Bob blwyddyn, mae’r Grŵp E-ddysgu’n creu modiwlau newydd yn Blackboard yn barod ar gyfer addysgu’r flwyddyn nesaf. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 penderfynodd yr adrannau’n fewnol a fyddai’r modiwlau’n cael eu gadael yn wag neu a fyddai’r cynnwys yn cael ei gopïo. Bydd modiwlau ar gyfer 2021-2022 ar gael o ddechrau mis Awst.
Bydd modiwlau staff yn yr adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac IBERS yn cael eu creu’n wag. Rydym wedi paratoi’r Cwestiynau Cyffredin hyn gyda chanllawiau manwl ar gopïo gwahanol elfennau o un modiwl i’r llall yn Blackboard.
Bydd modiwlau pob adran arall yn cael eu copïo. Fel rhan o’r broses copïo cwrs, ni chaiff yr offer a’r cynnwys canlynol eu copïo:
- Cyflwyniadau Turnitin
- Aseiniadau Blackboard
- Cyhoeddiadau
- Blogiau
- Cyfnodolion
- Wicis
- Recordiadau a dolenni Panopto
- Cyfarfodydd Teams.
Hoffem gynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau gymaint ag y gallwn. Rydym yn hapus i drefnu ymgynghoriad dros Teams. I wneud hynny, anfonwch e-bost at elearning@aber.ac.uk