
Mae Turnitin, ein meddalwedd e-gyflwyno, wedi cyflwyno rhywfaint o nodweddion newydd o ran templedi aseiniadau.
Erbyn hyn, mae’n bosibl eithrio templedi rhag ymddangos yn y Sgôr Tebygrwydd.
I gymhwyso’r eithriad, ewch i Optional Settings ym man cyflwyno Turnitin a lanlwythwch eich templed aseiniad:

Mae gofynion ar gyfer eich templed:
- Rhaid i ffeiliau sydd wedi’u lanlwytho fod yn llai na 100 MB
- Mathau o ffeiliau a dderbynnir i’w lanlwytho: Microsoft Word, Excel, PowerPoint, WordPerfect, PostScript, PDF, HTML, RTF, OpenOffice (ODT), Hangul (HWP), a thestun plaen
- Rhaid i dempledi gael o leiaf 20 gair o destun
Yn ogystal â lanlwytho, gallwch hefyd greu templed o’r rhyngwyneb hwn hefyd.
Gellir defnyddio’r nodwedd hon yn y man cyflwyno os nad ydych wedi gwneud unrhyw gyflwyniadau. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Turnitin ar gael ar ein tudalennau gwe E-gyflwyno neu mae croeso i chi anfon e-bost atom (eddysgu@aber.ac.uk).