfforddwr yn y dudalen gweithgaredd.
Rydym yn falch iawn o weld y gwelliant hwn, sy’n rhywbeth yr ydym wedi bod yn gofyn amdano ers symud i Blackboard Ultra.
Mae Blackboard wedi gwella’r profiad o drosi fformiwla yn y Golygydd Cynnwys trwy weithredu MathJax, offer ar gyfer arddangos nodiant mathemategol:
Mae’r diweddariad hwn yn gwella cywirdeb gweledol a chysondeb fformiwlâu sy’n seiliedig ar LaTeX, gan eu halinio’n agosach â safonau gwyddonol ac academaidd.
Mae MathJax yn cynnig arddull trosi fwy manwl gywir a ffefrir gan lawer o hyfforddwyr STEM. Pan gaiff ei ysgogi, bydd MathJax yn trosi cod LaTeX a fewnbynnwyd yn uniongyrchol yn y Golygydd Cynnwys yn awtomatig ar draws ardaloedd a gefnogir o Blackboard. Mae Wiris ar gael o hyd fel y rhagosodiad i drosi fformiwlâu ar gyfer y Golygydd Cynnwys. Os nad yw MathJax wedi’i ysgogi, bydd Wiris yn trosi fformiwlâu.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen gymorth a ddiweddarwyd. Golygydd Mathemateg.
Gall hyfforddwyr nawr wirio pa fyfyrwyr sydd wedi marcio eu bod wedi gweld cyhoeddiad. Trwy ddewis cyfrif y gwylwyr ar y brif dudalen Cyhoeddiadau, gall hyfforddwyr agor rhestr sy’n dangos pwy sydd wedi cydnabod a phwy sydd heb gydnabod y neges. O’r rhestr hon, gall hyfforddwyr anfon neges ddilynol at fyfyrwyr nad ydynt wedi gweld y cyhoeddiad i gadarnhau bod gwybodaeth allweddol wedi’i derbyn. Mae hyn yn helpu hyfforddwyr i ddeall pa mor effeithiol y mae eu cyhoeddiadau yn cyrraedd myfyrwyr.
Llun 1: Mae pob cyhoeddiad yn cynnwys colofn Gwylwyr ar y dudalen Cyhoeddiadau.
Llun 2: Mae’r rhestr o wylwyr ar gyfer cyhoeddiad yn dangos bod dau fyfyriwr wedi darllen y cyhoeddiad ac un heb.
Mae Blackboard Assignment yn cynnig nodwedd Cyflwyno Grŵp. Mae hyn yn caniatáu i un aelod o’r grŵp gyflwyno ar ran y myfyrwyr yn eu grŵp. Ar gyfer marcwyr, mae hyn yn golygu marcio un cyflwyniad, gyda marciau ac adborth yn cael eu clustnodi i holl aelodau’r grŵp.
Yn y diweddariad y mis hwn, mae Blackboard wedi gwneud adolygu a graddio cyflwyniadau grŵp yn fwy effeithlon trwy ychwanegu rheolaethau llywio Blaenorol a Nesaf. Gall hyfforddwyr symud yn effeithlon rhwng cyflwyniadau grŵp gan ddefnyddio rheolaethau bar pennawd, gan greu profiad graddio haws gyda llai o gliciau.
Gall hyfforddwyr nawr lywio rhwng cyflwyniadau grŵp heb orfod dychwelyd i’r rhestr gyflwyno. Mae’r botymau Blaenorol a Nesaf yn ymddangos yn y bar pennawd:
Gall hyfforddwyr nawr ychwanegu capsiynau uwchben neu islaw blociau delwedd yn Dogfennau.
Llun 1: Gall hyfforddwyr fynd i Opsiynau Golygu Ffeil i ychwanegu capsiynau delweddau a gosod safleoedd.
Llun 2: Mae pennawd y ddelwedd yn ymddangos uwchben y ddelwedd ac yn darparu mwy o gyd-destun.
Noder, i ddefnyddio’r nodwedd hon, mae angen i chi uwchlwytho’r cynnwys fel delwedd yn y golygydd dogfennau.
Mae’r Ffrwd Gweithgareddau ar gyfer hyfforddwyr wedi newid i gynnwys cyrsiau, cyhoeddiadau, a diweddariadau am weithgareddau mewn un lle.
Nodweddion newydd ar y dudalen Gweithgaredd:
Llwybrau Byr: Mae llwybrau byr newydd wedi’u hychwanegu i wella effeithlonrwydd hyfforddwyr.
