Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr trydydd ar ddeg gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol.
Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr: Addasu, Ymroi, a Ffynnuac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 8 a dydd Iau 10 Gorffennaf 2025.
Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 13eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol Prifysgol Aberystwyth a gynhelir rhwng 8-10 Gorffennaf 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r digwyddiad hwn, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk.
Yn yr anerchiad hwn, bydd Aranee yn cyflwyno dull o gynllunio cwricwlwm cynhwysol sy’n rhoi cymorth i bob myfyriwr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnynt i lywio’n llwyddiannus drwy anawsterau’r unfed ganrif ar hugain sy’n gyfnod cyfnewidiol, ansicr, cymhleth ac amwys. Bydd y cyflwyniad yn edrych ar ddatblygu cwricwlwm cynhwysol o ran yr egwyddorion allweddol sy’n cefnogi canlyniadau myfyrwyr a graddedigion, cyn rhannu sut y gellir integreiddio cyflogadwyedd yn effeithiol drwy addysgu pynciau a dysgu – gan gynnwys defnyddio dull rhaglennol o gynllunio’r cwricwlwm ac addysgeg ac asesiadau uchel eu heffaith. Bydd y sesiwn yn rhannu ystod o offer y mae Aranee wedi’u datblygu yn ei gwaith gyda thimau gwasanaethau academaidd a phroffesiynol yn y maes hwn; gellir hefyd ddod o hyd i bob un ohonynt yn y pecyn cymorth a ariennir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Datblygu Cyflogadwyedd Cynhwysol trwy’r Cwricwlwm a arweiniwyd ganddi hi â chydweithwyr ym Mhrifysgol Dinas Llundain a Phrifysgol Llundain.
Dr Aranee Manoharan, PhD, SFHEA, FRSA
Mae Aranee yn Uwch Gyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Gyrfaoedd a Cyflogadwyedd yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Gyda phrofiad ar draws meysydd addysgu, profiad myfyrwyr, a datblygiad addysgol, yn ogystal â Chydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant a llywodraethu, ei maes arbenigol yw gwella canlyniadau myfyrwyr trwy ystyried eu cylch bywyd cyfan fel myfyrwyr. Yn Uwch Gymrawd AU Ymlaen, mae’n arbenigo mewn dulliau cynhwysol o gynllunio’r cwricwlwm i gefnogi canlyniadau myfyrwyr a graddedigion ac mae ganddi brofiad sylweddol o weithio gyda thimau academaidd i hwyluso dysgu yn y byd go iawn, gan ddefnyddio addysgeg ac asesiadau uchel eu heffaith, a gyflwynir mewn cydweithrediad â phartneriaid cymunedol a diwydiant.
Yn eiriolwr ymroddedig dros degwch a chynhwysiant, mae Aranee yn gwasanaethu ar nifer o grwpiau cynghori, gan gynnwys y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr (ISE); Rhwydwaith Bwlch Dyfarnu HUBS y Gymdeithas Fioleg Frenhinol; Pwyllgor Llywodraethu Siarter Cydraddoldeb Hil AU Ymlaen; ac fel Cyfarwyddwr Bwrdd Cymdeithas Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd i Raddedigion, lle mae’n arwain y portffolio ar symudedd cymdeithasol, ehangu cyfranogiad, ac anghydraddoldeb rhanbarthol. Aranee hefyd yw Cyfarwyddwr y cwmni AM Coaching & Consulting, cwmni sy’n cynghori a rhoi cymorth i sefydliadau er mwyn iddynt sefydlu diwylliannau gweithio, dysgu ac ymchwil cynhwysol.
Yn y diweddariad ym mis Mawrth, mae Blackboard wedi newid sut mae amodau rhyddhau yn gweithio gyda dyddiadau cyflwyno ac wedi cynnwys y gallu i gopïo baneri o un cwrs i’r llall. Mae diweddariadau eraill yn cynnwys gwelliannau i Brofion, Aseiniadau, a Llyfr Graddau, a Thrafodaethau.
