I gyd-fynd â’r prif sesiynau gan Blackboard, rydym yn falch iawn o groesawu cydweithwyr o Brifysgol Bangor: Bethan Wyn Jones ac Alan Thomas.
Gallwch fwrw golwg dros ein rhaglen lawn ac archebu eich lle ar-lein.
Fel rhan o’r gynhadledd, roeddem yn awyddus i glywed am brofiad cydweithwyr wrth symud i Blackboard Ultra. Mae Bangor wedi bod yn defnyddio Ultra ers 2020.
Gweler eu bywgraffiadau isod:
Dr Alan Thomas
Alan Thomas yw’r rheolwr sy’n gyfrifol am oruchwylio’r tîm aml-sgil Cefnogi Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad, ac mae wedi gwasanaethu fel rheolwr TG a thechnolegydd dysgu ar draws amrywiol adrannau’r brifysgol. Yn nodedig, chwaraeodd Alan ran ganolog ym mhrosiect dysgu ar liniaduron y cwrs Addysg Nyrsio, menter arwyddocaol ar y pryd.
Trwy gydol ei yrfa, mae Alan wedi cymryd rhan weithgar mewn nifer o brosiectau â’r nod o wella arferion dysgu ac addysgu ar draws sawl campws. Yn ogystal â hyn, mae wedi cyfrannu ei arbenigedd fel arweinydd modiwlau a darlithydd i raglenni israddedig a chyrsiau technoleg yn Ysgol Busnes Bangor. Yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio i Blackboard Ultra, bu Alan yn gymorth i’w gydweithwyr tra’n cael profiad uniongyrchol o ddefnyddio’r platfform ULTRA yn ystod cyfnod heriol y pandemig a thu hwnt.
Bethan Wyn Jones
Uwch Dechnolegydd Dysgu yw Bethan Wyn Jones sy’n gweithio o fewn y Tîm Cefnogi Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddi 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes e-ddysgu ac mae’n gweithio’n benodol ar y defnydd o dechnoleg dysgu mewn amgylchedd dwyieithog. Cychwynnodd Bethan y gwaith o ddatblygu Pecyn Iaith Gymraeg ar gyfer Blackboard a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Brifysgol Bangor. Yn fwy diweddar mae Bethan yn ymwneud â’r defnydd o Blackboard ULTRA ym Mangor, gan gefnogi staff i wneud y gorau o’r adnoddau a’r nodweddion sydd ar gael a byddai’n fwy na pharod i drafod ag unrhyw un sydd â diddordeb i rhannu profiadau o ddefnyddio Blackboard Ultra mewn cyd-destun dwyieithog.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed am brofiad Bangor a chroesawu Alan a Bethan.