Cyhoeddiadau: Darllenwch gyhoeddiadau sefydliadol pwysig.
Llun 1: Mae gan y dudalen Gweithgaredd newydd adrannau ar gyfer cyhoeddiadau, cyrsiau, a’r ffrwd gweithgaredd.
Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein cyfres o sesiynau hyfforddi ar gyfer y semester sydd i ddod.
Gellir archebu pob sesiwn hyfforddi ar-lein gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aberystwyth. Mae ein system archebu hyfforddiant bellach yn awtomataidd, felly byddwch yn derbyn eich gwahoddiad calendr o fewn yr awr a bydd yn ymddangos yn eich calendr. Ymunwch â’r sesiynau hyn o’ch calendr Outlook.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.
Yn ôl yr arfer, mae ein sesiynau hyfforddi wedi’u grwpio i 3 cyfres:
Yn ogystal â’r cynigion arferol, roeddem hefyd am dynnu sylw at y sesiynau newydd yr ydym wedi’u cyflwyno ar gyfer 2025-26:
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno cydweithwyr i DA Cynhyrchiol ac yn rhoi cyfle i chi feddwl am ffyrdd i ymgorffori DA Cynhyrchiol yn eich ymarfer dysgu ac addysgu.
Gallwch archebu eich lle ar bob sesiwn arall yn y gyfres E-ddysgu hon drwy ddefnyddio’r ddolen hon.
Nodyn i’ch atgoffa bod pob sesiwn yn y gyfres Hanfodion yn cael ei argymell yn gryf i unrhyw aelodau newydd o staff yn eich adran.
Mae dogfennau Blackboard Documents wedi cael eu hailwampio’n llwyr yn Ultra. Mae’r sesiwn hon, sy’n 30 munud o hyd, yn rhoi trosolwg o’r nodweddion newydd ac yn eich galluogi i roi cynnig arni yn eich cwrs.
Rydym wedi cyfuno ein sesiwn ar drafodaethau a chyfnodolion, Discussions and Journals. Byddwn yn rhoi arweiniad ar ddylunio gweithgareddau ar gyfer ein hoffer rhyngweithiol er mwyn helpu hyrwyddo ymroddiad myfyrwyr.
Byddwn yn edrych ar yr offer dadansoddol sydd ar gael yn eich cwrs Blackboard i helpu monitro ymroddiad myfyrwyr. Byddwn yn defnyddio hyn i deilwra negeseuon yn ogystal â chreu gweithgareddau eraill fel gwiriadau gwybodaeth a dilyniant modiwlau dysgu i helpu cynnal ymroddiad myfyrwyr wrth iddynt ddysgu.
Un o nodweddion Turnitin yw PeerMark sy’n eich galluogi i greu cyfleoedd asesu gan gyd-fyfyrwyr. Mae hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddarparu adborth ffurfiannol ar waith ei gilydd.
Eisiau tacluso eich recordiadau? Bydd y sesiwn hon yn arddangos gwahanol ffyrdd y gallwch ddefnyddio Panopto: o fewnosod cwisiau yng nghanol recordiad, i roi cyfle i’r myfyrwyr fod yn greadigol a defnyddio Panopto eu hunain. Mae’r sesiwn hon yn wych i’r rhai sy’n mabwysiadu dull ystafell ddosbarth ‘wrthdro’ neu sydd eisiau defnyddio Panopto y tu hwnt i Recordio Darlithoedd.
Mae sesiynau eraill yn cynnwys y Cynorthwyydd Dylunio DA Blackboard a dylunio meddalwedd pleidleisio Advanced Vevox.
Gallwch archebu eich lle ar bob sesiwn arall yn y gyfres E-ddysgu Uwch drwy ddefnyddio’r ddolen hon.
Rydym wedi dylunio 4 gweithdy newydd ar gyfer cydweithwyr yn seiliedig ar 4 maes y Wobr Cwrs Eithriadol. Wrth edrych ar bob agwedd, bydd cydweithwyr yn ystyried sut y gellir datblygu eu cyrsiau eu hunain.
Dyma’r 4 sesiwn:
Gallwch archebu eich lle ar bob sesiwn arall yn y gyfres Rhagoriaeth E-ddysgu drwy ddefnyddio’r ddolen hon. Ymhlith y sesiynau eraill mae cyfle i wneud cais ar gyfer Gwobr Cwrs Eithriadol, Submitting an Exemplary Course Award.
Os oes unrhyw bynciau hyfforddi eraill yr hoffech i ni eu hystyried ar gyfer Semester 2, cysylltwch â ni.