Beth sy’n Newydd yn Blackboard Mawrth 2025 

Yn y diweddariad ym mis Mawrth, mae Blackboard wedi newid sut mae amodau rhyddhau yn gweithio gyda dyddiadau cyflwyno ac wedi cynnwys y gallu i gopïo baneri o un cwrs i’r llall. Mae diweddariadau eraill yn cynnwys gwelliannau i Brofion, Aseiniadau, a Llyfr Graddau, a Thrafodaethau.

Panel amodau rhyddhau: dyddiadau cyflwyno wedi’u cynnwys nawr

Pan fydd hyfforddwyr yn addasu amodau rhyddhau ar gyfer eitem gynnwys, mae dyddiad cyflwyno yr eitem bellach wedi’i gynnwys gyda’r meysydd dyddiad ac amser.

Delwedd 1: Mae dyddiad cyflwyno eitem gynnwys bellach yn dangos ar ôl y meysydd dyddiad ac amser

Mae dyddiad cyflwyno eitem gynnwys bellach yn dangos ar ôl y meysydd dyddiad ac amser

.Release condition rules, with the date/time section highlighted to show the red warning text about dates

Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid i ddyddiadau cyflwyno fod rhwng amodau rhyddhau y dyddiad/amser sydd wedi’u cymhwyso.

Copïo baneri rhwng cyrsiau

Erbyn hyn mae gan hyfforddwyr yr opsiwn i gopïo baneri rhwng cyrsiau. Gellir copïo baneri o gyrsiau Ultra neu gyrsiau gwreiddiol. 

Delwedd 1: Nawr mae gan y dudalen Copïo Eitem yr opsiwn i ddewis baner y cwrs o dan Gosodiadau

Nawr mae gan y dudalen Copïo Eitem yr opsiwn i ddewis baner y cwrs o dan Gosodiadau

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gopïo cynnwys i gael rhagor o wybodaeth.

Profion, Aseiniadau a Llyfr Graddau

Mae’r gwelliannau canlynol wedi’u grwpio o dan profion, aseiniadau a gweithgareddau llyfr graddau.

Tudalen adolygu cyflwyniad newydd i fyfyrwyr ar gyfer profion

Mae tudalen adolygu cyflwyniad newydd i fyfyrwyr ar gyfer profion wedi’i datblygu.

Mae’r cynllun newydd yn golygu bod yr holl adborth wedi’i nodi’n glir ac yn hawdd i fyfyrwyr ei hadnabod.

Delwedd 1: Mae gwedd myfyrwyr o’r cyflwyniad prawf graddedig yn cynnwys stamp amser cyflwyno, derbynneb cyflwyno, ac adborth ar gyfer cwestiynau unigol.

Mae gwedd myfyrwyr o’r cyflwyniad prawf graddedig yn cynnwys stamp amser cyflwyno, derbynneb cyflwyno, ac adborth ar gyfer cwestiynau unigol.

Os yw’r prawf yn weladwy a bod adborth wedi’i bostio, gall myfyrwyr gael mynediad i’r dudalen adolygu o:

  • Y botwm adborth llyfr graddau ar gyfer y prawf
  • Y panel bach sy’n dangos pan fydd myfyrwyr yn cael mynediad at brawf o dudalen Cynnwys y Cwrs

Os yw myfyriwr yn cyflwyno sawl ymgais, gallant adolygu pob ymgais ar y dudalen adolygu cyflwyniadau. Mae’r hyfforddwr yn diffinio pa ymgais i raddio yn lleoliad cyfrifo gradd terfynol y prawf.

Noder nad yw hyn yn effeithio ar arholiadau ar-lein gan ein bod yn cynghori bod y prawf wedi’i guddio oddi wrth fyfyrwyr i’w hatal rhag gweld eu canlyniadau.

