Mae Anna Udalowska, o Ddysgu Gydol Oes, wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol am fodiwl XN16710: The Science of Wellbeing.
Yn ogystal, cafodd y modiwlau canlynol statws Canmoliaeth Uchel:
- Alexander Taylor o Adran Seicoleg am fodiwl PS32120: Behavioural Neuroscience
- Kathy Hampson o Adran Cyfraith a Throseddeg am fodiwl LC26120: Youth Crime ad Justice
- Lara Kipp o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu am fodiwl TP30020: Contemporary Drama
- Panna Karlinger o Ysgol Addysg am fodiwl ED20820: Making Sense of the Curriculum
Mae’r amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a welir yng ngheisiadau eleni yn adlewyrchiad o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sefydliad.
Nod y Wobr Cwrs Eithriadol, a sefydlwyd wythfed mlynedd yn ôl, yw rhoi cydnabyddiaeth i’r arferion dysgu gorau. Mae’n rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu gwaith gyda’u cydweithwyr, gwella eu modiwlau presennol ar Blackboard, a chael adborth er mwyn gwella.
Caiff modiwlau eu hasesu ar draws 4 maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesiad, yn rhoi cyfle i’r aelodau staff ystyried eu cyrsiau a gwella agweddau ar eu modiwlau cyn i banel asesu bob cais yn erbyn y cyfarwyddyd.
Hoffai’r panel a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch i’r holl ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’r ceisiadau ac i’r modiwlau eleni.
Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o geisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf a llongyfarchiadau mawr i enillwyr gwobr eleni.