Mae Fforymau Academi’r flwyddyn academaidd gyfredol bellach wedi dod i ben. Hoffem ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y trafodaethau.
Mae taflenni’r fforymau eleni bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.
Mae’r taflenni’n cynnwys fframweithiau damcaniaethol allweddol yn ogystal ag astudiaethau achos ymarferol a myfyrdodau cydweithwyr ar eu harferion addysgu eu hunain.
Dyma’r pynciau a drafodwyd eleni:
- Cynllunio Dysgu Cyfunol
- Cynllunio Asesiadau Dilys
- Creu Cyfleoedd i Gael Adborth Gan Gymheiriaid
- Cydweithio â Myfyrwyr fel Partneriaid
Oherwydd llwyddiant y fformat a’r niferoedd uchel a fu’n rhan o’r trafodaethau, rydym yn gobeithio gallu cynnig rhagor o fforymau academi y flwyddyn academaidd nesaf. Os oes gennych bwnc sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu yr hoffech ei drafod â chydweithwyr, anfonwch e-bost atom (udda@aber.ac.uk).