Dangos / cuddio colofnau wedi’u cyfrifo yn y llyfr graddau

Gall hyfforddwyr nawr ffurfweddu gwelededd ar gyfer colofnau wedi’u cyfrifo o Rheoli Eitemau yn y Llyfr Graddau trwy glicio ar y cyfrifiad cysylltiedig:

delwedd yn dangos eitemau y gellir eu marcio yn y llyfr graddau

Naidlen gyfarwyddyd gyda Blackboard Assignment

Gall cyfarwyddiadau sgorio ar Blackboard Assignments ymddangos mewn ffenestr ar wahân yn rhan o lif gwaith yr aseiniad.

Delwedd 1: Gall hyfforddwyr gael naidlen gyfarwyddyd trwy ddewis yr eicon ehangu yn y panel cyfarwyddiadau.

Gall hyfforddwyr gael naidlen gyfarwyddyd trwy ddewis yr eicon ehangu yn y panel cyfarwyddiadau.

Pan fydd y naidlen gyfarwyddyd ar agor, mae’r gallu i ychwanegu Adborth Cyffredinol a graddio gyda’r cyfarwyddyd yn y prif ryngwyneb graddio yn anweithredol. Mae hyn yn atal hyfforddwr rhag golygu’r un wybodaeth mewn dau le ar yr un pryd.

Rydym yn argymell defnyddio dwy sgrin gyda’r gwelliant hwn.

Trafodaethau

Gwelliannau o ran defnyddioldeb ar gyfer Trafodaethau

Mae nifer o welliannau wedi’u gwneud i’r Trafodaethau:

  • Gwell gwelededd: Erbyn hyn mae gan bostiadau gefndir llwyd i sefyll allan yn well yn erbyn y dudalen.
  • Arddangosiad llawn o’r post: Mae postiadau hir bellach yn gwbl weladwy heb yr angen i sgrolio, sy’n gwella darllenadwyedd.

Llun 1: Postiad hir yn cael ei arddangos yn ei gyfanrwydd gyda chefndir llwyd.

Postiad hir yn cael ei arddangos yn ei gyfanrwydd gyda chefndir llwyd.

Gwnaethom sawl newid i wella hygyrchedd nodweddion allweddol ar yr hafan trafodaeth.

  • Metrigau cyfranogiad: Mae nifer y postiadau a’r atebion bellach wedi’u rhestru’n uniongyrchol ar yr hafan trafodaeth, gan ddisodli’r cyfrifwr ‘cyfanswm ymatebion’. Mae’r newid hwn yn sicrhau bod gwybodaeth bwysig ar gael yn gynt.
  • Opsiwn golygu uniongyrchol: Mae’r botwm Golygu bellach ar gael yn uniongyrchol o’r postiad, gan arbed amser i addysgwyr.

Delwedd 2: Roedd y newidiadau a wnaed i’r hafan trafodaeth yn cynnwys ychwanegu botwm Golygu a chyfri postiadau ac ymatebion.

 Roedd y newidiadau a wnaed i'r hafan trafodaeth yn cynnwys ychwanegu botwm Golygu a chyfri postiadau ac ymatebion.

Tab Trafodaethau Cudd o wedd cwrs myfyrwyr

Bydd y dudalen Trafodaethau ond ar gael i fyfyrwyr os bodlonir unrhyw un o’r amodau isod:

  • Mae gan fyfyrwyr ganiatâd i greu trafodaethau newydd
  • Mae’r hyfforddwr wedi creu trafodaeth neu ffolder drafodaeth ar y cwrs

Trafodaethau dienw: Braint newydd i ddatgelu awdur

Gall gweinyddwyr y system nawr ddatgelu pwy yw awdur postiad neu ymateb dienw i drafodaeth. Os ydych chi’n cynnal Trafodaeth ddienw ac angen dangos pwy wnaeth y sylw, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan amlinellu’r cwrs, y drafodaeth a’r postiad, yn ogystal â’r rhesymeg dros ofyn i gael dangos pwy wnaeth y sylw.

Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*