Ysgrifennwyd gan Angela Connor, Seicoleg
Fe wn y gallai swnio’n rhyfedd i holi a yw eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith eich myfyrwyr. Gallaf eich clywed yn dweud “Wrth gwrs eu bod nhw”. Yn amlwg, rydych chi’n llwytho deunyddiau i fyny yn Gymraeg a Saesneg. Ond nid am hynny rwy’n sôn. I sicrhau bod Blackboard yn hygyrch i gynifer o fyfyrwyr â phosib mae angen i ni roi ein hunain yn eu hesgidiau hwy am ychydig ac edrych ar y dyluniad a’r cynnwys yn wrthrychol i weld a yw’r deunyddiau wedi’u gosod yn y ffordd orau i garfan benodol er mwyn iddyn nhw allu deall eich modiwlau’n rhwydd.
Dywedir yn aml mewn addysg os byddwch yn addasu eich cyflwyno i’r rheini sydd ag anghenion ychwanegol, byddwch yn ei gwneud yn haws i bawb. Efallai y gellid cymhwyso’r ethos hon yn nhermau Blackboard, gan roi’r holl fyfyrwyr mewn sefyllfa i gyflawni eu potensial llawn gyda chyn lleied o straen â phosibl.
Heb os, mae rhai elfennau mewn modiwl Blackboard yn galw am ffurfioldeb a phroffesiynoldeb, fel Arfer Academaidd Annerbyniol, a llawlyfr y modiwl. Mae’r llawlyfr yn gweithredu bron fel cytundeb contract rhwng cydlynydd y modiwl a’r myfyriwr, a’r ffordd arall, gan ei fod yn amlinellu’n glir yr hyn y bydd y modiwl yn ei gyflwyno a’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan y myfyrwyr yn eu tro. Ond trwy osgoi jargon addysgol lle bo modd, neu ei gyflwyno’n raddol, gallwch helpu i godi hyder eich myfyrwyr a’u gwneud yn gyfarwydd â’r termau hyn. Er enghraifft, faint o fyfyrwyr oedd wir yn deall y termau “cydamserol” ac “anghydamserol” a hyrddiwyd i mewn yn sydyn i fyd addysg y llynedd? A phan oedden nhw’n ddealledig, a oedden nhw’n cael eu drysu gyda rywbeth arall tebyg o dro i dro? Fe wn i mi gael fy nal unwaith neu ddwy.
Felly meddyliwch am fyfyrwyr sy’n niwroamrywiol, dyslecsig, sydd ag ADHD, rhai sy’n gadael gofal ac ar eu pen eu hunain am y tro cyntaf, myfyrwyr hŷn sy’n aml yn jyglo gwaith a chyfrifoldebau gofal, a myfyrwyr anrhydedd cyfun sydd â dwy adran a’u gwahanol bwyslais i weithio gyda nhw. Os yw dyluniad eich modiwlau yn glir, bydd yn gymorth aruthrol i’r grwpiau hyn ym mhoblogaeth y myfyrwyr, a llawer o rai eraill.
I bwysleisio rhai pwyntiau, byddaf yn defnyddio enghreifftiau o fodiwlau Blackboard Dr Victoria Wright a Dr Alexander Taylor, y ddau o’r Adran Seicoleg, a diolch iddynt am eu caniatâd i wneud hynny. Dewiswyd y modiwlau oherwydd eglurder, dyfeisgarwch, brwdfrydedd, cymhelliant, a’r ffaith eu bod yn rhwydd eu defnyddio. Fel myfyriwr blwyddyn olaf roedd dyluniad y modiwlau hyn, a’r adnoddau a ddarparwyd, yn gymorth mawr i mi weithio trwyddynt i gyflawni fy mhotensial yn llawn. Wel, potensial digonol, oherwydd gyda phandemig ar waith, mae’n debyg i mi gael fy llesteirio rhywfaint.
Yn gyntaf, meddyliwch sut y bydd eich modiwl yn edrych i fyfyrwyr y tro cyntaf y byddant yn eu gweld. Ydy’r modiwl yn gyfeillgar ac yn groesawgar, yn eu cyffroi a’u cymell ar gyfer y semester arfaethedig? Ydy hi’n glir beth sydd i’w ddisgwyl? Gellir gwneud hyn gyda fideo rhagarweiniol byr a chyffyrddiadau personol sy’n caniatáu i fyfyrwyr greu cyswllt â’r darlithydd, a’r brifysgol yn ehangach. Efallai ei bod yn bwysicach fyth ar hyn o bryd mewn cyfnod o ryngweithio cyfyngedig. Mae’r fideo rhagarweiniol hefyd yn egluro amcanion sylfaenol y modiwl. Gwnaeth Victoria ac Alex hyn ac roedd eu tudalennau hafan (gweler un Victoria isod) a/neu wybodaeth am y modiwl yn cynnwys popeth oedd ei angen ar y myfyrwyr, a dyma’r dudalen bwrpasol i fyfyrwyr oedd yn chwilio am gyfeiriad a gwybodaeth.
Peidiwch â dibrisio pwysigrwydd amserlen.
Isod gwelir adran wych o fodiwl gan Chris Loftus a aeth ati i fewnosod dolenni yn yr amserlen. Felly, y cyfan oedd angen i fyfyrwyr ei wneud oedd dod yno, gwirio’r dyddiad a byddai’r ddolen yn mynd â nhw i ble’r oedd angen iddyn nhw fod yn y deunyddiau dysgu, ac mewn tab newydd fel bod modd iddynt fynd yn ôl i’r hafan yn rhwydd. Offeryn gwych.
