Erbyn hyn dim ond ychydig dros fis sydd tan ein cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol, a gynhelir rhwng 10 a 12 Medi 2024.
Gallwch archebu’ch lle ar-lein.
Mae llawer o uchafbwyntiau i’r rhaglen eleni ac rydym yn ddiolchgar i’n cydweithwyr am rannu eu harferion dysgu arloesol â ni.
Mae’r gynhadledd yn dechrau gyda phrif anerchiad a gweithdy a roddir ar-lein gan yr Athro Lisa Taylor (Prifysgol Dwyrain Anglia). Bydd yr Athro Taylor yn rhoi cyflwyniad ar sut y gellir ymgorffori cyflogadwyedd yn y cwricwlwm, cyn symud ymlaen i sôn am ei gwaith arloesol ar leoliadau gwaith ar-lein.
Yn y gweithdy wedyn, bydd y cynadleddwyr yn cael cyfle i gymhwyso’r egwyddorion hyn i’w disgyblaethau eu hunain. Mae’r crynodeb gan yr Athro Taylor yn darparu rhagor o wybodaeth.
Er mwyn adeiladu ar sylfaen sesiwn yr Athro Taylor, bydd staff o bob rhan o’r Brifysgol yn rhannu eu dulliau o wreiddio cyflogadwyedd yn y cwricwlwm, gan arwain at weithdy a gynhelir gan Bev Herring ar ddylunio’r cwricwlwm ar gyfer datblygu cyflogadwyedd.
Yn ogystal â chyflogadwyedd, mae gennym sesiynau ar:
- Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn Dysgu ac Addysgu
- Dad-drefedigaethu’r cwricwlwm
- Niwroamrywiaeth mewn Addysg
- Dulliau o ddysgu mewn tîm
- Gwella’r cyswllt â’r myfyrwyr
- Dysgu drwy efelychu
- Dysgu sy’n ystyriol o drawma
A llawer mwy.
Gallwch weld y rhaglen lawn ac archebu’ch lle ar-lein.
Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.