Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW) yn dyfarnu medalau yn flynyddol i ymchwilwyr sy’n rhagori yn eu maes. Mae’r categorïau medalau yn dathlu rhagoriaeth mewn sawl maes cyflawniad, gyda rhagor o wybodaeth am bob medal yn –
- Medalau Dillwyn – dathlu ymchwilwyr gyrfa cynnar rhagorol
- Medal Frances Hoggan – dathlu ymchwil eithriadol gan fenywod mewn STEMM
- Medal Hugh Owen – dathlu ymchwil addysgoleithriadol yng Nghymru
- Medal Menelaus – dathlu rhagoriaeth mewn peirianneg a thechnoleg
Os hoffech enwebu cydweithiwr neu Ymchwilydd ar Gynnar Gyrfa (ECR) gweler y canllawiau a’r ffurflenni enwebu ar dudalen we LSW.
I fod yn gymwys ar gyfer unrhyw un o’r medalau, rhaid i’r enwebeion fod yn byw yng Nghymru, wedi’u geni yng Nghymru, neu fel arall yn arbennig o gysylltiedig â Chymru.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebu medalau 2024 yw 5.00pm ar 30 Mehefin 2024. Mae gan bob medal bwyllgor penodedig i asesu’r enwebiadau a phenderfynu pwy ddylai dderbyn y wobr.
Cyhoeddir yr enillwyr ym mis Hydref 2024 a byddant yn derbyn medal arbennig a gwobr ariannol o £500.
Darllenwch y canllawiau cyn llenwi’r ffurflen enwebu medal. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Swyddog Cymrodoriaeth LSW, Fiona Gaskell fgaskell@lsw.wales.ac.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Fedalau LSW, gan gynnwys enillwyr y gorffennol, ewch i https://www.learnedsociety.wales/medals/ neu gallwch gael sgwrs anffurfiol gydag Annette Edwards, UDDA aee@aber.ac.uk