Cwricwlwm Cynhwysol 2.0: Pontio Nodau Cynhwysiant a Chyflogadwyedd drwy’r Cwricwlwm

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein prif siaradwr ar gyfer ein cynhadledd fer a gynhelir ddydd Mawrth 8 Ebrill.
Bydd Dr Aranee Manoharan o Goleg y Brenin Llundain yn ymuno â ni.
Gweler isod drosolwg o anerchiad Aranee a bywgraffiad. Gallwch archebu eich lle ar gyfer y gynhadledd fer ar-lein a byddwn yn cyhoeddi’r rhaglen lawn maes o law.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r digwyddiad hwn, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk.
Yn yr anerchiad hwn, bydd Aranee yn cyflwyno dull o gynllunio cwricwlwm cynhwysol sy’n rhoi cymorth i bob myfyriwr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnynt i lywio’n llwyddiannus drwy anawsterau’r unfed ganrif ar hugain sy’n gyfnod cyfnewidiol, ansicr, cymhleth ac amwys. Bydd y cyflwyniad yn edrych ar ddatblygu cwricwlwm cynhwysol o ran yr egwyddorion allweddol sy’n cefnogi canlyniadau myfyrwyr a graddedigion, cyn rhannu sut y gellir integreiddio cyflogadwyedd yn effeithiol drwy addysgu pynciau a dysgu – gan gynnwys defnyddio dull rhaglennol o gynllunio’r cwricwlwm ac addysgeg ac asesiadau uchel eu heffaith. Bydd y sesiwn yn rhannu ystod o offer y mae Aranee wedi’u datblygu yn ei gwaith gyda thimau gwasanaethau academaidd a phroffesiynol yn y maes hwn; gellir hefyd ddod o hyd i bob un ohonynt yn y pecyn cymorth a ariennir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Datblygu Cyflogadwyedd Cynhwysol trwy’r Cwricwlwm a arweiniwyd ganddi hi â chydweithwyr ym Mhrifysgol Dinas Llundain a Phrifysgol Llundain.
Dr Aranee Manoharan, PhD, SFHEA, FRSA
Mae Aranee yn Uwch Gyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Gyrfaoedd a Cyflogadwyedd yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Gyda phrofiad ar draws meysydd addysgu, profiad myfyrwyr, a datblygiad addysgol, yn ogystal â Chydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant a llywodraethu, ei maes arbenigol yw gwella canlyniadau myfyrwyr trwy ystyried eu cylch bywyd cyfan fel myfyrwyr. Yn Uwch Gymrawd AU Ymlaen, mae’n arbenigo mewn dulliau cynhwysol o gynllunio’r cwricwlwm i gefnogi canlyniadau myfyrwyr a graddedigion ac mae ganddi brofiad sylweddol o weithio gyda thimau academaidd i hwyluso dysgu yn y byd go iawn, gan ddefnyddio addysgeg ac asesiadau uchel eu heffaith, a gyflwynir mewn cydweithrediad â phartneriaid cymunedol a diwydiant.
Yn eiriolwr ymroddedig dros degwch a chynhwysiant, mae Aranee yn gwasanaethu ar nifer o grwpiau cynghori, gan gynnwys y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr (ISE); Rhwydwaith Bwlch Dyfarnu HUBS y Gymdeithas Fioleg Frenhinol; Pwyllgor Llywodraethu Siarter Cydraddoldeb Hil AU Ymlaen; ac fel Cyfarwyddwr Bwrdd Cymdeithas Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd i Raddedigion, lle mae’n arwain y portffolio ar symudedd cymdeithasol, ehangu cyfranogiad, ac anghydraddoldeb rhanbarthol. Aranee hefyd yw Cyfarwyddwr y cwmni AM Coaching & Consulting, cwmni sy’n cynghori a rhoi cymorth i sefydliadau er mwyn iddynt sefydlu diwylliannau gweithio, dysgu ac ymchwil cynhwysol.