Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Nodedig 2024-25 ar agor.
Mae’r GCN yn cael ei farnu ar draws 4 categori:
- Cynllun y Cwrs
- Rhyngweithio a Chydweithio
- Asesu
- Cymorth i Fyfyrwyr
Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno 3 arfer sy’n sefyll ar wahân ar gyfer eu Cwrs i helpu i fframio eu cais cyn hunanasesu eu cwrs – gall hyn fod yn naratif 1,000 o eiriau neu’n recordiad Panopto 8 munud o hyd.
Yn dilyn yr hunanasesiad, caiff y cyrsiau eu hasesu hefyd gan banel o arbenigwyr.
Mae’r newidiadau i’r ffurflen eleni yn cynnwys:
- Ychwanegu maen prawf 1.13: sgôr Blackboard Ally o 85% neu fwy.
- Y gallu i ofyn am adroddiadau ar eich cwrs (Ymroddiad Myfyrwyr a Chrynodeb o’r Cwrs). Gellir gofyn am yr adroddiadau hyn gan y Grŵp Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).
Er mwyn helpu i baratoi ar gyfer ceisiadau, cynhelir dau weithdy gan yr Grŵp Addysg Ddigidol ar:
- 14 Ionawr 2025, 14:10-15:30
- 20 Ionawr 2025, 10:10-11:30
Gellir archebu lle drwy’r dudalen archebu ar-lein.
Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o weddalennau’r Grŵp Addysg Ddigidol.
Rhaid ebostio ceisiadau wedi’u cwblhau at eddysgu@aber.ac.uk cyn 12 canol dydd ddydd Gwener 31 Ionawr 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, cysylltwch â’r Grŵp Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).