Pleidleisio ar Vevox: Diweddariad Haf 2024

Mae’r Brifysgol wedi tanysgrifio i feddalwedd pleidleisio Vevox.  Gallwch gynnal gweithgareddau pleidleisio yn eich ystafell ddosbarth gan ddefnyddio dyfeisiau symudol i gymryd rhan.

Mae diweddariad Vevox ar gyfer haf 2024 yn cynnwys rhai swyddogaethau newydd yr ydym am dynnu eich sylw atynt. 

Math o gwestiwn newydd:  Pôl Graddfa sgorio

Mae’r math hwn o gwestiwn yn eich galluogi i osod graddfa sgorio o 1 i’r gwerth uchaf.  Gallwch ailenwi gwaelod y raddfa a brig y raddfa ac ychwanegu sawl eitem at y sgôr.

Byddai’r math hwn o gwestiwn yn ddefnyddiol ar gyfer gweithgareddau megis ‘y pwynt mwyaf dryslyd’ neu i nodi pynciau i’w hadolygu.

Gallwch ddisodli’r raddfa sgôr gyda sgôr o sêr yn lle hynny. 

I ddefnyddio’r cwestiwn graddfa, dewiswch ‘Create New’ a dewis ‘Rating Scale’ o’r ddewislen math o gwestiwn. 

Dewis delweddau mewn polau amlddewis

Gallwch gynnig opsiwn i’ch ymatebwyr ddewis delwedd fel detholiad yn y cwestiwn amlddewis.

Yn hytrach na rhoi testun, mae delweddau’n eich galluogi i greu ymateb mwy gweledol i’r math o gwestiwn. 

Gallwch ddefnyddio llyfrgell ddelweddau Unsplash i’ch helpu i ddod o hyd i ddelweddau sy’n berthnasol i’ch cwestiynau. 

Gosodiadau â chwestiynau penodol

Cyn hyn, roedd y gosodiadau a bennwyd gennych i’ch pôl yn berthnasol i’r holl gwestiynau.   Nawr, mae’n bosib dewis gwahanol osodiadau ar gyfer gwahanol gwestiynau pleidleisio. 

Gallwch ddewis newid:

  • Sut mae’r canlyniadau’n ymddangos mewn amser real
  • Sut mae’r canlyniadau’n ymddangos ar ddiwedd y bleidlais
  • Y gwahanol ddewis o gerddoriaeth wrth i’r amserydd gyfrif yr eiliadau 
  • Yr amserydd awtomatig sy’n cyfrif yr eiliadau

I newid gosodiadau cwestiynau unigol, dewiswch ‘Use custom settings for this poll’ yn rhyngwyneb y cwestiwn. 

Sawl arolwg / cwisiau ‘wrth eich pwysau’

Ar gyfer cydweithwyr sy’n defnyddio cwisiau ac arolygon i’w cwblhau ‘wrth eich pwysau’, mae bellach yn bosibl cynnal mwy nag un ar y tro.  Mae hyn yn golygu y gallwch eu hymgorffori ar draws gwahanol fodiwlau. 

Cymysgu Cwestiynau’r Arolwg 

Os ydych am i drefn y cwestiynau yn yr arolwg ymddangos ar hap, dewiswch ‘Shuffle question order’ ar ryngwyneb yr arolwg. 

Hanes delweddau

Bydd Vevox nawr yn arbed y delweddau a lanlwyddir gennych i’w defnyddio mewn polau pleidleisio.  Bydd hyn yn helpu i arbed amser wrth lwytho ac ail-greu cwestiynau. 

Edrychwch ar ein tudalennau cymorth ar gyfer defnyddio Vevox.  Gallwch hefyd ddarllen diweddariadau blaenorol ar y blog.

Mae Vevox yn cynnal gweminarau rheolaidd ar sut i ddefnyddio’r feddalwedd.  Cofrestrwch ar-lein ar gyfer y rhain. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk). 

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*