Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi eu siaradwr gwadd nesaf. Ar 10 Mai am 14:00-15:30, bydd James Wood o Brifysgol Bangor yn cynnal sesiwn ar-lein ar wella llythrennedd adborth trwy arferion cynaliadwy ar gyfer ymateb i adborth.
Mae James Wood yn Ddarlithydd Addysg, Asesu ac yn Arweinydd Cyrsiau Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor. Cyn y swydd hon, bu James yn gweithio gyda Choleg y Brenin Llundain, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Birkbeck, Prifysgol Greenwich, a Phrifysgol Genedlaethol Seoul.
Crynodeb o’r Sesiwn
Er y pwyslais a roddir ar bwysigrwydd adborth i gefnogi dysgu mewn addysg uwch, mae llawer i’w ddysgu o hyd am feithrin sgiliau cynaliadwy ar gyfer gofyn am adborth, ymateb i’r adborth a’i ddefnyddio. Yn ymarferol, mae llawer o fyfyrwyr nad ydynt yn manteisio ar adborth. Hyd yn oed os yw cyrsiau’n cynnig asesiad ffurfiannol mewn egwyddor, dim ond weithiau y bydd dysgwyr yn cymryd sylw ohono neu’n ei ddefnyddio’n effeithiol. Dadleuir yn aml bod angen ‘llythrennedd adborth’ ar fyfyrwyr cyn y gellir mynd i’r afael ag adborth. Fodd bynnag, yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych sut y gall llythrennedd adborth a pharodrwydd i dderbyn adborth ddatblygu. Caiff y myfyrwyr ymgyfarwyddo ag arferion adborth deialogaidd sydd wedi’u cynllunio’n dda ac sy’n cynnig y cyfle i ystyried sut mae dysgu o adborth yn digwydd, y manteision, beth yw ansawdd a sut i’w werthuso, a sut i ddatblygu a gweithredu cynlluniau i gau’r bwlch rhwng cyflawniad presennol a chyflawniad targed. Byddaf hefyd yn trafod sut mae ffactorau cymdeithasol a ffactorau heblaw agweddau dynol ynghlwm wrth allu dysgwyr i ymateb mewn ffyrdd a all gynorthwyo neu gyfyngu ar eu cyfranogiad. Byddaf yn gorffen gyda golwg gyffredinol ar ddefnyddio technolegau i wella gallu dysgwyr i ddefnyddio adborth yn effeithiol a datblygu cysylltiadau â chymunedau a all gynnig cyfleoedd dysgu cydweithredol grymus, yn ogystal â chymorth ac anogaeth emosiynol.
Cynhelir y gweithdy ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Archebwch eich lle ar-lein.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).