Y mis hwn, mae Blackboard yn cyflwyno’r gallu i weld ystadegau eitem yn y Llyfr Graddau, y gallu i osod asesiadau heb ddyddiad cyflwyno a rhai newidiadau i hysbysiadau am negeseuon
Ystadegau eitemau Llyfr Graddau
Mae ystadegau eitemau yn rhoi golwg gyffredinol i ni ar berfformiad cyffredinol aelodau’r cwrs ar gynnwys wedi’i raddio. Nawr, gall hyfforddwyr ddewis colofn yn y llyfr graddau i gael mynediad at ystadegau cryno ar gyfer unrhyw eitem sydd wedi’i graddio. Mae’r dudalen ystadegau yn dangos metrigau allweddol megis:
- Isafswm ac uchafswm gwerth
- Ystod
- Cyfartaledd
- Canolrif
- Gwyriad safonol
- Amrywiant
Mae nifer y cyflwyniadau sydd angen graddio a dosbarthiad graddau hefyd yn dangos.
Llun isod: Mynediad i ystadegau eitemau o’r wedd Grid
Llun isod: Mynediad i ystadegau eitemau o’r wedd Eitemau Graddadw
Llun isod: Tudalen Ystadegau Eitemau
Opsiwn am Dim Dyddiad Cyflwyno ar asesiad
Mae dyddiadau cyflwyno yn agwedd bwysig ar y broses addysgu a dysgu. Mewn rhai sefyllfaoedd, fel dysgu ar eich cyflymdra eich hun, efallai na fydd hyfforddwr eisiau ysgogi gosod dyddiad cyflwyno. Er mwyn gwneud yr opsiwn ar gyfer peidio â chael dyddiad cyflwyno yn fwy amlwg, rydym wedi ychwanegu opsiwn “Dim dyddiad cyflwyno” ar gyfer Profion ac Aseiniadau.
Llun isod: Panel Gosodiadau Prawf yn dangos yr opsiwn newydd “Dim dyddiad cyflwyno”
Fe wnaethom ddiweddaru’r dyddiad a’r amser diofyn i ddyddiad yfory am 11:59yh.
Llun isod: Panel Gosodiadau Prawf yn dangos y dyddiad cyflwyno ac amser diofyn newydd.
Efallai y bydd achosion pan fydd y dewis “Dim dyddiad cyflwyno” yn gwrthdaro â’r gosodiadau Canlyniadau Asesu. Pan fydd hyn yn digwydd, gofynnir i’r hyfforddwr adolygu’r gosodiadau.
Llun isod: Mae baner rybuddio yn ymddangos pan fydd y dewis “Dim dyddiad cyflwyno” yn gwrthdaro â’r gosodiadau Canlyniadau Asesu.
Gall hyfforddwyr lywio i’r adran Canlyniadau Asesu yn y Gosodiadau trwy’r ddolen yn y faner.
Llun isod: Dewisiadau amseru canlyniadau asesu pan nad oes dyddiad cyflwyno.
Noder, ar gyfer asesiad crynodol sydd â llawer yn y fantol, rydym yn dal i gynghori cael dyddiad ac amser cyflwyno. I drafod eich gofynion o ran gosodiadau profion, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).
Dangosyddion cyhoeddiadau a marcio cyhoeddiadau fel wedi eu darllen/heb eu darllen
Mae cyhoeddiadau yn sianel gyfathrebu bwysig o fewn cwrs. Mae’n bwysig helpu i greu ymwybyddiaeth o gyhoeddiadau newydd a rheolaethau wedi eu darllen/heb eu darllen.
Nawr, mae yna ddangosydd rhif wrth ymyl y tab cyhoeddiad yn y cwrs. Mae’r dangosydd yn dangos nifer y cyhoeddiadau heb eu darllen sydd ar gael.
