Ydych chi erioed wedi pwyso stop ar recordiad Panopto yn hytrach nag oedi? Neu wedi sylwi eich bod wedi anghofio dweud rhywbeth yn eich recordiad?
Oeddech chi’n gwybod y gallwch ailddechrau unrhyw recordiad Panopto gorffenedig, ac ychwanegu mwy ato? Gallwch wneud hyn o unrhyw gyfrifiadur sydd â’r recordydd Panopto arno – nid oes rhaid gwneud hyn o’r peiriant a ddefnyddiwyd gennych i greu’r recordiad gwreiddiol.
Ac mae’n hawdd iawn i’w wneud:
- Ewch i Panopto a dod o hyd i’ch recordiad
- Cliciwch ar y tri dot (Mwy o Weithredoedd) ar y rhagolwg recordio
- Dewiswch Resume > Resume in Panopto for Windows

Os hoffech chi wneud hyn o’ch swyddfa, bydd angen i chi osod y recordydd Panopto ar eich cyfrifiadur gwaith. Neu, gallwch ailddechrau recordiad o unrhyw beiriant addysgu.
Bydd eich deunydd newydd yn cael ei ychwanegu fel ffrwd newydd i’r recordiad Panopto (felly gallwch ddod o hyd iddo’n hawdd os ydych chi am ei olygu). Ond mae’r deunydd newydd yn cael ei ychwanegu’n ddi-dor at eich recordiad gwreiddiol i chi.