Mae amserlenni’n ddefnyddiol i fyfyrwyr sy’n dymuno bod ar y blaen er mwyn gwybod pa bynciau arfaethedig i ddarllen ar eu cyfer. Mae amserlenni hefyd yn ddefnyddiol i’r rheini sydd angen cymorth ar gyfer trefnu gan fod yr eglurder yn eu cadw ar y trywydd iawn. Yn gyffredinol, mae llawer o gysur i’w gael o allu gweld yn glir ble’r ydych chi o fewn modiwl, ble’r ydych chi’n mynd ac, yr un mor bwysig, pa mor bell ydych chi wedi dod.
Un peth arall, gwiriwch fod y dyddiadau’n gywir os ydych chi’n eu defnyddio mewn amserlenni oherwydd gall gwallau arwain at ddryswch. Rwy’n siŵr bod un Chris yn berffaith ond os ydych chi’n poeni am gamgymeriadau, mae rhifo’r wythnosau fel y gwnaeth Alex (isod) yn helpu i leihau problemau a lleddfu straen, yn enwedig i’r myfyrwyr hynny sydd â chymhlethdodau ychwanegol wrth astudio.
Mae cysondeb a dyluniad clir yn allweddol ar gyfer modiwl Blackboard sy’n hawdd llywio drwyddo a bydd yn lleddfu straen dod o hyd i ddeunyddiau angenrheidiol, a chyflymu’r broses. Mae ffyrdd gwahanol o gyflawni hyn e.e. dull wythnos ar y tro, fel ym modiwl Seicoleg Iaith Victoria (isod). Roedd popeth oedd ei angen ar gyfer pob wythnos mewn un lle, gan gadw myfyrwyr ar y trywydd cywir ar gyfer pob tasg, un darn ar y tro.
Neu, trwy rannu deunyddiau dysgu’n elfennau penodol e.e. darlithoedd, seminarau, gweithgareddau dysgu ac ati, fel ym modiwl Niwrowyddoniaeth Ymddygiadol Alex. Roedd ffolder pob darlith neu seminar yn cynnwys popeth oedd ei angen ar fyfyrwyr i’r wythnos neu’r sesiwn honno, gyda fideos darlithoedd wedi’u recordio, deunyddiau darllen, a phob math o adnoddau eraill i gefnogi dysgu’r myfyrwyr. Oherwydd ei sylfaen wyddonol gall hwn fod yn fodiwl heriol a all fod yn newid cyfeiriad sylweddol i fyfyrwyr Seicoleg. Mae defnyddio amrywiol gyfryngau fel adnoddau yn cefnogi anghenion dysgu amrywiol ystod ehangach o fyfyrwyr.
Roedd y darlithoedd wedi’u recordio ar y ddau fodiwl yn gymharol fyr, gan ei gwneud yn haws torri’r dysgu’n ddarnau llai a lleddfu’r teimladau llethol wrth wynebu darlith 2 awr mewn un eisteddiad. Roedd gan ddarlithoedd Victoria ac Alex gapsiynau (rwy’n gwybod bod gan y rhain broblemau weithiau!) ac roedd y ddau i’w gweld ar y sgrin, gyda hyn unwaith eto yn cadw’r cysylltiad rhwng y darlithydd a’r myfyriwr. Mae’r fideos hyn yn wych gan nad ydynt yn cynnwys yr ansawdd sain erchyll a’r toriadau fyddai mewn darlithoedd Panopoto a recordiwyd yn fyw. Mae modd addasu eu cyflymder sy’n arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n astudio mewn ail iaith (mae’n debyg) a gallwch eu stopio i wneud nodiadau. Er bod recordio’r darlithoedd hyn wedi bod yn dasg enfawr eleni, fe’u gwerthfawrogwyd yn fawr gan fyfyrwyr gan ganiatáu i’r sesiynau byw ymwneud â thrafod pynciau a holi cwestiynau, sy’n rhywbeth nad yw llawer o fyfyrwyr yn gyfforddus yn ei wneud mewn darlithfa yn fy mhrofiad i.
Fel y gwelwch, dim ond rhai tactegau ar gyfer gwneud modiwl yn hygyrch yw’r rhain, ond heb ymdrechion enfawr mewn amser a gwybodaeth dechnegol, maen nhw’n effeithiol a chlir, sydd mor fuddiol i fyfyrwyr. Cafodd modiwl yn dilyn yr un patrwm â’r enghreifftiau a welir yma effaith gysurlon iawn arnaf i gan fy mod yn gwybod yn union ble’r oeddwn i gyda’r modiwl a fy nysgu, a gan fod cydlynydd y modiwl mor drefnus, roeddwn yn teimlo mewn dwylo diogel.
Yn amlwg, gyda chynifer o ddisgyblaethau’n cael eu dysgu ar draws y brifysgol, mae’n amhosibl cael un dull sy’n addas i bawb. Ond os yw pob adran yn meddwl am eu myfyrwyr nhw, a’u cynnwys nhw, rwy’n siŵr y gallai gosodiadau Blackboard pob adran fod yn gyson ac yn batrwm i ateb gofynion eu myfyrwyr.