Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r prif siaradwyr gwadd i’r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol eleni (12-14 Medi 2022).
Bydd Kyra Araneta, Jennifer Fraser, a Moonisah Usman o Brifysgol San Steffan yn ymuno â ni’n rhithiol ar gyfer y prif anerchiad, Navigating power lines: Developing principles and practices to support socially just student : staff partnerships.
Yn yr anerchiad hwn, bydd Kyra, Jennifer, a Moonisah yn trafod eu prosiectau am bartneriaethau llwyddiannus rhwng staff a myfyrwyr.
Crynodeb o’r Sesiwn
I lawer ohonom mae prifysgolion ac ystafelloedd dosbarth yn safleoedd llawn posibiliadau (hooks, 1994) a buddsoddwn ni ynddynt ein gobeithion ar gyfer mathau gwahanol o ddyfodol i’r myfyrwyr ac i ninnau. Maent hefyd yn safleoedd o densiwn wrth i ni symud drwy gydberthnasau a dynameg grym sy’n gallu bod yn gymhleth. Mae’r ffordd yr ydym yn ‘byw’ addysg ar gyfer rhyddid wedi dod yn bwysicach byth yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda’r gwrthdystiadau Mae Bywydau Du o Bwys, a’r galwadau am ddad-drefedigaethu prifysgolion. Yn Power Lines: On the Subject of Feminist Alliances mae Aimee Carrillo Rowe yn gofyn ‘Sut ydym yn adeiladu llinellau grym a fydd yn ein cysylltu ni ag eraill mewn cyfiawnder, drwy gyfiawnder, ac ar gyfer cyfiawnder?’ (2008), t. 2). Mae ein hanerchiad yn ymdrin â’r cwestiwn hwn, gan ystyried sut rydym yn datblygu egwyddorion ac arferion i gynnal cydberthnasau partneriaethol rhwng myfyrwyr a staff sydd yn gymdeithasol gyfiawn. Rydym yn dadlau bod perthynas, os yw wedi’i dylunio ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, yn gallu creu awyrgylchoedd gwrth-hiliol a dad-drefedigaethol (Bell, 2018) sy’n dod yn safleoedd llawn posibiliadau. Gan ddefnyddio enghreifftiau o’n gwaith ym Mhrifysgol San Steffan, ymdriniwn â’r mannau lle y mae grym, cynghreiriaeth, cyfiawnder cymdeithasol a phartneriaeth yn dod ynghyd er mwyn ystyried strategaethau ar gyfer llunio rhaglenni lle mae cydberthnasau trawsnewidiol yn greiddiol. Rydym yn rhannu enghreifftiau o sut rydym wedi meithrin cydberthnasau, cyd-greu gwerthoedd rhaglenni, a’u rhoi ar waith mewn prosiectau partneriaethol. Er mwyn dangos sut y gallwn feithrin partneriaethau gyda llinellau grym sy’n ein cysylltu â chyfiawnder cymdeithasol, byddwn yn defnyddio enghraifft y Prosiect Pedagogies for Social Justice (https://blog.westminster.ac.uk/psj/). Mae’r prosiect hwn wedi ymrwymo i roi lle canolog i leisiau myfyrwyr o safbwynt ei werthoedd, ei gredoau a’i brofiadau, ac i ddefnyddio’r rhain i ddatgymalu mathau cyfoes o wladychiaeth mewn cwricwla, cydberthnasau ac ymchwil. Dadleuwn fod partneriaethau’n hanfodol i’r gwaith hwn wrth iddynt gyd-gynhyrchu gwybodaeth; datblygu ffyrdd newydd a beirniadol o ddeall disgyblaethau; ac ymgymryd â chydweithredu, arbrofi a deialog dros gyfnod estynedig. Gan ddeall mai prosesau heriol a chymhleth yw’r rhain, rydym yn cynnig y prif anerchiad hwn fel cam ymlaen yn eich teithiau’ch hun a thaith eich Prifysgol tuag at greu mannau dysgu cymdeithasol gyfiawn i fyfyrwyr a staff.
Cyfeiriadau:
Bell, Deanne. (2018). A pedagogical response to decoloniality: Decolonial atmospheres and rising subjectivity. American journal of community psychology, 62 (3-4), 250-260.
Carrillo Rowe, Aimee. (2008). Power Lines: On the Subject of Feminist Alliances. Duke University Press: Durham, NC.
hooks, bell. 1994. Teaching to Transgress: Education as the Practice of Freedom. Routledge: Efrog Newydd.
