Blackboard Learn Ultra: Gwelliannau i Ddogfennau

Roedd y diweddariad i Blackboard Learn Ultra ym mis Awst yn cynnwys gwelliannau i nodweddion creu a golygu Dogfennau Blackboard Learn Ultra .

I’r rhai sy’n anghyfarwydd â defnyddio Dogfennau, maent yn ffordd hawdd o greu cynnwys yn Ultra, gan sicrhau eu bod yn cydweddu â dyfeisiau symudol a Blackboard Ally. Gan fod y diweddariad hwn yn golygu newid sylweddol i’r modd y caiff cynnwys ei drefnu, rydym yn creu’r blog hwn ar wahân. Gallwch ddarllen am welliannau eraill yn y blog ynghylch diweddariad mis Awst.

Mae’r diweddariad diweddaraf yn rhoi mwy o bŵer i hyfforddwyr a mwy o reolaeth iddynt dros sut mae cynnwys yn ymddangos. Mae’n gweithredu fel tudalen we, gydag amrywiaeth o fathau o flociau y gellir eu defnyddio i greu a threfnu cynnwys. Gellir symud y blociau hyn o gwmpas i roi mwy o opsiynau i hyfforddwyr dros drefn eu cynnwys.

I grynhoi:

  • Gellir gosod delweddau ochr yn ochr â’r testun
  • Gellir trefnu cynnwys dwyieithog yn haws
  • Gellir defnyddio penawdau i helpu i lywio drwy’r cynnwys
  • Gellir uwchlwytho a throsi ffeiliau yn ddogfen Ultra, gan gadw’r fformat gwreiddiol.

Gellir gweld enghraifft o Ddogfen a grëwyd gan ddefnyddio’r golygydd cynnwys newydd isod:

Llun o ddogfen gyda blociau wedi'u llenwi â thestun a delweddau

Y newid mwyaf i’r holl hyfforddwyr yw bod y nodwedd creu cynnwys yn ymddangos ar frig y dudalen. Gallwch barhau i ddefnyddio’r eicon + i greu cynnwys a fydd wedyn yn rhoi’r ddewislen a welwch isod:

Llun o floc creu cynnwys wrth wneud dogfen yn Ultra

Mae’r opsiwn i drosi ffeil yn nodwedd newydd sy’n eich galluogi i uwchlwytho ffeil. Bydd hyn yn ei throi’n Ddogfen Ultra gan gadw fformat y ffeil wreiddiol.

Bydd dewis ‘Cynnwys’ yn mynd â chi at y golygydd cynnwys arferol.

Mae hyn yn caniatáu ichi ychwanegu cynnwys ac ailfeintio.

Gallwch chi symud cynnwys o gwmpas yn rhwydd gan osod delweddau ochr yn ochr â’r testun.

Wrth i chi aildrefnu cynnwys, rydym yn argymell eich bod yn arbed eich gwaith wrth fynd i sicrhau bod y newidiadau’n parhau.

I gael rhagor o wybodaeth am greu a defnyddio dogfennau, gweler Canllaw Cymorth Blackboard.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*