Mae’r adnodd Cynorthwyydd Dylunio DA ddiweddaraf wedi’i alluogi yn Blackboard.
Mae AI Conversations yn darparu bot sgwrsio i fyfyrwyr ryngweithio ag ef fel rhan o weithgaredd dysgu.
Mae dau opsiwn o fewn AI Conversations:
- Cwestiynau Socrataidd
- Mae hyn yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol trwy gyfrwng anogwyr holi parhaus
- Chwarae rôl
- Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr actio senario gyda’r persona DA a ddyluniwyd ac a grëwyd gan yr hyfforddwr
Ar ôl ei osod, gall myfyrwyr gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r pwnc ymhellach.
Mae myfyrwyr yn teipio ymateb i’r cwestiynau a ofynnir gan y bot sgwrsio DA. Ar ddiwedd y gweithgaredd, mae myfyrwyr yn ymateb i gwestiwn myfyriol i amlinellu sut y gwnaeth y sgwrs helpu gyda’u dealltwriaeth o’r pwnc.
Byddwn yn arddangos AI Conversations yn ein Cynhadledd Fer ar-lein ddydd Mercher 18 Rhagfyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein blog.
E-ddysgu Uwch: Mae cyflwyniad i hyfforddiant Cynorthwyydd Dylunio DA hefyd wedi’i ddiweddaru i gynnwys AI Conversations. Gallwch archebu lle ar y cwrs ar y system archebu Digwyddiadau a Hyfforddiant.
Gweler Sgwrs ag AI am ragor o wybodaeth.
Ymhlith yr adnoddau Cynorthwyydd Dylunio DA eraill sydd ar gael yn Blackboard y mae:
- Creu Modiwlau Dysgu
- Creu Cwestiynau Prawf a Banciau Cwestiynau
- Creu geiriau allweddol ar gyfer llyfrgell ddogfennau Unsplash
- Creu Cyfnodolion
- Creu Trafodaethau
- Creu Aseiniadau
Rydym wedi casglu rhai enghreifftiau ynghyd isod i ddangos sut y gallech ddefnyddio’r adnodd AI Conversations.
1. Cwestiynau Socrataidd:
Gofynnwch i’ch myfyrwyr roi eu barn ar bwnc penodol. Er enghraifft, beth yw eich dealltwriaeth bresennol o effaith newid yn yr hinsawdd?
Mae’r math hwn o weithgaredd yn caniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ar eu gwybodaeth eu hunain ac ymateb i’r cwestiynau y mae’r bot sgwrsio DA yn eu gofyn.
2. Chwarae rôl:
Trefnwch weithgaredd chwarae rôl i’ch myfyrwyr gymryd rhan ynddo a meddyliwch sut y gallent gymhwyso’r pwnc i senario penodol.
Er enghraifft, gallech ddefnyddio AI Conversations i wneud diagnosis o glaf, rhoi datrysiad i gleient, neu egluro damcaniaeth.
Cynllunio eich gweithgaredd
Wrth gynllunio a dylunio eich gweithgaredd, bydd angen ystyried:
- Beth yw canlyniadau dysgu’r gweithgaredd? Beth hoffech chi i’ch myfyrwyr allu ei wneud ar ôl ymgysylltu â’r gweithgaredd? Sut mae’r gweithgaredd hwn yn integreiddio â gweddill y cwrs?
- Ydych chi wedi profi’r gweithgaredd eich hun? Mae’n bosibl y bydd angen mireinio’r senario a’r persona felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n arbrofi gyda hyn. Gallwch wneud hyn heb ei ryddhau i’r myfyrwyr.
- Ydych chi wedi amlinellu i fyfyrwyr faint o amser y dylent ei dreulio ar y gweithgaredd? Nid oes terfyn amser na therfyn hyd testun ar hyn o bryd, felly gwnewch yn siŵr bod disgwyliadau’r myfyrwyr yn cael eu rheoli. Efallai yr hoffech nodi faint o ryngweithio â’r adnodd sy’n ddisgwyliedig.
- Cadwch at weithgareddau ymarfer arddull ffurfiannol sy’n helpu i atgyfnerthu dysgu a rhoi cyfleoedd i fyfyrio.
- Rhowch wybod i’r myfyrwyr beth yw manteision cymryd rhan yn y gweithgaredd – bydd hyn o gymorth i hybu ymgysylltiad.
- Mae opsiwn i gynnwys cwestiwn myfyriol ar ddiwedd y gweithgaredd i fyfyrwyr i amlinellu sut y gwnaeth y gweithgaredd helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth ymhellach; ystyriwch ddefnyddio’r opsiwn hwn i sicrhau bod y gweithgaredd yn bodloni eich gofynion.
Gweler ein tudalennau gwe ar gyfer AI Conversations a’r Cynorthwyydd Dylunio DA yn ehangach.
Rydym yn awyddus i weithio gyda chydweithwyr ar ddylunio gweithgareddau ystyrlon. Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Blackboard, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.