Bywgraffiadau’r Siaradwyr
Kyra Araneta:
A hithau wedi cwblhau ei gradd israddedig mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol San Steffan yn ddiweddar, mae Kyra yn parhau â’i hastudiaethau ar gyfer Gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol. O dras gymysg Affricanaidd-Asiaidd, mae gwaith ar hunaniaeth wedi bod yn dasg gymhleth i Kyra, ond serch hynny mae’n broses sydd wedi ysbrydoli ei hymdrechion i greu offer a mannau dad-drefedigaethol a gwrth-hiliol yn yr academi. Yn ystod ei blynyddoedd nesaf ym myd addysg, mae’n gobeithio y gall ei gwaith ar y prosiect Pedagogies for Social Justice helpu i drawsnewid sut rydym yn meddwl am addysgeg ac yn ymdrin â hi ar lefel addysg uwch.
Jennifer Fraser:
Mae Jennifer yn academydd cwiar anneuaidd ym Mhrifysgol San Steffan, ac mae wedi treulio’r 20 mlynedd diwethaf ym Mhrydain yn dysgu ac ymchwilio yn y mannau hynny lle y mae llenyddiaeth, astudiaethau rhywedd, damcaniaeth gwiar ac addysgeg feirniadol yn gorgyffwrdd. Mae eu hymagweddau tuag at addysg hefyd wedi’u llunio gan y profiadau a gafodd fel mudwr gwyn a symudodd i Ganada a’u magwraeth rhwng gwahanol fannau’r ‘cartref’, yn ieithyddol ac yn ddaearyddol. Mae wedi dysgu, drwy’r rhain a’r profiadau o ffurfio hunaniaeth, i roi lle canolog i feithrin cydberthnasau a rhannu straeon er mwyn datblygu dadansoddiadau beirniadol cydweithredol. Swyddogaethau ffurfiol Jennifer yw Prif Ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Partneriaeth Myfyrwyr y Brifysgol yn y Ganolfan Arloesedd Addysg ac Addysgu. Yr agwedd ar y swyddi hyn sy’n rhoi’r pleser mwyaf i Jennifer yw’r cyswllt â breuddwydwyr a chyd-gynllwynwyr eraill dros newid.
Moonisah Usman:
Mae Moonisah yn fenyw Fwslimaidd sy’n arddel yr hijab, yn academydd ac yn fam newydd, gyda PhD yn y Gwyddorau Biofeddygol. A hithau wedi’i magu’n Bacistani yn Llundain, cafodd Moonisah ei herio gan y disgwyliadau i lwyddo, a chan y pethau a’i rhwystrai rhag gwneud hynny. Roedd y pwysau a brofai wrth gael addysg, a oedd yn fwy byth oherwydd ei bod hi’n fyfyrwraig genhedlaeth-gyntaf, wedi’i hysbrydoli i ddewis bod yn ddarlithydd prifysgol ar gyfer y rhaglen Sylfaen yn y Ganolfan Arloesedd Addysg ac Addysgu ym Mhrifysgol San Steffan. Yno mae’n arwain modiwl craidd ar draws y brifysgol mewn sgiliau meddwl yn feirniadol ac mae hefyd yn cyfrannu at ddysgu sgiliau academaidd, ffisioleg ddynol a geneteg feddygol. Mae gan Moonisah gefndir ymchwil mewn Iechyd Trefol. Ar yr un pryd, mae gan Moonisah ymrwymiad i ymchwil addysgeg ac i hybu diwylliant sy’n meithrin partneriaeth â myfyrwyr mewn addysg uwch. Mae ei phrofiad o bartneriaeth â myfyrwyr wedi agor drws iddi allu meithrin cydberthnasau gwirioneddol â myfyrwyr a rhoi ar waith ddysgu sy’n gymdeithasol-gyfiawn ac yn uniaethu â’r myfyrwyr. Yn fwy penodol, mae ei hymchwil yn y maes hwn yn ymwneud â datblygu cydberthnasau partneriaethol ystyrlon i gefnogi myfyrwyr sydd mewn lleiafrifoedd hil ac ymdrin ag anghydraddoldebau yn y graddau a ddyfernir. Gallwch gysylltu â Moonisah trwy Twitter @Moonisah_wmin.
Cewch archebu’ch lle ar y gynhadledd yn nawr.
Nodyn i’ch atgoffa bod modd archebu ar gyfer y gynhadledd nawr ac fe’i cynhelir drwy gymysgedd o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb-yn-wyneb, ar 12-14 Medi.
Cadwch lygad ar ein gwefan a’n blog am ddiweddariadau pellach.