
Ym mis Ebrill cyflwynodd Blackboard yr Ystorfa Gwrthrychau Dysgu [YGD] – fe wnaethon ni ysgrifennu am hyn yn ein blog diweddariad misol. Fe wnaethon ni hefyd ychwanegu datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol i’r Ystorfa i staff eu defnyddio.
Rydym bellach wedi ysgrifennu polisi YGD i gydweithwyr sydd â diddordeb mewn ychwanegu cynnwys i’r Ystorfa i eraill ei ddefnyddio.
Mae’r Ystorfa Gwrthrychau Dysgu [YGD] yn caniatáu inni greu eitemau’n ganolog i gydweithwyr eu copïo i’w cyrsiau a’u mudiadau. Gellir diweddaru eitemau’r YGD, gan gymhwyso newidiadau i eitemau cynnwys ar draws pob cwrs a mudiad. Am ragor o wybodaeth, gweler gwefan cymorth Blackboard.
Mae’r YGD yn ddelfrydol ar gyfer cynnwys safonol sy’n ofynnol ar draws llawer o gyrsiau. Er enghraifft:
- Eitemau safonol i’w cynnwys mewn cyrsiau
- Polisïau
- Ffynonellau Cymorth
- Datganiadau DA Cynhyrchiol
- Canllawiau a chymorth sgiliau
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr YGD neu’r polisi newydd (eddysgu@aber.ac.uk).