SafeAssign

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i werthuso dewis arall yn lle Turnitin ar gyfer paru testun a marcio. Enw’r dewis arall hwn yw SafeAssign. Mae SafeAssign yn rhan o Blackboard.

Darllenwch yr wybodaeth isod a fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech gymryd rhan yn y gwerthusiad. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech wirfoddoli, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk

Beth yw SafeAssign?

Mae SafeAssign yn adnodd paru testun a ddarperir gan Blackboard. Mae wedi’i gynnwys yn ein prif drwydded Blackboard. Mae SafeAssign yn ddewis amgen i Turnitin.

Pam ydyn ni’n ei ystyried?

Roedd PA yn defnyddio SafeAssign cyn i ni ddechrau defnyddio Turnitin. Yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn defnyddio’r offer gorau sydd ar gael, hoffem werthuso a fyddai SafeAssign yn briodol ar gyfer paru testunau. Cymeradwywyd y gwerthusiad hwn gan y Pwyllgor Gwella Academaidd (Mai 2024).

Beth fydd yn wahanol os byddaf yn defnyddio SafeAssign yn lle Turnitin?

Bydd rhai agweddau ar farcio a chyflwyno wedi newid:

  • Offer newydd ar gyfer cyflwyno, marcio a pharu testun
  • Cronfa ddata wahanol o aseiniadau a ffynonellau ar gyfer paru testunau. Ni fydd y gronfa ddata hon yn cynnwys cyflwyniadau’r blynyddoedd blaenorol gan PA.

Byddwch yn gweld rhai nodweddion newydd:

  • Amlygu testun
  • Rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer cyflwyno a marcio
  • Gweld ac adalw cyflwyniadau blaenorol gan fyfyrwyr

Ac ni fydd rhai nodweddion ar gael:

  • Bydd angen i chi bostio marciau â llaw yn hytrach na gosod dyddiad ac amser rhyddhau. Fodd bynnag, bydd hyn yn rhoi ychydig mwy o reolaeth i chi ynghylch pryd y bydd marciau ar gael i fyfyrwyr.
  • Cyflwyno ar ran myfyrwyr
  • Diffodd marcio dienw ar gyfer myfyrwyr unigol
  • Ni ellir allforio cyfarwyddiadau a marciau cyflym o Turnitin, er bod offer tebyg ar gael yn Blackboard.

Mae manylion llawn nodweddion Turnitin a SafeAssign ar gael.

Y Gymraeg

Bydd holl elfennau’r gwerthusiad hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn cynnwys canllawiau cymorth, hyfforddiant, cefnogaeth a gwerthusiad. Mae SafeAssign ei hun yn cael ei gyfieithu yn rhan o ymrwymiad Anthology i’r Gymraeg. Mae testun Cymraeg wedi’i gynnwys yn y gwasanaeth paru testunau.

Beth fydd angen i mi ei wneud os ydw i’n gwirfoddoli?

Rydym yn argymell yn gryf bod modiwlau sydd wedi’u cynnwys yn y gwerthusiad yn defnyddio SafeAssign ar gyfer pob e-gyflwyniad yn ystod cyfnod y modiwl. Mae hyn yn helpu staff a myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd â SafeAssign yn hytrach na chyfnewid rhwng offer cyflwyno a marcio lluosog.

Bydd yn rhaid i’r holl staff sy’n ymwneud â chyflwyno, marcio a chymedroli ar gyfer y modiwl ddefnyddio SafeAssign (nodwch fod hyn yn cynnwys arholwyr allanol). Os ydych yn gwirfoddoli modiwl sydd â nifer o staff yn marcio arno, gwnewch yn siŵr eu bod i gyd yn ymwybodol, a’u bod i gyd wedi derbyn hyfforddiant priodol (gweler isod). Byddwn yn rhoi gwybodaeth i bob arholwr allanol am y gwerthusiad.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu cyflwyniad prawf/ymarfer i’ch myfyrwyr cyn eu haseiniad cyntaf. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gwybod sut i ddefnyddio SafeAssign yn gywir. Byddwn yn darparu canllawiau a Chwestiynau Cyffredin i fyfyrwyr y gallwch gysylltu â nhw o ardal Asesu ac Adborth eich cwrs Blackboard.

Pa hyfforddiant a chefnogaeth fydd ar gael?

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau a Chwestiynau Cyffredin ar gyfer staff a myfyrwyr ar wefan yr UDDA. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar sut i greu mannau cyflwyno a sut i farcio. Bydd cefnogaeth lawn ar gael i staff a myfyrwyr drwy gydol y tymor.

Sut fydd hyn yn effeithio ar fy myfyrwyr?

Bydd y dull cyflwyno yn wahanol i fyfyrwyr; un fantais o ddefnyddio SafeAssign yw y bydd myfyrwyr yn cael derbynneb e-bost. Bydd myfyrwyr hefyd yn gweld eu hadborth mewn ffordd ychydig yn wahanol. Byddwn yn darparu cefnogaeth lawn i fyfyrwyr.

A allaf siarad â rhywun am hyn?

Cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk i gael gwybodaeth ac i drafod a yw SafeAssign yn briodol ar gyfer eich modiwl.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*