Mae darparu deunyddiau dysgu hygyrch yn helpu pawb i ddysgu. Gall defnyddio rhai offer sylfaenol a gwneud rhai newidiadau bach i’ch dogfennau wneud gwahaniaeth mawr i fyfyrwyr sydd ag anableddau.
Heddiw (15 Mai) yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang, felly mae’n ddiwrnod da i weld beth allwch chi ei wneud i wella hygyrchedd deunyddiau yn Blackboard.
Gallwch gael gafael ar offer yn Blackboard a Microsoft Office i’ch helpu i greu dogfennau hygyrch:
Os oes gennych 5 munud heddiw, edrychwch ar Adroddiad Hygyrchedd Cwrs Ally yn un o’ch cyrsiau Blackboard. Mae’r adran ar y cynnwys sydd â’r problemau hawsaf i’w datrys yn lle da i ddechrau. Cewch eich tywys trwy rai newidiadau cyflym y gallwch eu gwneud ar unwaith.
Neu efallai y byddwch chi’n dod o hyd i rai pethau rydych chi am eu gwella dros yr haf, fel rhan o’r broses flynyddol o greu cyrsiau. Un o’r problemau mwyaf a welwn mewn cyrsiau Blackboard yw dogfennau wedi eu sganio heb adnabyddiaeth nodau gweledol (OCR). Ffordd dda o sicrhau hygyrchedd dogfennau wedi’u sganio yw siarad â’n Tîm Digideiddio sy’n gallu cynghori ar sganio penodau llyfrau ac erthyglau cyfnodolion.
Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth mae bron i 30% o boblogaeth ein myfyrwyr wedi datgan bod ganddynt anabledd, felly bydd gwella hygyrchedd eich deunyddiau mewn unrhyw ffordd yn cael effaith fawr ar sut mae myfyrwyr yn eu defnyddio.
Cewch ragor o wybodaeth yma am Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang (gwefan allanol yw hon ac nid yw ar gael yn y Gymraeg).