Mae’r holl gyrsiau ar gyfer 2025-26 wedi cael eu creu ac maent ar gael i staff yn Blackboard.
Bydd y templed cwrs eleni yn cynnwys ambell eitem newydd a gobeithiwn y byddant o gymorth i staff a myfyrwyr:
- Eitem am recordio a chreu capsiynau gyda Panopto (gweler ein blogbost ar gapsiynau am ragor o wybodaeth)
- Dolen i dudalennau gwe SgiliauAber
- Gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial ac Ymddygiad Academaidd Annerbyniol
Mae rhoi’r wybodaeth hon yn y templed cwrs yn golygu bod pob myfyriwr yn gweld yr un wybodaeth. Mae hefyd yn golygu nad oes rhaid i staff gynnwys y wybodaeth wrth baratoi eu cyrsiau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
Mae holl safleoedd cyrsiau Blackboard PA yn defnyddio templed y cytunwyd arno, sy’n cynnwys meysydd ar gyfer gwybodaeth graidd ynghyd â chynnwys ynglŷn â pholisïau ar lefel y brifysgol. Mae Pwyllgor y Panel Ansawdd a Safonau yn cytuno ar y templed cwrs bob blwyddyn. Mae Cydlynwyr Modiwlau yn gyfrifol am sicrhau bod y deunyddiau yn eu cyrsiau wedi’u trefnu’n briodol. Ni ddylai staff ddileu unrhyw gynnwys sydd yn y templed.
Gweler yr Isafswm Presenoldeb Gofynnol i weld beth y dylid ei gynnwys yn y cwrs.
Os ydych chi angen unrhyw gymorth â chyrsiau Blackboard, gweler y Canllaw Blackboard i Staff.
Unwaith y bydd cyrsiau wedi’u creu, byddwn yn darparu llif wythnosol rhwng y System Rheoli Modiwlau a Blackboard i adlewyrchu unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau. Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r rolau cwrs eleni, ac mae mwy o fanylion ar gael ar ein blogbost.
Ni fydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyrsiau nes bod y cofrestru wedi’i gwblhau ym mis Medi.