Mae’n bleser gennym wahodd staff addysgu i ddefnyddio Talis Elevate am ddim am gyfnod prawf ar gyfer anodi cydweithredol. Fe’i cynlluniwyd i annog myfyrwyr i ymgysylltu â deunydd darllen cyrsiau a dysgu’n weithredol trwy anodi cydweithredol ac unigol. Mae’n cynnwys dadansoddeg fanwl i’ch helpu i gadw eich myfyrwyr ar y trywydd iawn.
- I gael syniad o’r hyn y mae’n ei wneud, gweler prif dudalen Elevate
- Am enghreifftiau o sut mae eraill wedi ei ddefnyddio, gweler Cynnwys Cymunedol a Gweminarau Talis Elevate
Mae ein cyfnod prawf am ddim o’r offer ar waith ar hyn o bryd a bydd yn rhedeg tan fis Tachwedd 2023. Gan ddibynnu ar ymateb staff ac ystyriaethau cyllidebol, efallai y bydd modd i’r brifysgol gaffael Elevate i’w ddefnyddio am gyfnod hwy.
Cysylltwch â ni yn thestaff@aber.ac.uk i ymuno â’r cynllun prawf.
Dyma sgrinlun o brif dudalen Elevate i ddangos i chi sut mae’n edrych:
Diolch yn fawr,
Mary Jacob & Julie Hart