Nawr gellir ychwanegu capsiynau adnabod llais awtomatig Panopto at recordiadau Cymraeg.
I ddefnyddio capsiynau Cymraeg:
Os yw eich cwrs yn cynnwys recordiadau Cymraeg a Saesneg dylech greu is-ffolder i ddal yr holl recordiadau ar gyfer un o’r ieithoedd:
- Mewngofnodwch i panopto.aber.ac.uk a dewch o hyd i ffolder eich cwrs.
- Cliciwch ar y botwm Add Folder.
- Teipiwch enw ar gyfer eich ffolder a phwyswch Enter.
- Cliciwch ar y ffolder newydd a gosodwch yr iaith ar gyfer y recordiadau hyn.
Pan fyddwch yn gwneud eich recordiadau, rhaid i chi ddewis yr iaith gywir cyn pwyso record. Y rheswm am hyn yw oherwydd na ellir ychwanegu capsiynau adnabod llais awtomatig Cymraeg at recordiadau sy’n cael eu copïo neu’u symud o ffolderi eraill.
Noder:
- Efallai y bydd oedi rhwng newid iaith eich ffolder a’r opsiwn i gapsiynau awtomatig ymddangos. Os yw hyn yn digwydd gwiriwch eto ymhen rhyw awr a dylech weld bod yr opsiwn ar gael.
- Mae’r capsiynau adnabod llais awtomatig Cymraeg ond ar gael ar gyfer cynnwys a grëwyd ar ôl i chi ddiweddaru’r gosodiadau iaith ar eich ffolder.
- Ni ellir ychwanegu capsiynau adnabod llais awtomatig Cymraeg at recordiadau sy’n cael eu copïo neu’u symud o ffolderi eraill.
- Os ydych chi’n gwneud recordiadau mewn ieithoedd eraill yn rheolaidd, mae capsiynau adnabod llais awtomatig ar gael mewn ieithoedd eraill (gweler gwefan Panopto am y rhestr lawn)