Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Digwyddiad Rhannu Arfer Da – Rhagoriaeth Academaidd am ddau ddiwrnod ar yr 2il (wyneb yn wyneb) a’r 3ydd (ar-lein) Gorffennaf 2024. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae’r digwyddiad hwn wedi bod yn bosibl oherwydd arian y Prosiect Grantiau Bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Nod y digwyddiad deuddydd yw cyflwyno papurau o dan y thema Rhagoriaeth Addysgu – er enghraifft:
- Dysgu ac Addysgu
- Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
- Cymorth i Fyfyrwyr
- Goruchwylio
- Tiwtora Personol
Bydd y papurau academaidd yn gyfle i staff ar draws Cymru gyflwyno eu hymchwil, o dan y thema ymarfer academaidd – trwy bapurau, posteri, paneli ac ati. Croesewir cyflwyniadau yn y digwyddiad gan unrhyw un sy’n addysgu o staff i fyfyrwyr PhD.
Mae’r Cais am Gynigion, yn y ddolen ganlynol Galwad am Bapurau – Digwyddiad Rhannu Arfer Da (jisc.ac.uk) yn gofyn am gyflwyniadau heb fod yn fwy na 500 gair, trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn croesawu cyfraniadau i’r digwyddiad ar ffurf:
- 20 munud o gyflwyniad
- 45 munud o gyflwyniad
- Cyflwyniad unigol neu grŵp
- Posteri gan unigolion neu grwpiau
- Paneli rhannu arfer da
Y dyddiad cau ar gyfer y cynigion hyn yw canol dydd, dydd Mercher 27 Mawrth 2024.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech rannu hwn yn ehangach â chydweithwyr a allai fod â diddordeb i fynd i’r digwyddiad hwn.
Os hoffech drafod unrhyw beth ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Annette Edwards (aee@aber.ac.uk) 01970 622386