Myfyrio ar y #CrynodebWythnosolOAdnoddau

Wrth i ni baratoi am y garfan nesaf i astudio cwrs TUAAU ym mis Ionawr, rwy’n rhoi eiliad i fyfyrio ar y Crynodeb Wythnosol o Adnoddau. Mae’n anodd credu mai ar 10fed Mehefin 2020 y cafwyd y Crynodeb cyntaf, sy’n ddwy flynedd a hanner yn ôl!  

Fe ddechreuais i’r Crynodeb am fod ei angen ar fy myfyrwyr.

Rwy’n gyfrifol am y Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU), sef cynllun astudio 60 credyd ar lefel Meistr. Staff addysgu newydd yw fy myfyrwyr. Wrth i’r pandemig gydio, cafodd ein sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb eu canslo ac roedd fy myfyrwyr yn cael trafferth canfod digon o gyfleoedd hyfforddi i gwrdd â gofynion DPP ein modiwl. Roedden nhw hefyd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ffyrdd effeithiol o addysgu o dan amodau heriol y pandemig. Fy arfer yw sganio’r sector Addysg Uwch a sylwais fod llawer o sefydliadau yn cynnig cyfleoedd ar-lein am ddim a fyddai’n cynorthwyo i gyrraedd amcanion dysgu fy myfyrwyr.

Penderfynais guradu rhestr reolaidd o ddigwyddiadau allanol ac adnoddau ar-lein wrth iddyn nhw ddod i’m sylw. Gan roi clod lle mae clod yn ddyledus, rhaid idweud nad oeddwn yn sicr beth i’w alw i ddechrau, felly pan awgrymodd rheolwr ein tîm, Kate Wright, y gair ‘crynodeb/roundup’ i’w ddisgrifio, penderfynais i wneud hynny. Diolch Kate!

Mae popeth yn y Crynodeb yn cael ei bwyso a mesur gen i’n bersonol. Os ydw i’n canfod gweminar, podlediad, blog, neu gyhoeddiad newydd, dwi’n edrych arno’n gyntaf i weld a yw’n awdurdodol ac a oes ganddo botensial i helpu staff i ddatblygu eu haddysgu. Ble ydw i’n dod o hyd i ddeunydd o’r fath? Rwy’n tanysgrifio i wahanol restrau postio ac yn dilyn nifer eang o addysgwyr a rhwydweithiau dysgu ac addysgu ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy’n mynd ati i chwilio am ddeunydd ar rai themâu. Rwy’n rhoi sylw i bynciau sy’n dod i’r amlwg yn y sector ac yn archwilio i ddarganfod mwy amdanynt. Mae hyn yn rhan greiddiol o fy ngweithgarwch proffesiynol fel darlithydd yn y categori addysgu ac ysgolheictod. Rwy’n sganio a phwyso a mesur trwy gydol yr wythnos ac yna postio’r eitemau gorau yn y Crynodeb bob 7-10 diwrnod.

Yn seiliedig ar yr ymateb cychwynnol, daeth yn amlwg bod y Crynodeb nid yn unig yn ddefnyddiol i gyfranogwyr TUAAU ond hefyd i staff addysgu cyffredinol, ac eraill y tu allan i’r brifysgol. Mae gen i ran weithredol mewn sawl cymuned ymarfer ar Twitter a mannau eraill, gan gymryd rhan mewn trafodaethau a digwyddiadau ar-lein. Roedd hi’n naturiol i mi hyrwyddo’r ‘Crynodeb’ drwy’r sianeli hynny gan ddefnyddio’r hashnod #WeeklyResourceRoundup. Rhoddodd hyn fomentwm pellach ac erbyn hyn mae iddo gynulleidfa fyd-eang fel y tystia’r ymatebion ar Twitter ac ystadegau ar gynnwys y Crynodeb yn y blog LTEU.

Mae paratoi’r Crynodeb, wrth gwrs, yn ffordd i mi ddysgu a datblygu fy ymarfer fy hun yn ogystal â rhannu arferion da ag eraill. Mae’r cymunedau ymarfer a’r bobl yr wyf wedi eu cyfarfod trwy wneud hyn yn bwysig i mi. Dwi’n ddiolchgar am eu haelioni ac yn falch o rhoi sylw i’w lleisiau. Mae curadu a rhannu, cyfrannu a datblygu, i gyd yn ganolog i mi fel addysgwr proffesiynol. Rwy’n cael boddhad personol a phroffesiynol mawr o’r Crynodeb ei hun ac o gyfathrebu ag eraill. Rwy’n gobeithio y bydd y Crynodeb yn gweithredu fel pont i gysylltu pobl sy’n rhannu diddordeb i gynorthwyo myfyrwyr i ddysgu, ble bynnag yr ydych chi.

Curadu a rhannu’r Crynodeb yw ‘nghyfraniad i’r cymunedau gwerthfawr hyn. Mewn gair, llafur cariad ydyw, i chi gen i.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*