Gwyddom fod rhai staff yn defnyddio dogfennau wedi’u hysgrifennu â llaw mewn darlithoedd – efallai fod hyn ar gyfer gweithio drwy gyfrifiadau, neu i ddangos proses, neu i lunio graff. Pan fyddwch chi’n uwchlwytho’r rhain i Blackboard, maen nhw’n tueddu i gael sgôr Ally isel gan nad ydyn nhw’n hygyrch i rai defnyddwyr. Dyma rai ffyrdd y gallwch wneud y mathau hyn o ddogfennau yn fwy hygyrch.
Pan fyddwch chi’n ysgrifennu mewn darlithoedd gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio llawysgrifen glir a chyson – ceisiwch beidio â defnyddio ysgrifennu sownd, a gwnewch yn siŵr bod maint eich llawysgrifen yn iawn. Bydd defnyddio pen blaen ffelt fel Sharpie hefyd yn helpu gyda chyferbyniad.
Os gallwch ddarparu fersiwn wedi’i deipio, ychwanegwch hwn at Blackboard ynghyd â’r fersiwn wedi’i ysgrifennu â llaw. Os nad yw hyn yn bosibl, efallai yr hoffech gyfeirio myfyrwyr at ffynhonnell arall i gael y deunydd cyfatebol (er enghraifft gwerslyfr, recordiad Panopto gyda chapsiynau, fideo YouTube ac ati).
Pan fyddwch chi’n sganio deunyddiau, gallwch ddefnyddio argraffyddion y brifysgol, gan fod gan bob un ohonynt osodiad OCR (Optical Character Recognition). Golyga hyn y gall y testun a’r delweddau ar eich sgan gael eu dewis gan fyfyriwr. Mae hyn yn helpu gyda darllenwyr sgrin, yn ogystal â Blackboard Ally – ni fydd Ally yn creu ffeil MP3 o ddogfen nad oedd ganddi OCR (er y bydd yn ceisio creu fersiwn OCR, ond nid yw hyn bob amser yn gweithio’n dda). Gwnewch yn siŵr eich bod yn sganio’r cyfeiriad cywir. Ar ôl i chi wneud sgan, rhowch gynnig ar gopïo a gludo eich testun i Word fel y gallwch weld beth mae’r myfyrwyr yn ei weld neu’i glywed.
Gall yr adnodd PDF24 (sydd ar gael drwy Company Portal PA) hefyd drosi dogfen nad yw’n OCR yn fersiwn OCR. Bydd pa mor llwyddiannus yw hyn yn dibynnu’n fawr ar gynnwys eich dogfen wreiddiol.
Gall myfyrwyr ddefnyddio Google Lens i ddarllen dogfennau yn Blackboard ac mae’n ymddangos bod y lens yn gwneud gwaith da wrth ddarllen testun wedi’i ysgrifennu â llaw. Edrychwch ar y canllaw gan Guide Dogs am fwy o wybodaeth. Mae yna hefyd fwy o syniadau ar gyfer myfyrwyr ar wefan Perkins. Os ydych chi’n defnyddio Google Lens:
- Peidiwch â’i ddefnyddio i edrych ar bethau sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am unigolion
- Edrychwch ar y polisi preifatrwydd Google i gael mwy o wybodaeth am sut mae eich data yn cael ei ddefnyddio