Panel amodau rhyddhau: dyddiadau cyflwyno wedi’u cynnwys nawr
Pan fydd hyfforddwyr yn addasu amodau rhyddhau ar gyfer eitem gynnwys, mae dyddiad cyflwyno yr eitem bellach wedi’i gynnwys gyda’r meysydd dyddiad ac amser.
Delwedd 1: Mae dyddiad cyflwyno eitem gynnwys bellach yn dangos ar ôl y meysydd dyddiad ac amser
.
Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid i ddyddiadau cyflwyno fod rhwng amodau rhyddhau y dyddiad/amser sydd wedi’u cymhwyso.
Copïo baneri rhwng cyrsiau
Erbyn hyn mae gan hyfforddwyr yr opsiwn i gopïo baneri rhwng cyrsiau. Gellir copïo baneri o gyrsiau Ultra neu gyrsiau gwreiddiol.
Delwedd 1: Nawr mae gan y dudalen Copïo Eitem yr opsiwn i ddewis baner y cwrs o dan Gosodiadau
Mae’r gwelliannau canlynol wedi’u grwpio o dan profion, aseiniadau a gweithgareddau llyfr graddau.
Tudalen adolygu cyflwyniad newydd i fyfyrwyr ar gyfer profion
Mae tudalen adolygu cyflwyniad newydd i fyfyrwyr ar gyfer profion wedi’i datblygu.
Mae’r cynllun newydd yn golygu bod yr holl adborth wedi’i nodi’n glir ac yn hawdd i fyfyrwyr ei hadnabod.
Delwedd 1: Mae gwedd myfyrwyr o’r cyflwyniad prawf graddedig yn cynnwys stamp amser cyflwyno, derbynneb cyflwyno, ac adborth ar gyfer cwestiynau unigol.
Os yw’r prawf yn weladwy a bod adborth wedi’i bostio, gall myfyrwyr gael mynediad i’r dudalen adolygu o:
Y botwm adborth llyfr graddau ar gyfer y prawf
Y panel bach sy’n dangos pan fydd myfyrwyr yn cael mynediad at brawf o dudalen Cynnwys y Cwrs
Os yw myfyriwr yn cyflwyno sawl ymgais, gallant adolygu pob ymgais ar y dudalen adolygu cyflwyniadau. Mae’r hyfforddwr yn diffinio pa ymgais i raddio yn lleoliad cyfrifo gradd terfynol y prawf.
Noder nad yw hyn yn effeithio ar arholiadau ar-lein gan ein bod yn cynghori bod y prawf wedi’i guddio oddi wrth fyfyrwyr i’w hatal rhag gweld eu canlyniadau.
Dangos / cuddio colofnau wedi’u cyfrifo yn y llyfr graddau
Gall hyfforddwyr nawr ffurfweddu gwelededd ar gyfer colofnau wedi’u cyfrifo o Rheoli Eitemau yn y Llyfr Graddau trwy glicio ar y cyfrifiad cysylltiedig:
Naidlen gyfarwyddyd gyda Blackboard Assignment
Gall cyfarwyddiadau sgorio ar Blackboard Assignments ymddangos mewn ffenestr ar wahân yn rhan o lif gwaith yr aseiniad.
Delwedd 1: Gall hyfforddwyr gael naidlen gyfarwyddyd trwy ddewis yr eicon ehangu yn y panel cyfarwyddiadau.
Pan fydd y naidlen gyfarwyddyd ar agor, mae’r gallu i ychwanegu Adborth Cyffredinol a graddio gyda’r cyfarwyddyd yn y prif ryngwyneb graddio yn anweithredol. Mae hyn yn atal hyfforddwr rhag golygu’r un wybodaeth mewn dau le ar yr un pryd.
Rydym yn argymell defnyddio dwy sgrin gyda’r gwelliant hwn.
Trafodaethau
Gwelliannau o ran defnyddioldeb ar gyfer Trafodaethau
Mae nifer o welliannau wedi’u gwneud i’r Trafodaethau:
Gwell gwelededd: Erbyn hyn mae gan bostiadau gefndir llwyd i sefyll allan yn well yn erbyn y dudalen.
