
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enillydd y Wobr Cwrs Eithriadol eleni.
Llongyfarchiadau i Mari Dunning o’r adran Dysgu Gydol Oes am y cwrs buddugol: XM18210: Writing Women: Feminism in Poetry and Prose.
Nododd y panel yr arfer rhagorol o ran cyflwyniad a dyluniad clir y cwrs, y gefnogaeth a’r arweiniad cryf a gynigiwyd, y gweithgareddau cyfranogol bywiog a difyr, a’r tasgau creadigol. Cyflawnwyd hyn i gyd drwy amgylchedd dysgu ar-lein hygyrch a brwdfrydig.
Llongyfarchiadau i’r rhai a dderbyniodd ganmoliaeth a chanmoliaeth uchel:
- Dr Kathy Hampson, y Gyfraith a Throseddeg, ar gyfer y cwrs LC37120: Critical and Radical Criminology
- Henrietta Tremlett, Dysgu Gydol Oes, ar gyfer y cwrs XM15710: Autobiographical Writing
- Dr Yasir Saleem Shaikh o Gyfrifiadureg ar gyfer y cwrs CSM0120: Programming for Scientists
Yn y 3 chwrs hyn fe gafwyd rhai arferion rhagorol, gan gynnwys: strwythurau clir a hygyrch, defnyddio cwisiau wythnosol yn effeithiol, gweithgareddau difyr ac amrywiol, prosesau marcio ac adborth clir, asesiadau a gynlluniwyd yn greadigol, ac amcanion dysgu wedi’u cynllunio’n dda a’u cyfleu’n glir.
Asesir y wobr ar sail pedwar maes:
- Cynllun y Cwrs
- Rhyngweithio a Chydweithio
- Asesu
- Cymorth i’r Dysgwyr
Roedd y cyrsiau o safon mor uchel, ac edrychwn ymlaen at rannu eu harferion â chi maes o law.
Llongyfarchiadau mawr i’r buddugwyr haeddiannol eleni.