Rydym yn falch iawn o groesawu nifer o siaradwyr allanol i’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni.
Gallwch fwrw golwg dros ein rhaglen lawn ac archebu eich lle ar-lein.
Ddydd Mawrth 4 Gorffennaf, bydd cydweithwyr o Blackboard yn ymuno â ni wyneb yn wyneb.
Bydd cydweithwyr yn clywed am ddatblygiadau ar gyfer y dyfodol, yn cael cyfle i weithio ar eu modiwlau Blackboard Ultra a’u gwella, a rhoi adborth i’r cwmni ar welliannau.
Gweler isod fywgraffiadau ein siaradwyr.
Josephine Kinsley – Peiriannydd Datrysiadau
Fel Peiriannydd Datrysiadau o Gaeredin yn y DU, swyddogaeth Josephine yw cefnogi cleientiaid a darpar gleientiaid wrth iddynt fabwysiadu cynhyrchion Blackboard yn llwyddiannus.
Mae gan Josephine dros 17 mlynedd o brofiad mewn technoleg addysg. Cyn ymuno â Blackboard bu’n gweithio â chynnyrch Blackboard am dros 15 mlynedd mewn swyddi amrywiol ym Mhrifysgol Caeredin a Phrifysgol y Frenhines Margaret. Dechreuodd trwy ddarparu cymorth rheng flaen a rhoi hyfforddiant a chefnogaeth i staff a myfyrwyr, aeth ymlaen i roi cymorth ail reng, gan feithrin cysylltiadau â chyflenwyr er mwyn datrys problemau. Ar sail ei phrofiad symudodd Josephine i reoli gwasanaethau, ac i reoli’r tîm a oedd yn darparu’r gwasanaethau technoleg dysgu ar gyfer y Brifysgol. Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth iddi o’r ystyriaethau wrth gynnal gwasanaeth Blackboard Learn a hynny o safbwynt y defnyddiwr a’r sefydliad.
Dennis Nevels – Uwch Ymgynghorydd Addysg
Fel Uwch Ymgynghorydd Addysg, prif swyddogaeth Dennis yw cynorthwyo cleientiaid i gynllunio ar gyfer y newid o Learn Original i Learn Ultra, fel cynghorydd dibynadwy i staff ac fel arweinydd sy’n meithrin cysylltiadau partneriaethol dwfn. Mae gan Dennis wybodaeth arbenigol o Gynllunio Strategol, Rheoli Newid, Llunio Prosesau, Dulliau Pedagogaidd (Ar-lein) ac mae ganddo arbenigedd ym meysydd penodol Llwyddiant Myfyrwyr, Dysgu ac Addysgu, Data ac Asesiadau. Cyn gweithio i gwmni Anthology, bu Dennis yn gweithio am 12 mlynedd ym maes addysg uwch.
Nicolaas Matthijs – Is-lywydd Rheoli Cynnyrch
Mae Nicolaas Matthijs yn fentergarwr ac yn un sy’n creu cynnyrch ac mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad mewn Technoleg Addysg. Mae Nicolaas wedi arwain y gwaith o ddylunio a datblygu adnoddau dysgu Learning Management Systems, Academic Collaboration Tools, Learning Analytics solutions ac adnoddau dysgu eraill, ac mae wedi gweithio i sawl prifysgol yn y DU, Gwlad Belg a’r UD.
Nicolaas yw Is-lywydd adran Rheoli Cynnyrch y cwmni Anthology ac mae’n arwain tîm Rheoli Cynnyrch Blackboard Learn, gan weithio’n agos gyda chleientiaid a defnyddwyr i fapio dyfodol Amgylchedd Dysgu Rhithwir Anthology a’i roi ar ben y ffordd. Mae Nicolaas hefyd yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr IMS Europe a Grŵp Hollbleidiol Seneddol y DU ar gyfer Technoleg Gynorthwyol.
Martyn Rollason – Uwch Weithredwr Cyfrifon
Mae Martyn yn Uwch Swyddog Cyfrifon, sy’n gweithio’n ganolog o Bromsgrove yn y DU ac yn gyfrifol am reoli nifer o gleientiaid arwyddocaol yn yr ardal.
Mae gan Martyn dros 20 mlynedd o brofiad ym maes gwerthu technoleg, a thros y 15 mlynedd olaf mae wedi canolbwyntio ar Feddalwedd. Mae gan Martyn brofiad helaeth o weithio gyda chleientiaid academaidd ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica ac mae’n frwd dros ddefnyddio technoleg i sicrhau llwyddiant myfyrwyr.
Gillian Fielding – Rheolwr Profiad Cleientiaid
O’i chanolfan yn Swydd Gaerhirfryn, yn y DU, mae Gillian yn cefnogi sefydliadau wrth iddynt droi eu gweledigaeth strategol yn realiti trwy ddefnyddio technoleg dysgu yn effeithiol ac effeithlon.
Mae gan Gillian dros 30 mlynedd o brofiad mewn addysg ac 8 mlynedd o brofiad yn gweithio i Blackboard/Anthology. Mae’n cefnogi cleientiaid i gyflawni eu Strategaeth Dysgu ac Addysgu yn llwyddiannus, yn enwedig o ran defnyddio technoleg yn academaidd, rhaglenni ar-lein, asesu ac adborth ar-lein, datblygiad staff a hygyrchedd.