Yn ogystal, gall myfyrwyr nawr nodi cyhoeddiadau fel rhai sydd wedi eu darllen neu heb eu darllen. Ar y naidlen Cyhoeddi Cwrs Newydd, mae gan ddefnyddwyr y dewis i nodi’r statws darllen. Gall myfyrwyr hefyd nodi cyhoeddiadau fel rhai wedi’u eu darllen neu heb eu darllen o’r dudalen Cyhoeddiad.
Llun isod: Nifer y Cyhoeddiadau heb eu darllen wrth ymyl y tab Cyhoeddiad
Llun isod: Naidlen Cyhoeddiadau gyda’r opsiwn i farcio fel wedi ei ddarllen/heb ei ddarllen
Llun isod: Tudalen Cyhoeddiadau gyda’r opsiwn i farcio fel wedi ei ddarllen/heb ei ddarllen
Llun isod: Paru cyhoeddiad a dangosyddion negeseuon ar gyfer cysondeb
Nodyn i’ch atgoffa: Mynediad at Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs ac anfon neges at fyfyrwyr ohono.
Mae’r adroddiad Gweithgaredd y Cwrs yn eich helpu i ddeall pa mor dda mae’ch myfyrwyr yn perfformio a faint maen nhw’n rhyngweithio â’ch cwrs. Mae’r Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs yn galluogi Hyfforddwyr i:
- Anfon neges at fyfyrwyr sydd ar ei hôl hi a’u hannog i gynyddu eu gweithgaredd ar y cwrs
- Adnabod myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd yn seiliedig ar eu gradd gyffredinol, dyddiadau cyflwyno a gollwyd, nifer yr oriau y maent yn eu treulio yn eich cwrs, a nifer y diwrnodau ers eu mynediad diwethaf
- Llongyfarch myfyrwyr sy’n perfformio’n dda yn eich cwrs a gofyn iddynt fod yn fentoriaid
- Addasu rhybuddion eich cwrs i adnabod myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd pan fydd eu gradd gyffredinol yn gostwng o dan werth penodol, sydd wedi colli dyddiadau cyflwyno, neu nad ydynt wedi ceisio cael mynediad i’r cwrs ers nifer penodol o ddiwrnodau.
- Lawrlwytho’r wedd tabl i ffeil CSV (gwerthoedd wedi’u gwahanu gan atalnodau) i ddadansoddi’r data gydag adnoddau eraill
- Lawrlwytho’r plot gwasgariad fel PDF neu ddelwedd i rannu gwybodaeth gyda hyfforddwyr neu fentoriaid eraill y cwrs
I gael mynediad i’r Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs dewiswch Gweithgaredd y Cwrs yn nhab Dadansoddeg eich cwrs.
Llun isod: Cael mynediad at Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs o’r tab Dadansoddeg
Anfon Negeseuon
Gall hyfforddwyr ddewis myfyrwyr ac anfon negeseuon atynt o Weithgaredd y Cwrs trwy ddewis y botwm Anfon Neges. Pan fyddwch yn anfon neges at nifer o fyfyrwyr, bydd pob myfyriwr yn derbyn neges unigol ac ni fyddant yn gwybod pa fyfyrwyr eraill sydd wedi’u cynnwys.
Llun isod: Myfyriwr a ddewiswyd i gysylltu â nhw a’r botwm Anfon neges wedi’i amlygu
Am fwy o wybodaeth am yr Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs gweler Tudalen Gymorth Blackboard ar Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs.
Nodyn i’ch atgoffa: Graddio Profion gyda Graddio Hyblyg
Mae’n bosib graddio profion naill ai yn ôl myfyriwr neu yn ôl cwestiwn —gan ei gwneud hi’n hawdd cymharu atebion ar draws y cwrs a sicrhau tegwch a chysondeb wrth raddio. Ar hyn o bryd mae marcio yn ôl myfyriwr wedi’i gyfyngu i gyflwyniadau di-enw. Bydd marcio cyflwyniadau dienw yn cael ei gynnwys mewn diweddariad yn y dyfodol
Am fwy o wybodaeth am Raddio Hyblyg gweler Tudalen Gymorth Blackboard ar Raddio Hyblyg.