Arddangosiad llawn o’r post: Mae postiadau hir bellach yn gwbl weladwy heb yr angen i sgrolio, sy’n gwella darllenadwyedd.
Llun 1: Postiad hir yn cael ei arddangos yn ei gyfanrwydd gyda chefndir llwyd.
Gwnaethom sawl newid i wella hygyrchedd nodweddion allweddol ar yr hafan trafodaeth.
Metrigau cyfranogiad: Mae nifer y postiadau a’r atebion bellach wedi’u rhestru’n uniongyrchol ar yr hafan trafodaeth, gan ddisodli’r cyfrifwr ‘cyfanswm ymatebion’. Mae’r newid hwn yn sicrhau bod gwybodaeth bwysig ar gael yn gynt.
Opsiwn golygu uniongyrchol: Mae’r botwm Golygu bellach ar gael yn uniongyrchol o’r postiad, gan arbed amser i addysgwyr.
Delwedd 2: Roedd y newidiadau a wnaed i’r hafan trafodaeth yn cynnwys ychwanegu botwm Golygu a chyfri postiadau ac ymatebion.
Tab Trafodaethau Cudd o wedd cwrs myfyrwyr
Bydd y dudalen Trafodaethau ond ar gael i fyfyrwyr os bodlonir unrhyw un o’r amodau isod:
Mae gan fyfyrwyr ganiatâd i greu trafodaethau newydd
Mae’r hyfforddwr wedi creu trafodaeth neu ffolder drafodaeth ar y cwrs
Trafodaethau dienw: Braint newydd i ddatgelu awdur
Gall gweinyddwyr y system nawr ddatgelu pwy yw awdur postiad neu ymateb dienw i drafodaeth. Os ydych chi’n cynnal Trafodaeth ddienw ac angen dangos pwy wnaeth y sylw, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan amlinellu’r cwrs, y drafodaeth a’r postiad, yn ogystal â’r rhesymeg dros ofyn i gael dangos pwy wnaeth y sylw.
Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.
Wrth i Ramadan ddechrau, roeddem am dynnu sylw at ganllaw i addysgwyr o dan arweiniad yr Athro Louise Taylor o Oxford Brookes (ynghyd â sawl cydweithiwr arall).
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y rhai sy’n cadw Ramadan yn ymwrthod â bwyd a diod yn ystod oriau golau dydd.
Gellir cael gafael ar y canllaw llawn a’i lawrlwytho o’r dudalen we yma.
Mae’r canllaw yn amlinellu’r effaith bosibl y gall Ramadan ei gael ar waith dysgu’r myfyrwyr ac mae’n cynnig rhai addasiadau a fydd efallai am gael eu hystyried. Mae Oxford Brookes wedi cynhyrchu fideo 7 munud o fyfyrwyr yn rhannu eu profiad o Ramadan. Mae’r canllaw yn defnyddio arolygon gan weithwyr proffesiynol AU i ddarparu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac mae’n cynnig 6 ffordd y gallem fabwysiadu dysgu mwy cynhwysol:
Cydnabod Ramadan
Osgoi rhagdybiaethau a holi cwestiynau
Addasu amseriadau asesu
Cynnig dysgu yn eu hamser eu hunain
Codi ymwybyddiaeth a dathlu
Bod yn gynhwysol a gwneud newidiadau cynaliadwy
Daw’r canllaw i’r casgliad mai ei neges allweddol yw pwysigrwydd cychwyn trafodaethau gyda myfyrwyr Mwslimaidd.
Fel cymuned, rydym yn gobeithio adeiladu ar sail y gwaith hwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan ddefnyddio’r canllawiau hyn fel man cychwyn.
Rydym yn frwd ynghylch arferion addysg gynhwysol a byddem wrth ein bodd yn eu cyflwyno yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol sydd ar ddod. Os ydych chi’n dilyn arferion cynhwysol yn eich addysgu, yna ystyriwch gyflwyno cynnig ar gyfer y gynhadledd.