Cyhoeddi Prif Siaradwr: Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Yr Athro Lisa Taylor

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r prif siaradwr yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni.

Bydd yr Athro Lisa Taylor o Brifysgol Dwyrain Anglia yn ymuno â ni i roi cyflwyniad am gyflogadwyedd yn y cwricwlwm. Mae Lisa yn Athro Cyflogadwyedd ac Arloesedd Dysgu ac yn Ddeon Cyswllt ar gyfer Cyflogadwyedd yn y Gyfadran Meddygaeth ac Iechyd.

Mae gan Lisa gefndir fel Therapydd Galwedigaethol gyda deng mlynedd o brofiad clinigol yn y GIG a chwblhaodd raddau MSc a PhD.

Dros y deuddeng mlynedd diwethaf mae Lisa wedi gweithio ym maes addysg uwch fel darlithydd yn nhîm academaidd Therapi Galwedigaethol Prifysgol Dwyrain Anglia. Mae Lisa wedi dal rolau arweinyddiaeth cyflogadwyedd ochr yn ochr â’i rôl darlithio am un ar ddeg o’r blynyddoedd hynny, i ddechrau fel cyfarwyddwr cyflogadwyedd Ysgol y Gwyddorau Iechyd ac yna fel Deon Cyswllt ar gyfer Cyflogadwyedd y Gyfadran Meddygaeth a Gwyddorau Iechyd.

Mae Lisa yn angerddol am gyflogadwyedd ac arloesiadau dysgu, gan sicrhau’r effaith fwyaf posibl ar fyfyrwyr/dysgwyr, cydweithwyr academaidd a phartneriaid allanol. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol Advance HE (NTF) i Lisa yn seiliedig ar ei gallu parhaus i hwyluso a dylanwadu ar ddysgu o safon i fyfyrwyr.

Mae Lisa wedi helpu i ddatblygu’r agenda cyflogadwyedd ehangach trwy gefnogi ac ymgysylltu â chydweithwyr yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan sicrhau effaith ar ganlyniadau a phrofiad dysgu myfyrwyr, trwy gyfrwng addysgu, mentrau strategol ac arloesiadau dysgu. Mae’r dyfarniad NTF yn gosod Lisa fel arweinydd sector ym maes cyflogadwyedd ac arloesiadau dysgu. Mae Lisa yn cyhoeddi ac yn cyflwyno’n eang, gan helpu i lywio’r sgwrs genedlaethol am gyflogadwyedd. 

Un o arloesiadau dysgu Lisa yw’r Peer Enhanced e-Placement (PEEP). Mae Lisa wedi ennill sawl gwobr am y PEEP arloesol ac mae wedi cyhoeddi llyfr yn seiliedig ar ei egwyddorion dylunio a chyflawni, Constructing Online Work-Based Learning Placements: Approaches to Pedagogy Design, Planning and Implementation. Bydd y PEEP yn cael ei gyflwyno yn rhan o ddarlith Lisa.

Cynhelir y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol rhwng 10 a 12 Medi. Mae croeso i gydweithwyr gyflwyno cynigion ac mae modd archebu lle nawr.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*