
Yn y blogbost hwn, rydyn ni’n mynd i gyflwyno cofnod Gweithgaredd Blackboard sydd ar gael ar bob Cwrs Blackboard Ultra.
O’r cofnod gweithgaredd hwn, gallwch edrych ar fyfyrwyr penodol a gweld pa eitemau y maent wedi ymgysylltu â hwy ar y cwrs. Mae’r cofnod yn dangos yr holl weithgarwch ar y cwrs – o ddeunyddiau dysgu, hyd at fannau cyflwyno Turnitin, a Rhestrau Darllen Talis Aspire.
Mae hyn hefyd yn cynnwys y dyddiad a’r amser y gwnaeth y myfyrwyr edrych ar y deunyddiau hynny.
I weld gweithgaredd y myfyrwyr ar y cwrs:
- Ewch i’r modiwl yn Blackboard
- Cliciwch ar ‘Class Register’

- Chwiliwch am y myfyriwr yr hoffech ddod o hyd i’r wybodaeth ar eu cyfer:

- Cliciwch ar enw’r myfyriwr:

- Dewiswch y Cofnod Gweithgaredd:

- Yna byddwch yn gweld yr amser a’r eitem y mae’r myfyriwr yn ymgysylltu â hi:

- Gallwch newid y paramedrau dyddiad ar y brig a dewis nodi digwyddiadau penodol. Cyfeirir at offer ychwanegol megis mannau cyflwyno Turnitin, Rhestrau Darllen Talis Aspire a recordiadau Panopto fel Eitemau LTI.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cofnod Gweithgaredd neu os oes arnoch angen cymorth i’w ddehongli, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.